Strategaeth Gwres i Gymru – beth mae’n ei olygu ar gyfer tai
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei Strategaeth Gwres i Gymru, sy’n rhoi manylion y llwybr i gyrraedd sero net erbyn 2050 ar draws pob sector. Mewn dogfen 87-tudalen, mae’r llywodraeth yn nodi’r heriau fydd yn ein hwynebu, yr ymyriadau y byddwn eu hangen a’i gweledigaeth ar gyfer Cymru.
Yma, mae’r rheolwr polisi a materion allanol Bethan Proctor yn dadansoddi beth mae’r cyfan yn ei olygu ar gyfer tai yng Nghymru.
Er nad tai – yn cynnwys tai cymdeithasol – yw unig ffocws y Strategaeth Gwres i Gymru, y mae yn cynnwys gwresogi a dŵr twym ar gyfer adeiladau a hefyd ddiwydiant Ar hyn, mae ynni fforddiadwy ac nid dim ond ynni glân yn rhan o’r weledigaeth – ac ni fydd hynny’n ddim syndod i’r sector tai cymdeithasol.
Dan yr amcan cysylltiedig bydd “fframwaith rheoleiddio clir ar waith sy’n cefnogi cartrefi sero net ar draws yr holl dai rhent, tai sy’n eiddo i berchenfeddianwyr, a thai cymdeithasol’. Fel y nodir yn y ddogfen, mae un o’r gyrwyr polisi tuag at hyn eisoes yn ei le sef Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC), fydd yn gwella effeithiolrwydd ynni tai cymdeithasol presennol a newydd gyda’r nod o ddod â chartrefi mor agos ag sy’n ymarferol bosibl i EPC band A ac EIR band A. Dywedir fod y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio yn cynorthwyo tuag at y safon hwn.
Mae’r strategaeth hefyd yn cydnabod y bydd ymgysylltu gyda Llywodraeth y DU yn allweddol i roi’r gofynion rheoleiddio yn eu lle. Bydd hyn yn golygu dylanwadu ar gynlluniau Llywodraeth y DU i wahardd boeleri nwy mewn adeiladau newydd yn 2025, ac i ddod â gosod pob boeler nwy newydd i ben tu hwnt i 2035.
Yn gyffredinol, mae’n gadarnhaol gweld fod y strategaeth yn cydnabod buddion ehangach sero net tebyg i sut y gall darparu cartrefi cynhesach olygu biliau ynni mwy fforddiadwy, cyfleoedd cyflogaeth newydd, hwb i’r economi lleol, aer lanach yn ein trefi a dinasoedd a diogelwch ynni, gan ostwng dibyniaeth ar danwyddau tanwydd a gaiff eu mewnforio.
Mae cymdeithasau tai eisoes ar lwybr cryf at ddatgarboneiddio, ac mae gan y strategaeth hon y potensial i sicrhau y gall y gwaith hwn barhau. Dengys ein hymchwil y byddwn yn gweld, drwy ddim ond ddatblygu 75,000 o gartrefi newydd:
£23.2bn o weithgaredd economaidd ar draws Cymru
creu 50,000 o swyddi yn yr economi ehangach;
19,500 o gyfleoedd hyfforddiant a phrentisiaeth;
cymdeithasau tai eu hunain yn tyfu i gyflogi cyfanswm o 16,000 o weithwyr.
Fodd bynnag, yr hyn sydd ar goll o’r strategaeth yw cynllun ariannol hirdymor ar gyfer SATC. Pan gyhoeddwyd fersiwn 2023 o’r safon, fe wnaethom groesawu uchelgais Llywodraeth Cymru i wella ansawdd tai cymdeithasol ymhellach ar gyfer tenantiaid, yn arbennig o amgylch datgarboneiddio, oedd yn adeiladu ar waith caled y sector i gydymffurfio’n llawn gyda’r fersiwn blaenorol. Ond mae’n dal i fod yn hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn darparu’r offer a’r cyllid hanfodol sydd eu hangen i alluogi cymdeithasau tai i barhau i gefnogi tenantiaid a buddsoddi yn eu cartrefi.
Mae’r strategaeth yn cydnabod fod mynediad i gyllid yn rhwystr allweddol i weithredu, ond yn anffodus nid yw’n cynnig unrhyw ddatrysiadau. Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill i gyflwyno’r achos dros gyllid yn ogystal ag ymchwilio datrysiadau cyllid blaengar.