Jump to content

13 Mai 2022

Ymgynghoriad Safon Ansawdd Tai Cymru 2023: datganiad CHC

"Ar draws y wlad, mae cymdeithasau tai yn falch i fod wedi cyrraedd safon cyfredol y SATC drwy sicrhau bod tai cymdeithasol yn effeithiol o ran ynni, yn ddiogel ac yn fforddiadwy. Mae’r sector yn awr yn awyddus i gyrraedd safon newydd a all wneud cartrefi yn fwy fforddiadwy i’w gwresogi, mynd i’r afael â newid hinsawdd a hybu economïau lleol gyda swyddi newydd.

“Mae safon 2023 yn cynnwys targedau uchelgeisiol ar ddatgarboneiddio sy’n adeiladu ar y gwaith mae landlordiaid tai cymdeithasol eisoes yn ei wneud i fynd i’r afael ag effaith amgylcheddol cartrefi. Mae nifer o gynlluniau newydd eraill hefyd yn rhan o’r drafft a gyflwynwyd ar gyfer ymatebion, yn cynnwys cynyddu gofyniad ar gyfer lloriau, yn ogystal ag ystyriaeth o fioamrywiaeth a thlodi dŵr.

“Fodd bynnag, mae cymdeithasau tai angen cymorth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i gyflawni’r ystyriaethau lluosog ac uchelgeisiol hyn. Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol wedi amcangyfrif y byddai’n costio £5.5bn i ddatgarboneiddio tai cymdeithasol Cymru. Mae lefel realistig a chynaliadwy o gyllid yn hanfodol i lwyddiant safon y dyfodol.”

---

Nodyn: roedd 99% o holl gartrefi awdurdodau lleol a chymdeithasau tai yng Nghymru yn cydymffurfio gyda safon SATC 2002. Fe wnaeth bron holl anheddau landlordiaid cymdeithasol sicrhau cydymffurfiaeth (yn cynnwys methiannau derbyniol), o gymharu â 97% o anheddau awdurdodau lleol.

I ddweud eich barn ar y safon, cliciwch yma.