Jump to content

31 Gorffennaf 2023

Cymdeithasau tai yn cynnig cymorth gwerthfawr tu hwnt i gymunedau dros wyliau’r haf

Cymdeithasau tai yn cynnig cymorth gwerthfawr tu hwnt i gymunedau dros wyliau’r haf

Mae cymdeithasau tai yn darparu cymaint mwy na thai ar gyfer y bobl sy’n byw yn eu cartrefi – maent yn ymroddedig i ddod â chymunedau ynghyd, gan gynnig gwasanaethau cymorth gwerthfawr a gweithio gyda phartneriaid i helpu cymunedau i ffynnu.

Ond gyda chynnydd mewn prisiau yn cael effaith neilltuol o andwyol ar rai teuluoedd incwm isel, mae cymdeithasau tai yn sylweddoli y gallai gwyliau’r haf fod yn anodd i lawer o bobl.

Mewn ymgais i helpu, mae cymdeithasau tai ar draws Cymru yn gweithio i sicrhau y gall plant fwynhau amrywiaeth o weithgareddau yn ystod yr haf heb i deuluoedd orfod poeni gormod am arian.

Un gymdeithas tai o’r fath yw Cymdeithas Tai Merthyr Tudful sy’n cynnal ei chweched chynllun blynyddol Fit and Fed yn ystod gwyliau’r haf.

Mae Fit and Fed Merthyr Tudful yn brosiect cyfoethogi gwyliau ysgol ar gyfer plant a phobl ifanc Merthyr Tudful, a gyllidir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Gymunedol.

Rhwng 1 Awst a 2 Medi gall pobl ar draws Merthyr gymryd rhan mewn gweithgareddau ffitrwydd a llesiant, grwpiau cerdded, gweithdai iechyd a llawer mwy diolch i gynllun y gymdeithas tai.

Mae’r cynllun wedi ehangu i 15 safle ar draws y fwrdeistref yn cynnwys Bedlinog, Treharris, Aberfan/Ynysowen, Troedyrhiw a Thwynyrodyn, gyda nifer o fudiadau yn cefnogi a rhwng 30 a 60 o bobl yn rhoi eu hamser yn wirfoddol eleni.

Yn ogystal â bod yn bwysig wrth gefnogi plant i gymdeithasu a chadw’n brysur dros y gwyliau, mae’r cynllun hefyd yn hollbwysig o ran darparu cymorth maeth. Y llynedd cafodd 4,397 pryd eu gweini yn ystod cyfnod mis y cynllun, ddwywaith cymaint â’r 2,230 pryd a ddarparwyd rhwng 2018/19 yn ei flwyddyn gyntaf.

Fe wnaeth cyfanswm o 2,300 o bobl ddefnyddio Fit and Fed 4,397 gwaith yn 2018/19 yn unig – cynnydd sylweddol o’r 748 plentyn a pherson ifanc a ddaeth draw yn ei flwyddyn ariannol gyntaf.

Dywedodd Bethan Bartlett, uwch weithiwr cymdeithasol Clwb Bechgyn a Merched Georgetown, un o’r safleoedd ym Merthyr y mae Fit and Fed yn gweithredu ohono: “Bu eleni yn wych gyda phobl ifanc yn cael cynifer o gyfleoedd oherwydd Fit and Fed.

“Gallech weld y bobl ifanc yn datblygu mewn hyder, cyfathrebu a gwaith tîm. Fe wnaeth y bobl ifanc weithio’n galed a chael gwahanol gymwysterau neu rannau o gymwysterau.

“Fe wnaeth ein prosiectau newid yn ôl anghenion pobl ifanc a’r cyfleoedd sydd ar gael i’r clwb. Fe wnaethom lwyddo i wneud cymaint gyda’r cyllid, o ddyddiau a chyrsiau preswyl ar hwylio, tripiau i theatrau, celf a chrefft, pêl-droed, pêl-fasged, coginio, dodgeball, drama, cerddoriaeth, cerdded, gwobr Dug Caeredin, dyddiau traeth a llawer mwy.

“Drwyddi draw, cafodd y prosiect effaith wych ar y bobl ifanc a’r ganolfan. Mae llawer o’r bobl ifanc yn ei chael yn anodd yn ariannol ac mae cael y bobl ifanc hynny yn cael eu bwydo’n rheolaidd fel rhan o Fit and Fed wedi galluogi’r rhieni i gael ychydig llai i boeni amdano.

“Mae’r bobl ifanc wedi dysgu gwahanol sgiliau newydd yn ogystal â meithrin ymdeimlad o berthyn. Edrychwn ymlaen at weld sut y bydd y flwyddyn nesaf yn datblygu.”

Young children playing together

Mae cymdeithasau tai eraill yng Nghymru hefyd yn annog dysgu parhaus drwy gyfnod gwyliau’r haf, i sicrhau y caiff sgiliau hanfodol tebyg i lythrennedd a rhifedd eu cefnogi.

Mae cymdeithas tai Cymoedd i Arfordir yn cefnogi Her Darllen yr Haf ym mhob rhan o Ben-y-bont ar Ogwr. Mae’r cynllun, a lansiwyd gan Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen ac a gaiff ei rhedeg gan y Reading Agency a llyfrgelloedd cyhoeddus, yn annog plant i ddarllen o leiaf chwe llyfr dros gyfnod gwyliau’r haf i helpu cefnogi lefelau llythrennedd.

Mae’r gymdeithas tai yn cefnogi’r cynllun drwy roi 25% i ffwrdd i blant sy’n cofrestru ar gyfer un o lyfrgelloedd Awen yn cynnwys nofio, chwarae meddal, chwaraeon a mwy.

Bydd llyfrgelloedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr hefyd yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ar gyfer plant 6 i 14 oed gyda thema gwyddoniaeth ac arloesi dros gyfnod gwyliau’r haf. Caiff y digwyddiadau eu hariannu gan raglen Haf o Hwyl Llywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn cynnwys gweithdai Gwyddoniaeth Gorffwyll, gweithdai dawns ac oriau straeon brenhines drag. Mae mwy o wybodaeth yma.

Mae Tai Wales & West wedi darparu cyllid i Gyngor Ffoaduriaid Cymru i alluogi plant sy’n ceisio lloches i gael lleoedd diogel i chwarae ynddynt drwy gyfnod gwyliau’r haf.

Mae’r gymdeithas tai wedi darparu £7,800 mewn nawdd i’r elusen, fydd yn helpu Cyngor Ffoaduriaid Cymru i gefnogi teuluoedd yn ei sesiynau chwarae galw heibio a gynhelir deirgwaith yr wythnos yng Nghanolfan Eglwys y Drindod yn Sblot, Caerdydd gan roi mynediad i blant i deganau a llyfrau stori dwyieithog.

Mae hyd at 20 teulu o wledydd yn cynnwys Eritrea, Nigeria, Swdan, Syria, Irac, Afghanistan, Albania ac Wcráin, yn cwrdd gyda’u plant ifanc yn y sesiynau lle mae’r plant yn chwarae a gall rhieni gael cefnogaeth gan y staff a gwirfoddolwyr.

Bydd cefnogaeth Tai Wales & West hefyd yn galluogi’r Cyngor Ffoaduriaid i fynd â’r plant i Gaerdydd fel y gallant ddod yn gyfarwydd gyda’r ddinas a theimlo’n rhan o’u hamgylchedd.

Ar gyfer ymholiadau gyda’r wasg a’r cyfryngau cysylltwch â media@chcymru.org.uk