Jump to content

16 Ebrill 2026

Partneriaid masnachol newydd CCC: Cyflwyno Cubed Tax

Partneriaid masnachol newydd CCC: Cyflwyno Cubed Tax

Fel rhan o gyfres o blogiau ar partneriaid masnachol newydd Cartrefi Cymunedol Cymru ar gyfer 26/27, mae Dan Guy, cyfarwyddwr, yn esbonio pam y dewisodd Cubed Tax ffurfio partneriaeth newydd gyda’n sector.

Pam wnaethoch chi ddewis dod yn bartner masnachol i CHC?

Pan oeddem yng Nghynhadledd Cyllid CHC ym mis Hydref roedd yn amlwg o siarad gyda chynrychiolwyr fod angen cyngor, hyfforddiant a mwy o wybodaeth am drethiant. Cafodd Cubed Tax ei greu i rymuso’r trydydd sector drwy roi cyngor, hyfforddiant a chefnogaeth. Mae ein pecynnau hyfforddiant yn cynnwys ystod eang o bynciau ac yn ffordd wych i gynyddu sgiliau ac adeiladu hyder, gan yn y pen draw wella cydymffurfiaeth a lleihau risg a chost. Gallant gael eu teilwra i’r busnes neu angen a’u cyflwyno yn rhithiol neu wyneb yn wyneb, gan gynnig gwerth gwych am arian.

Mae gennym 5 cynghorydd TAW a ddewisodd arbenigo eu cyngor yn y trydydd sector – rhywbeth a deimlwn yn wirioneddol fyddai o fudd i gymdeithasau tai Cymru. Byddem yn anelu i gynrychioli CHC yn y Grŵp Cydlynu Tir ac Eiddo sy’n rhoi cyfle i HMRC a chynrychiolwyr a enwebir o gorff masnach sydd â diddordeb mewn materion TAW sy’n gysylltiedig â thir, eiddo ac adeiladu i gyfnewid sylwadau, trafod materion perthnasol a chryfhau dealltwriaeth HMRC o’i gwsmeriaid. Byddai popeth a ddysgid o hyn a diweddariadau treth eraill yn cael eu bwydo’n ôl i LCC Cymru mewn digwyddiad penodol rheolaidd ar y cyd ar gyfer aelodau CHC.
Mae ein pecynnau hyfforddiant yn cynnwys ystod eang o bynciau ac yn ffordd wych i gynyddu sgiliau ac adeiladu hyder, gan yn y pen draw wella cydymffurfiaeth a lleihau risg a chost. Gallant gael eu teilwra i’r busnes neu angen a’u cyflwyno yn rhithiol neu wyneb yn wyneb, gan gynnig gwerth gwych am arian.
Dan Guy, cyfarwyddwr, Cubed Tax

Pa wasanaethau ydych chi’n eu cynnig?

Mae hanfod ein gwasanaeth yn canolbwyntio ar arbenigedd technegol dwfn a hyblygrwydd gwirioneddol, gan deilwra cyngor manwl a thechnegol ar dreth i anghenion penodol y cleient. Caiff y dull hwn ei lunio i leihau costau gweithredol a’r amser a gaiff ei dreulio gan sicrhau’r safon uchaf o gydymffurfiaeth rheoleiddiol.

Mae cyfres gynhwysfawr a dewisol o wasanaethau yn ategu ein cyngor technegol gan alluogi cleientiaid i adeiladu pecyn cymorth a gaiff ei yrru gan werthoedd. Mae ein cynnig cyfredol yn cynnwys:

  • Cyngor wedi ei Deilwra ar Dreth: Arweiniad pwrpasol ar gyfer amgylchiadau penodol
  • Llinell Gyngor ar Bob Treth: Adnodd hygyrch ar gyfer ymholiadau ar unwaith.
  • Cyfarfodydd Adolygu Rheolaidd: Rheoli sefyllfa treth mewn modd rhagweithiol.
  • Adolygu Ffurflen TAW Blynyddol: Gwiriad manwl ar gydymffurfiaeth.
  • Tax Cubed Deirgwaith y Flwyddyn: Diweddariadau arbenigol a manwl i’r sector.
  • Hyfforddiant: Sesiynau aml-gleient, rhithiol a phwrpasol ar Dreth ar Werth, Treth Gorfforaeth, Treth Cyflogaeth a CIS.
  • Cefnogaeth a Phresenoldeb mewn Ymweliadau HMRC: Cymorth arbenigol yn ystod ymholiadau swyddogol.
  • Treth Gorfforaeth: Cefnogaeth lawn ac ymgynghori ar gydymffurfaieth.
  • Cynghori ar Dreth Cyflogaeth: Arweiniad arbenigol ar faterion cyflogres a threthiant cysylltiedig â chyflogaeth.


Sut all Cubed Tax gefnogi cymdeithasau tai yng Nghymru?

