Jump to content

31 Hydref 2023

Un Cwestiwn Mawr: Safon Ansawdd Tai Cymru

Un Cwestiwn Mawr: Safon Ansawdd Tai Cymru

Gyda chyhoeddi fersiwn ddiweddaraf Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC), siaradodd Cartrefi Cymunedol Cymru gyda siaradwyr ar draws y sector tai cymdeithasol i ofyn Un Cwestiwn Mawr iddynt ...

I gyflawni’r safonau uchelgeisiol a nodir yn SATC 2023, beth yw’r camau hanfodol sydd angen i landlordiaid cymdeithasol Cymru eu cymryd i recriwtio a chynyddu sgiliau digon o staff?

Image of Alan Brunt
Alan Brunt, CEO Bron Afon Community Housing

Alan Brunt, Prif Swyddog Gweithredol Cartrefi Cymunedol Bron Afon, aelod o fwrdd Cartrefi Cymunedol Cymru a Chynghrair Sefydliadol Cymru.

“Os mai SATC 2023 yw’r llwybr i ni ddod yn ‘hynafiaid da’ (a defnyddio geiriau Andrew Van Doorn o HACT), yna mae mater sgiliau yn rwystr i’w drafod. Mae’n ystyriaeth gynyddol i Bron Afon a’n cydweithwyr yn y sector, yn arbennig y sefydliadau sydd â gweithlu uniongyrchol. Mae hefyd yn bwynt trafod cyson o fewn Cartrefi Cymunedol Cymru a Chynghrair Sefydliadol Cymru, ond nid yw’r datrysiadau yn syml!

“Rydyn ni’n credu mai’r dull gorau i sicrhau newydd-ddyfodiaid i’r gweithlu yw gweithio ar y cyd gyda Choleg Gwent ar gynnwys rhaglenni prentisiaeth yn y dyfodol. Fodd bynnag, cafodd ei allu i addasu cyrsiau ei gyfyngu gan ddull cyllido a osodir ar lefel genedlaethol ac sy’n ffafrio ateb y galw ar unwaith heb fawr o hyblygrwydd i ragweld anghenion y dyfodol. Felly mae hefyd angen sgwrs ar lefel genedlaethol i gefnogi datrysiadau lleol.

“Fe hoffwn weld mwy o ffocws ar rannu prentisiaethau gyda chyfres o unedau dewis a chymysgu sy’n galluogi unigolion i arbenigo mewn meysydd neilltuol, ond gyda sylfaen greiddiol mewn crefft gydnabyddedig.

“Mae’n fy nharo fod SATC 2023 yn gyfle gwych i beilota hyn yn y sector tai cymdeithasol ond mae angen i ni ddechrau nawr i fedru gweld y budd tuag at ail hanner y rhaglen.”

Darren Hatton, pennaeth grŵp safonau tai, newid hinsawdd a materion gwledig, Llywodraeth Cymru

“Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’n Hadran Economi a Sgiliau ynghyd â chyrff diwydiant tebyg i Fwrdd Hyfforddiant y Diwydiant Adeiladu (CITB) a Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr (FMB) i asesu sgiliau ac anghenion cadwyn gyflenwi cynnyrch a gwasanaethau.

“Arweiniodd hyn at gyhoeddi Cynllun Gweithredu Sgiliau Sero Net Cymru ym mis Chwefror eleni. Mae’r cynllun gweithredu hwn yn edrych ar wyth sector allyriad yn cynnwys adeiladau preswyl.

“Cam nesaf y gwaith hwn fydd ymgynghoriad sgiliau ar draws y sector, fydd yn dangos gofynion sgiliau penodol y sector. Disgwyliwn yr aiff hyn yn fyw ym mis Medi 2023.

“Bydd yr ymgynghoriad hwn yn nodi sefyllfa sgiliau bresennol pob sector, y sgiliau sydd eu hangen yn y tymor byr, y tymor canol a’r hirdymor a sut y byddwn yn eu cyflawni. Bydd hyn yn arwain at gynllun sgiliau sector a cham gweithredu.

“Mae’n glir fod y safon newydd yn rhoi cyfleoedd sylweddol ar gyfer cadwyni cyflenwi Cymru o gynnyrch a gwasanaethau i ddatblygu cymuned sgiliau gyda chymwysterau achrediad TrustMark a PAS 20235 yng Nghymru.”

Image of Elly Lock
Elly Lock, head of policy and external affairs at Community Housing Cymru

Elly Lock, pennaeth polisi a materion allanol Cartrefi Cymunedol Cymru

“Mae’r SATC arfaethedig yn safon uchelgeisiol, fodd bynnag mae cymdeithasau tai yn hollol ymroddedig i weithio i gyflawni hyn.

“Er mwyn ei gwneud yn fwy realistig i gyflawni’r nodau hyn, mae’r sector tai cymdeithasol angen buddsoddiad a chefnogaeth fel mater o frys gan y llywodraeth i greu’r gweithlu medrus iawn sydd ei angen.

“Mae cymdeithasau tai yn ymroddedig i weithio gyda Llywodraeth Cymru i helpu llywio strategaeth sgiliau i sicrhau y caiff gweithwyr eu recriwtio a’u hyfforddi’n ddigonol i helpu darparu cartrefi mwy cynaliadwy.

“Mae eu hawydd i arwain wrth feithrin sgiliau gwyrdd hefyd yn golygu fod cymdeithasau tai yn buddsoddi mewn pobl a chymunedau lleol i gyflawni Cymru yfory. Yn y Gogledd, er enghraifft, mae cymdeithas tai Adra yn arwain partneriaeth dargarboneiddio sy’n dod â hyfforddiant, sgiliau a swyddi i’r gymuned leol i ganfod datrysiadau i ddatgarboneiddio cartrefi.

“Y math hwn o feddwl blaengar, ynghyd â chefnogaeth hanfodol gan y llywodraeth a gweithio partneriaeth, fydd yn galluogi landlordiaid cymdeithasol i recriwtio a chadw’r gweithlu mae ei angen.”

Malcolm Davies, uwch reolwr rhaglen/datgarboneiddio tai, Llywodraeth Cymru

“Mae’n hanfodol ein bod yn sicrhau sylwebaeth glir ar yr angen gwirioneddol fel y gellir sicrhau cyllid priodol, er nad yw hyn yn unig am y cyfredol, ond am yr holl reoli asedau, cynllunio a gweinyddiaeth sy’n mynd gydag ef.

“Mae cyfle sylweddol ar gyfer y rhai sy’n edrych am rôl newydd, neu i ymddeol, i aros ymlaen a dod yn hyfforddwyr – sy’n rhywbeth rydym ei angen fel mater o frys.

“Mae cynllunio olyniaeth, a’r angen i gysylltu a chodi ymwybyddiaeth ymysg rhai 10 i 21 oed am yr amrywiaeth fawr o yrfaoedd sydd ar gael ar draws yr holl gadwyn cyflenwi o adeiladu, dylunio, gwyddoniaeth, ymchwil cynnyrch, gweinyddiaeth, digidol a’r pedair sector cyfleustodau, hefyd yn hanfodol.”