Hyb Costau Byw
Yn gryno
Mae tenantiaid tai cymdeithasol ymysg y rhai a gafodd eu taro waethaf gan yr argyfwng costau byw. Gan fod llawer ar incwm isel, mae rhan fawr o’u harian eisoes yn mynd tuag at gost rhedeg eu cartref. Ond wrth i brisiau bwyd, tanwydd ac ynni barhau i godi, daeth dod â deupen llinyn ynghyd yn her ddyddiol.
Mae cymdeithasau tai yng Nghymru yn cymryd eu cyfrifoldeb am gefnogi eu tenantiaid drwy gyfnodau ariannol heriol o ddifrif calon, a gwnânt bopeth yn eu gallu i sicrhau fod pobl yn byw mewn cartrefi diogel, addas, cysurus a fforddiadwy.
Cafodd yr hyb ei greu i rannu arfer gorau, astudiaethau achos ac adnoddau defnyddiol arall gan ac ar gyfer cymdeithasau tai sy’n darparu cymorth hanfodol gyda chostau byw i’w tenantiaid. Caiff ei ddiweddaru’n rheolaidd wrth i’r sector ymateb i’r heriau sy’n esblygu yn ystod yr argyfwng.
Os hoffech gyfrannu astudiaeth achos at yr hyb hwn, anfonwch e-bost at bethany-howells@chcymru.org.uk os gwelwch yn dda.