Etholiad cyffredinol 2024: Sut y gall Llywodraeth DU helpu i ddatrys yr argyfwng tai yng Nghymru
Mae tai yn fater a gafodd ei ddatganoli i Gymru, ond er na fydd unrhyw ymrwymiadau uniongyrchol a gyhoeddir gan y pleidiau yn ystod yr etholiad cyffredinol o reidrwydd yn golygu newid yma, mae’n dal i fod ffyrdd y gall llywodraeth nesaf y DU weithredu i sicrhau fod pobl yn byw’n dda gartref yn awr ac i’r dyfodol
Dangosodd ymchwil dro ar ôl tro y gall cartref da helpu pobl i fyw bywydau iachach, hapusach a mwy llewyrchus. Yn y cyfamser, mae tai ansawdd gwael, anfforddiadwy ac anaddas yn gwaethygu’r anghydraddoldeb sy’n bodoli eisoes.
Rydym yn wynebu argyfwng tai mewn sawl maes ar hyn o bryd, a waethygwyd gan gostau byw uchel a chyfyngiadau a deimlir gan aelwydydd incwm isel. Mae pobl ar draws y wlad – yn cynnwys tenantiaid tai cymdeithasol – wedi brwydro yn erbyn costau byw ers nifer o flynyddoedd bellach, ac mae aelwydydd nid yn unig yn cario baich costau uchel o ddydd i ddydd ond hefyd waddol blynyddoedd o frwydro i ddod â deupen llinyn ynghyd.Er fod y maes tai wedi ei ddatganoli – ac felly yn gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru – Llywodraeth y DU sy’n rheoli rhai polisïau sy’n effeithio ar incwm a chostau aelwydydd, tebyg i lesiant ac ynni. Mae’r etholiad cyffredinol yn gyfle gwych i holl bleidiau gwleidyddol y DU ymrwymo o’r diwedd i’r newidiadau sydd eu hangen i ddatrys argyfwng costau byw y wlad a sicrhau y gall pawb fforddio’r hanfodion syml maent eu hangen i fyw.
Y broblem
Fel y saif pethau, mae’r system nawdd cymdeithasol y dylai pobl orfod dibynnu arni yn annigonol. Mae angen i ni weld gweithredu yn awr gyda gwelliannau sylfaenol i helpu atal twf tlodi yng Nghymru ac ar draws y DU.
Lwfans Tai LleolRhwng mis Ebrill 2020 a mis Ebrill 2023, cafodd y Lwfans Tai Lleol ei rewi, gan wneud y sector rhent preifat yn gynyddol anfforddiadwy. Ym mis Chwefror 2024 nid oedd yr un annedd ar gael ar gyfraddau’r Lwfans Tai Lleol yn bron 75% o awdurdodau lleol ar draws Cymru. Mae’r cyfraddau wedi eu cadw yn eu hunfan ac yn gorfodi llawer o deuluoedd ac unigolion allan o’r sector rhentu preifat ac i wasanaethau digartrefedd, ar adeg pan fo darpariaethau eisoes dan bwysau yn dilyn pandemig COVID-19, gan roi pwysau enfawr ar dai cymdeithasol.
Er i ni groesawu’r cynnydd i gyfraddau’r Lwfans Tai Lleol a gyhoeddwyd (a gafodd eu huwchraddio i’r 30ain canradd fel ar 30 Ebrill 2024), ni fydd y cymorth hwn yn parhau’n hir oherwydd cynlluniau cyfredol i ailrewi cyfraddau o 2025.
Mae’r argyfwng costau byw wedi dangos eto pa mor annigonol yw’r Credyd Cynhwysol wrth gefnogi pobl i dalu am hanfodion sylfaenol. Mae polisïau Credyd Cynhwysol tebyg i’r rhent pump wythnos ar gyfer talu, y terfyn dau blentyn a’r cymhorthdal ystafell sbâr hefyd yn gwaethygu caledi. Yn ychwanegol, mae didyniadau anghymesur a chosbau a adeiladwyd i’r system yn cyfrannu at greu cylch o gyllidebau negyddol.
Fel canlyniad, mae llawer o bobl – yn cynnwys cyfran fawr o denantiaid tai cymdeithasol Cymru – yn gorfod gwneud dewisiadau anodd rhwng talu am rent, tanwydd a bwyd, ac yn mynd i ddyled.
Caiff buddion yng Nghymru, yn cynnwys taliadau tai dewisol, yn gynyddol eu defnyddio fel cyllid bwlch ar gyfer polisïau llesiant y DU, tebyg i’r cap ar fudd-daliadau a dileu’r cymhorthdal ystafell sbâr. Mae darpariaethau lleol hefyd yn gorfod addasu i ddod yn rhwyd ddiogelwch ar gyfer unigolion sydd wedi disgyn drwy graciau’r system llesiant ganolog.
Mae cymdeithasau tai yng Nghymru yn dyrannu adnoddau sylweddol i helpu eu tenantiaid i ymdopi a’r argyfwng costau byw. Fodd bynnag, maent yn cyrraedd terfynau’r cymorth y gallant ei roi.
Nid yw'r dull darniog, ymateb argyfwng hwn yn gynaliadwy. Dylai pobl fedru dibynnu ar incwm llesiant penodol.
Biliau ynni a ddatgarboneiddio
Mae biliau ynni yn dal i fod yn agos at ddwywaith yr hyn oeddent cyn yr argyfwng, ac mae dyledion ynni wedi cynyddu wrth i bobl ei chael yn anodd talu. Mae tenantiaid tai cymdeithasol hefyd yn sôn am gostau ynni uchel fel un o’r prif resymau pam eu bod yn profi anawsterau ariannol. Mae’n rhaid i lawer o denantiaid wneud y penderfyniad anodd i gyfyngu gwresogi eu cartrefi, a all gael effaith pellgyrhaeddol ar iechyd corfforol a lles meddwl.
Bydd buddsoddiad cymdeithasau tai mewn gwella ynni yn allweddol i alluogi cyflenwi gostwng carbon ar draws pob aelwyd yn y DU. Bydd gwella effeithiolrwydd ynni ein cartrefi yn gostwng allyriadau carbon a hefyd wneud biliau tanwydd yn fwy fforddiadwy a chreu sgiliau a swyddi newydd fydd yn hybu’r economi lleol. Fodd bynnag, bydd datgarboneiddio ein stoc tai angen cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth y DU os ydym i gyrraedd ein targedau sero-net.
O’n safbwynt ni, mae dau lwybr sy’n ategu ei gilydd i ddatrys y ddau fater yma – ond bydd angen i Lywodraeth y DU weithredu’n gyflym.
Y datrysiad
Yn amlwg, mae angen ymagwedd mwy cydlynus rhwng polisi’r DU a pholisi datganoledig, i sicrhau nad oes neb yn syrthio rhwng y bylchau. Yn ein papur gwybodaeth newydd, rydym yn nodi ein galwadau am:
- ymagwedd holistig at gymorth llesiant sy’n atal digartrefedd ac yn cefnogi mynediad i’r farchnad rhent;
- diwygio Credyd Cynhwysol i sicrhau y gall hawlwyr dalu am hanfodion sylfaenol o leiaf;
- gwelliannau i’r system Credyd Cynhwysol ar gyfer hawlwyr a hefyd gymdeithasau tai;
- system ynni sy’n diogelu aelwydydd incwm isel;
- ymrwymiad gan y llywodraeth i gefnogi’r sector i gyflawni ei nodau sero net.
Lawrlwythwch ein papur gwybodaeth nawr i gael mwy o wybodaeth am y galwadau hynny.