Partneriaid masnachol newydd CCC: Plentific
Fel rhan o gyfres o blogiau ar partneriaid masnachol newydd Cartrefi Cymunedol Cymru ar gyfer 26/27, mae Henrik Von Bahr, Is-lywydd Gwerthiant, yn esbonio pam y dewisodd Plentific ffurfio partneriaeth newydd gyda’n sector.
Pam wnaethoch chi ddewis dod yn bartner masnachol i CHC?
Mae Plentific yn credu fod dyfodol tai cymdeithasol yn dibynnu ar ba mor effeithiol mae sefydliadau yn cysylltu ar draws systemau, data, cadwyni cyflenwi ac, yn hollbwysig, pobl.
Mae’r sector ar bwynt lle nad yw prosesau darniog a thechnolegau datgysylltiedig yn gynaliadwy mwyach. Mae cyflenwi gwasanaethau gwydn, safon uchel yn galw am gydweithio cryfach, rhannu dysgu a dull gweithredu mwy integredig.
Mae gan Cartrefi Cymunedol Cymru rôl hanfodol wrth alluogi’r cysylltiad hwnnw drwy ddod â darparwyr tai ynghyd i gyfnewid gwybodaeth, alinio ar heriau a llunio dyfodol y sector ar y cyd.
Mae dod yn Bartner Masnachol i CHC yn adlewyrchu ein hymroddiad i gefnogi’r trawsnewid hwn. Mae’n ein galluogi i gyfrannu ein profiad, rhannu dealltwriaeth ymarferol o bob rhan o’r Deyrnas Unedig a chydweithio gyda darparwyr tai Cymru i helpu adeiladu gwasanaethau tai mwy cysylltiedig ac effeithiol yr ymddiriedir ynddynt.
Mae Plentific yn credu fod dyfodol tai cymdeithasol yn dibynnu ar ba mor effeithiol mae sefydliadau yn cysylltu ar draws systemau, data, cadwyni cyflenwi ac, yn hollbwysig, pobl.
Pa wasanaethau ydych chi’n eu cynnig?
Er ein bod yn darparu gwasanaethau bancio llawn i’n cwsmeriaid yng Ngogledd Iwerddon, rydym yn darparu cyfleusterau credyd cylchol a dyled cyfnod i gwsmeriaid tai cymdeithasol ledled Lloegr a Chymru. Gallwn hefyd gynnig datrysiadau rheoli risg cyfraddau llog i’n cwsmeriaid.
Pa gyswllt fu gennych chi gyda’r sector tai cymdeithasol hyd yma?
Mae Plentific yn gweithio mewn partneriaeth gyda darparwyr tai cymdeithasol ar draws y Deyrnas Unedig i gyflenwi sefydliadau eiddo cysylltiedig, sy’n canolbwyntio ar y preswylwyr sy’n gwella cyflenwi gwasanaeth, yn cryfhau cydymffurfiaeth ac yn adeiladu gwytnwch sefydliadol hirdymor.
Mae’r platfform yn dod ag atgyweirio, cydymffurfiaeth, rheoli’r gadwyn gyflenwi ac ymgysylltu â phreswylwyr ynghyd mewn un amgylchedd integredig gan alluogi darparwyr tai i symud o brosesau darniog a weithredir â llaw i weithrediadau wedi’u symleiddio a gaiff eu gyrru gan ddata.
Sut y gal Plentific gefnogi cymdeithasau tai yng Nghymru?
Mae Plentific yn darparu platfform gweithredu cysylltiedig sy’n dod ag atgyweiriadau, cydymffurfiaeth, rheoli cadwyn gyflenwi ac ymgysylltu preswylwyr ynghyd mewn un ecosystem integredig.
Drwy gyfnewid systemau darniog am lif gwaith unedig a data amser real, rydym yn galluogi darparwyr tai i symud o weithredu yn ymatebol i wneud penderfyniadau yn fwy rhagweithiol a seiliedig ar ddirnadaeth.
Mae hyn yn cynnwys:
• Symleiddio gwaith atgyweirio a chynnal a chadw drwy reoli llif gwaith a diagnosteg pen-i-ben
• Cryfhau cydymffurfiaeth drwy wella gwelededd, y gallu i archwilio ac integriti data
• Optimeiddio perfformiad contractwyr drwy gadwyn cyflenwi cysylltiedig ac atebol
• Cyfoethogi profiad preswylwyr drwy ryngweithio hygyrch, trylow a hunan-wasanaeth
Tu hwnt i dechnoleg, sylweddolwn y caiff trawsnewid llwyddiannus ei yrru gan bobl. Dyna pam ein bod yn cefnogi sefydliadau gyda gweithredu a hefyd sefydlu strwythuredig, rheoli newid ac optimeiddio parhaus.
Gan ddefnyddio profiad o raglenni trawsnewid cymhleth ar draws y Deyrnas Unedig, rydym yn cynnig gwybodaeth ymarferol, dulliau gweithredu a brofwyd yn llwyddiannus a ffocws cryf ar fabwysiadu – gan helpu cymdeithasau tai yng Nghymru i gyflenwi newid cynaliadwy a gwytnwch gweithredol hirdymor.