Jump to content

07 Gorffennaf 2023

Ymrwymiad Newydd i helpu preswylwyr sy’n profi colli golwg yn cael ei gydnabod gyda gwobr RNIB

Ymrwymiad Newydd i helpu preswylwyr sy’n profi colli golwg yn cael ei gydnabod gyda gwobr RNIB

Mae cefnogi’r bob sy’n byw yn eu cartrefi i fyw bywydau llawn yn rhan greiddiol o’r hyn y mae cymdeithasau tai yn ei wneud.

Nid yn unig mae’r sefydliadau nid er elw yma yn ymroddedig i ddarparu tai o safon uchel i bobl ar draws Cymru, ond mae cymdeithasau tai yn credu bod cefnogi eu hiechyd a’u llesiant yn hanfodol.

Daw un enghraifft wych o hyn gan Newydd, sydd wedi mynd y filltir ychwanegol i gefnogi preswylwyr sy’n profi colli eu golwg.

Gwnaeth y gymdeithas dai newidiadau mawr i ddyluniad Arthur Davis Court yn y Barri, sy’n cefnogi preswylwyr 55 oed neu hŷn sydd wedi colli eu golwg.

Mae’r newidiadau, sy’n cynnwys waliau, gosodiadau a ffitiadau â lliwiau cyferbyniol; arwynebau sy’n teimlo’n wahanol i waliau a lloriau, arwyddion ar lefel y llygad, a chliwiau synhwyraidd i helpu pobl ddall a rhannol ddall i deithio trwy ardaloedd cymunedol, wedi cael effaith manteisiol iawn i’r bobl sy’n byw yno.

Diolch i ymroddiad y tîm mae Newydd wedi derbyn Gwobr Platinwm Visibly Better Cymru y Sefydliad Brenhinol Cenedlaethol Pobl Ddall (RNIB) am yr ail-ddylunio, sy’n galluogi pobl hŷn sydd wedi colli eu golwg i fyw’n annibynnol am fwy o amser.

Dyma’r pedwerydd o gynlluniau byw’n annibynnol Cymdeithas Tai Newydd i dderbyn y wobr. Cynllun achredu gan RNIB Cymru yw Visibly Better Cymru i gymunedau byw’n annibynnol i bobl hŷn a chartrefi gofal, sy’n cydnabod staff sy’n cael eu cefnogi i wella annibyniaeth, gallu i symud ac ansawdd bywyd y preswylwyr trwy newidiadau syml i’w mannau byw.

Two women standing together after receiving an award.
Arthur Davis Court in Barry has been awarded the RNIB's Visibly Better Platinum Award.

Dywedodd Cath Kinson, un o denantiaid Newydd a ddatblygodd glawcoma a chataractau yn ystod y cyfnod clo ac sydd wedi bod yn rhan o’r prosiect Visibly Better ers 10 mlynedd, bod y prosiect wedi bod yn “brofiad a roddodd gymaint o foddhad”.

Dywedodd: “Roedd y prosiect hwn yn cynnwys y bobl iawn, roedd yn dod i fannau lle’r oedd ar bobl ei angen, ac mae wedi cael effaith anferth ar gynlluniau gwarchod oherwydd nid oes neb wedi ei wneud o’r blaen yng Nghymru.

“Gall fod yn frawychus iawn mynd i rywle newydd pan fyddwch wedi colli eich golwg, achos fyddwch chi ddim yn gwybod a yw’r grisiau’n mynd i fod yn beryglus, neu pa rwystrau fydd ar eich ffordd. Ond oherwydd fy mod yn rhan o Visibly Better, wnes i ddim mynd i banig wrth golli fy ngolwg.

“Roeddwn yn gwybod y byddai’r sgiliau yr oeddwn wedi eu dysgu a’r newidiadau yr oeddwn wedi helpu i’w creu yn fy helpu. Ac erbyn hyn fedrai ddim stopio fy hun rhag tynnu sylw at ddyluniad anhygyrch ble bynnag y byddaf.”

Dywedodd Oonagh Lyons, Cyfarwyddwr Tai a Chymunedau yn Newydd ei bod yn bwysig i denantiaid allu mwynhau byw’n annibynnol yn Arthur Davis Court am cyn hired â phosibl.

Ychwanegodd: “Ond, allwn ni ddim cymryd y clod i gyd am y wobr hon, rhaid i ni gydnabod ymroddiad ein Haseswyr Cynllun sy’n Denantiaid. Maen nhw wedi gweithio’n anhygoel o galed i sicrhau bod y newidiadau a wneir nid yn unig er eu budd nhw eu hunain ond eu cymuned hefyd.”

Dywedodd David Watkins, Cydlynydd Visibly Better Cymru’r RNIB: “Roeddem yn falch iawn o weithio gyda Newydd eto. Mae’n wych gweld eu hymrwymiad parhaus i gefnogi preswylwyr dall a rhannol ddall. Ni ddylai colli golwg arwain at golli annibyniaeth, a bydd y newidiadau i Arthur Davis Court yn gymaint o help i denantiaid presennol a rhai’r dyfodol.”

Er mwyn cael gwybod rhagor am Visibly Better anfonwch e-bost at VisiblyBetterCymru.Mailbox@rnib.org.uk.