Jump to content

17 Mawrth 2017

Credyd Cynhwysol: Safbwynt y Tenant

Picture of a monetary calculation“Cofiwch eu bod yn fodau dynol yn eu cartrefi...beth sy'n mynd ymlaen yn eu bywydau?”
- Sylw gan aelod o grŵp ffocws o'r adroddiad.



Aeth wythnos heibio ers lansio ein hadroddiad, Credyd Cynhwysol: Safbwynt y Tenant (Prifysgol Fetropolitan Caerdydd). Bu dros 80 o bobl yn bresennol yn y lansiad, yn cynnwys ein hymchwilwyr cymheiriaid.


Siaradodd Jane Bryant AC yn y digwyddiad ac rydym yn ddiolchgar iawn iddi. Comisiynwyd yr adroddiad gan Cartrefi Cymunedol Cymru a’i ariannu gan Sefydliad Oak.


Mae’r wasg tai wedi rhoi sylw i’r adroddiad ac wrth gwrs bydd sylwedyddion ac eraill am ddethol yr hyn a ystyriant fydd y materion allweddol i’w trafod.


Yr hyn oedd fwyaf calonogol i fi oedd y teimlai ein hymchwilwyr fod y neges yr oeddent yn ei chlywed wedi ei chyfleu.


Bu’r ymateb yn gyffredinol gadarnhaol a gofynnwyd i ni ymweld a rhai sefydliadau i drafod y canfyddiadau. Dywedodd rhai sefydliadau wrthym eu bod yn adolygu eu prosesau, neu o leiaf yn cael rhai trafodaethau am y materion. P’un ai a wneir newidiadau ai peidio, neu yn wir os caiff y pwyntiau i’w hystyried o’r adroddiad eu hanwybyddu, y ffaith fod adeg i aros a meddwl am y materion hyn o safbwynt y tenant oedd yr hyn y ceisiai yr awdurdod ei gyflawni.


Y camau nesaf i ni yw gweithio gyda’r ymchwilwyr cymheiriaid I gyhoeddi crynodeb gweithredu syml darluniadol y gobeithiwn fydd ar gael yn eang, ac rydym hefyd wedi trefnu seminar am ddim yma yn y brifysgol lle gallwn drafod y canfyddiadau a dechrau rhannu ymateb y sector I faterion gweithio gyda thenantiaid ar hyn.


Yn hyn i gyd, ein nod fydd parhau i fynegi barn y tenantiaid fel y cawsant eu cyfleu i’n tîm ymchwil a chyfrannu at y trafodaethau am y ffordd orau i weithio wrth ddelio gyda Credyd Cynhwysol.

Darllenwch yr adroddiad yma.




Amanda Protheroe
- Cydawdur yr Adroddiad, Prifysgol Metropolitan Caerdydd