Jump to content

06 Hydref 2023

Ymateb CHC: ail arolwg blynyddol ymgynghori i TPAS Cymru ar osod rhenti

Ymateb CHC: ail arolwg blynyddol ymgynghori i TPAS Cymru ar osod rhenti

Mae TPAS Cymru wedi cyhoeddi canfyddiadau ei ail ymgynghoriad blynyddol ar osod rhenti.

Ymatebodd 881 o denantiaid tai cymdeithasol o bob un o’r 22 ardal awdurdod lleol yng Nghymru i’r arolwg hwn, gyda 51% ohonynt yn denantiaid cymdeithasau tai.

Wrth ymateb i’r wybodaeth a gafwyd o’r arolwg dywedodd Rhea Stevens, pennaeth polisi a materion allanol Cartrefi Cymunedol Cymru:

“Diben creiddiol cymdeithasau tai yw darparu cartrefi fforddiadwy i bobl sydd eu hangen. I ddeall fforddiadwyedd, mae staff cymdeithasau tai yn cysylltu’n uniongyrchol gyda thenantiaid, yn ogystal â deall eu safbwyntiau yn defnyddio gwahanol lwybrau tebyg i arolwg rhent TPAS Cymru.

“Mae cymdeithasau tai dim-er-elw Cymru yn cymryd gosod rhenti fforddiadwy o ddifri. Mae cymdeithasau tai yn asesu beth fyddai’n rhent fforddiadwy i’r bobl sy’n byw yn eu cartrefi, ac yn eu galluogi i ddarparu’r tai a’r gwasanaethau mae cymunedau eu hangen. Er y cynyddodd rhai rhenti tai cymdeithasol y flynedd, mae’r dull gweithredu targedig hwn yn golygu y gallodd 13 o’r cymdeithasau tai a gynrychiolwn rewi neu ostwng rhai o’u rhenti tenantiaid y llynedd.

“Rydym yn gwerthfawrog adborth tenantiaid i arolwg rhent TPAS am lefel yr ymgysylltu neu drafodaeth a gawsant gyda’u landlord ar eu cynnydd rhent diwethaf. Er fod cymdeithasau tai yn gweithio’n galed i sicrhau fod pawb yn derbyn yr wybodaeth gywir am unrhyw newid sy’n effeithio ar eu cartrefi, maent yn ymdrechu yn ddi-baid i wella, yn cynnwys drwy weithio gyda phartneriaid yn cynnwys TPAS Cymru.

“Er gwaith cymdeithasau tai, ynghyd â chyrff sectorau cyhoeddus, elusennau ac ystod eang o sefydliadau eraill, i gefnogi pobl yng Nghymru, mae’r argyfwng costau byw yn dal i effeithio’n ddwfn ar denantiaid tai cymdeithasol ac – fel y dangosodd yr arolwg hwn unwaith eto – maent yn parhau i fethu dod â deuben llinyn ynghyd heb unrhyw fai arnyn nhw eu hunain.

“Cysylltwch â’ch landlord cyn gynted ag sy’n bosibl os ydych yn denant cymdeithas tai ac un cael anawsterau gydag unrhyw faterion ariannol. Mae ganddynt dimau arbenigol i’ch helpu.”

Mae adroddiad TPAS Cymru am yr arolwg ymgynghori ar rent ar gael yn llawn yma.

For media queries in relation to this topic, please contact media@chcymru.org.uk.