Mae Cubed Tax yn cefnogi cymdeithasau tai yng Nghymru drwy gyfuniad o gyngor pwrpasol, hyfforddiant arbenigol a chynrychiolaeth penodol i’r sector. Gan fod eisoes wedi cydweithio gyda wyth cymdeithas tai yng Nghymru, mae gennym ddealltwriaeth ddofn o’r tirlun treth lleol. Rydym yn cynnig pecynnau hyfforddiant cynhwysfawr, a gyflwynir yn rhithiol neu wyneb yn wyneb, yn rhoi sylw i Dreth ar Werth, Treth Gorfforaeth, Treth Cyflogaeth a CIS i uwchsgilio staff, gwella cydymffurfiaeth a lleihau risg a chost.

Ymhellach, gyda phump cynghorydd TAW yn arbenigo yn y trydydd sector, rydym yn ymroddedig i ddarparu cyngor technegol pwrpasol.

Mae Cubed Tax hefyd yn dymuno cynrychioli aelodau CHC yn y Grŵp Cydlynu Tir ac Eiddo, gan fwydo diweddariadau hanfodol a gwersi ar drethiant drwy ddigwyddiadau rheolaidd ar y cyd yn benodol ar gyfer LCC Cymru.

Pa gyswllt fu gennych chi gyda’r sector tai cymdeithasol hyd yma?

Mae Cubed Tax yn hollol ymroddedig i’r sector tai, gan fod yn bartner i 50 cymdeithas tai, yn cynnwys 8 yng Nghymru, sy’n rhoi dealltwriaeth ddofn i ni o dirlun treth cymhleth y sector.

Awn tu hwnt i ymgynghoriad un i un wrth feithrin dysgu ar y cyd drwy ein gweminarau ‘Tax Cube’ rheolaidd – fforwm cyfrinachol i gymheiriaid ar gyfer cael mynediad i’r wybodaeth ddiweddaraf a rhannu dealltwriaeth hollbwysig.

Rydym yn rhagweithiol wrth rannu gwybodaeth yn nigwyddiadau allweddol y diwydiant, tebyg i Gynhadledd Cyllid CHC, i gynyddu hyder mewn trethiant a chefnogi’r rhai sy’n mynychu wrth fireinio cydymffurfiaeth ac effeitholrwydd treth.

Beth yw’r cyfleoedd allweddol ar gyfer y sector tai cymdeithasol yng Nghymru a pha rôl ydych chi’n gweld eich corff yn ei chwarae wrth helpu cymdeithasau tai i gael y fantais fwyaf ohonynt?

Mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi y bydd yn ymgynghori ar ddiwygio rheolau TAW i roi cymhelliant i ddatblygu tir ar gyfer tai cymdeithasol. Ar hyn o bryd, dim ond pan mae adeiladu preswyl yn cyrraedd y cam ‘bricsen aur’ y gall tir gael graddiad sero. Mae hyn oherwydd fod adeilad ‘yn amlwg yn cael ei godi’. Gall gwneud trefniadau i ddiwallu’r maen prawf hwn weithiau arwain at oedi, cymhlethdodau a chostau uwch.

Byddai’n fanteisiol newid y rheolau i alluogi’r sefyllfa graddiad sero i fod ar gael ar drosglwyddo tir cyn y ‘fricsen aur’. Byddai hyn yn dileu cymhlethdodau yn ymwneud ag os yw’r perchennog tir neu’r gymdeithas tai yn dioddef cost TAW ar drosglwyddo’r tir.

Bydd Cubed Tax yn ymgysylltu gyda HMRC a Thrysorlys EF ar ran CHC am fanylion y mesur hwn. Bydd Cubed Tax a CHC yn llunio ymateb i’r ymgynghoriad ar ran LCC yng Nghymru.

Gallai’r newidiadau posibl i ddod newid sut mae datblygu yn digwydd yng Nghymru. Bydd sgil-effeithiau, er enghraifft gall LCC fod yn agored i TAW ychwanegol ar ffioedd proffesiynol lle caiff tir ei gaffael yn gynharach. Bydd Cubed Tax yn helpu sefydliadau i ddadansoddi’r sefyllfa ac ystyried opsiynau eraill a all fod ar gael i ostwng costau ymhellach e.e. defnyddio trefniadau dylunio ac adeiladu.

Mae hefyd gyfleoedd sylweddol i ostwng costau mewn meysydd eraill, er enghraifft, rydym yn gweld cyflenwyr heb fod yn gweithredu rhyddhad TAW ac adferiad TAW heb gael ei ddefnyddio’n llawn drwy ffurflenni TAW. Gyda’n cefnogaeth ymarferol, gallwn helpu i gyrraedd y sefyllfa orau bosibl.

Ymhellach, rydym yn gweld sylw sylweddol gan HMRC tuag at y sector drwy adolygu risg, adolygu CIS ac adolygu’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Gallwn eich helpu cyn ac yn ystod yr adolygiadau hyn i helpu gyda chynyddu cydymffurfiaeth.

Canfod mwy gan Cubed Tax