Jump to content

23 Tachwedd 2023

Datganiad Hydref 2023: y newyddion allweddol i gymdeithasau tai a thenantiaid tai cymdeithasol Cymru

Datganiad Hydref 2023: y newyddion allweddol i gymdeithasau tai a thenantiaid tai cymdeithasol Cymru

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi rhannu ei datganiad Hydref 2023, gyda ffocws ar doriadau treth ar gyfer pobl a busnes, diwygio llesiant a buddsoddiad mewn busnesau sydd wedi targedu ar sectorau twf.

Daeth y datganiad ar adeg pan fo tenantiaid tai cymdeithasol, a’r gwasanaethau sy’n eu cefnogi, yn dal i ddioddef yn ddybryd o effeithiau’r argyfwng costau byw. Er y bydd llawer yn croesawu’r cyhoeddiadau yn y datganiad gan gredu y byddant yn llacio’r pwysau, mae eraill wedi codi mwy o gwestiynau.

Yma nodwn rai o’r cyhoeddiadau allweddol sy’n effeithio ar y sector tai cymdeithasol yng Nghymru a’r camau nesaf y byddwn yn eu cymryd i egluro unrhyw fanylion.

Mae papur gwybodaeth llawn ar gyfer ein haelodau ar gael yma.

Digartrefedd

Mae Llywodraeth y DU yn darparu £120 miliwn mewn cyllid ar gyfer y gweinyddiaethau datganoledig ac awdurdodau lleol yn Lloegr i’w buddsoddi mewn atal digartrefedd. Rydym yn awr yn gofyn am eglurdeb fel mater o frys ar statws yr ymrwymiad cyllid hwn a sut y caiff ei ddefnyddio.

Wrth ochr y newyddion yma, rydym wrthi’n ymgyrchu gyda Cymorth Cymru gan alw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu’r grant cymorth tai yn ei chyllideb ar gyfer 2024-25. Bob blwyddyn mae’r grant hwn yn ariannu gwasanaethau sy’n helpu mwy na 60,000 o bobl i osgoi digartrefedd, dianc cam-driniaeth, byw yn eu cartrefi eu hunain a ffynnu yn eu cymunedau. Fodd bynnag, dengys ein ymchwil diweddaraf ar draws gwasanaethau digartrefedd a chymorth tai fod y diffyg cyllid presennol yn cael effaith negyddol ar ddarpariaeth gwasanaeth, ac na all gwasanaethau mwyach wrthsefyll toriadau.

Mae mwy o wybodaeth am ein hymgyrch Materion Tai gyda Cymorth Cymru ar gael yma.

Llesiant a budd-daliadau

Fe wnaeth y Canghellor hefyd gyhoeddi y bydd budd-daliadau yn codi gan 6.7% y flwyddyn nesaf – sef cyfradd chwyddiant Medi 2023. Mae hyn yn gynnydd cyfartalog o £470 fesul aelwyd.

Mae’n sicr y caiff y newyddion hwn ei groesawu gan y bobl a theuluoedd sydd wedi methu fforddio hanfodion sylfaenol drwy gydol yr argyfwng costau byw. Fodd bynnag, mae angen i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru droi eu sylw at y ffyrdd eraill y mae pobl sydd ar yr incwm isaf – yn cynnwys tenantiaid cymdeithasau tai Cymru – yn dal i fod angen cymorth i’w helpu delio gyda’r blynyddoedd o ddyled a straen a achoswyd gan gynnydd mewn costau.

Yn dilyn ein hymchwil diweddar i effaith yr argyfwng costau byw parhaus ar gymdeithasau tai a’u tenantiaid, yn ddiweddar rydym wedi cyflwyno set o ofynion brys i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau fod pobl yn cael y gefnogaeth maent ei angen. Mae hyn yn cynnwys rhoi blaenoriaeth i greu tariff cymdeithasol ynni a darparu dewisiadau ad-dalu fforddiadwy ar gyfer y rhai sydd â dyledion ynni, yn ogystal â diogelu cyllid argyfwng presennol a sicrhau bod llwybrau i gymorth yn hygyrch ac wedi’i dargedu at y rhai sydd ei angen.

Ewch i’r dudalen hon i ddarllen ein hadroddiad ymchwil costau byw Methu Dod â Deupen Llinyn Ynghyd, a chanfod mwy am ein galwadau ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

Ynghyd â hyn, cyhoeddwyd newidiadau i’r Asesiad Galluedd Gwaith fydd yn gweld £1.3 biliwn o gyllid yn cael ei dargedu dros y pum mlynedd nesaf i gefnogi pobl gyda chyflwr iechyd yn ôl i’r gwaith. Bydd £1.3 biliwn ychwanegol ar gael i gefnogi’r rhai a fu allan o waith am dros flwyddyn heb unrhyw gyflwr iechyd.

Cyflwynir costau cryfach ar gyfer y rhai sy’n dewis peidio cymryd rhan mewn unrhyw un o’r rhaglenni sy’n anelu i’w cefnogi yn ôl i’r gwaith, a chaiff hawliadau eu cau ar gyfer unigolion a fu ar gosb pen-agored am dros chwe mis.

Yn wahanol i’r cynnydd mewn budd-daliadau, bydd y symudiad hwn yn newyddion gwael iawn i lawer o bobl na all weithio fel canlyniad i broblemau iechyd hirdymor dilys. Bydd y bygythiad o golli eu budd-daliadau os na fedrant ganfod gwaith yn rhoi pwysau enfawr ar bobl fregus ar yr incwm isaf – yn cynnwys llawer yn byw mewn cartrefi cymdeithasau tai – pan eu bod eisoes yn cael trafferthion gyda’r cynnydd mewn costau byw.

Grant bloc i Gymru

Ers hynny mae Rebecca Evans AS wedi cyhoeddi datganiad yn cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £305m ychwanegol ar draws 2023-24 a 2024-25. Mae hyn yn cynnwys £133m ychwanegol yn y gyllideb adnoddau yn 2023-24, a £167m ychwanegol mewn adnoddau a £5.8m mewn cyfalaf yn 2024-25.

Bydd cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, a ddisgwylir ar 19 Rhagfyr, yn cyflwyno cynigion am sut y caiff gwariant ar wasanaethau cyhoeddus ei dyrannu yn y flwyddyn i ddod.