Cyhoeddi ffigurau Cyfrifon Cynhwysfawr ar gyfer Cymdeithasau Tai yng Nghymru
Rydym wedi cyhoeddi adroddiad Cyfrifon Cynhwysfawr heddiw sy'n dangos rôl hanfodol cymdeithasau tai i economi Cymru, gyda dros £2 biliwn wedi'u gwario yn 2017/18.
Comisiynwyd yr adroddiad mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru, gan gasglu datganiadau ariannol gan 33 o'r cymdeithasau tai mwyaf yng Nghymru, sy'n dangos fod y sector tai cymdeithasol yng Nghymru yn parhau i dyfu.
Mae'r canlyniadau'n dangos sector ariannol gadarn gydag ymrwymiad a gallu clir i gefnogi darpariaeth tai fforddiadwy ledled Cymru, cyfrannu'n sylweddol i economi Cymru a helpu i liniaru effaith tlodi ar fywydau pobl. Dros y cyfnod hirach, gweledigaeth y sector tai cymdeithasol yw adeiladu 75,000 o gartrefi erbyn 2036 ac i wireddu'r uchelgais hwn, mae'r sector angen sylfeini ariannol cadarn gyda pherfformiad cydnerth flwyddyn-ar-flwyddyn.
Mae uchafbwyntiau allweddol yr adroddiad yn cynnwys:
- £327m a fuddsoddwyd i ddatblygu cartrefi newydd yn 2017/18, cynnydd o bron 7% o 2016/17
- Cynnydd o 5% mewn trosiant ar gyfer y sector, gyda £445m o hwnnw wedi'i fuddsoddi'n ôl i adfywio drwy gydol y flwyddyn
- Mae'r sector yn awr yn berchen ac yn rheoli 162,439 o gartrefi
- Roedd gwariant uniongyrchol cymdeithasau tai yng Nghymru yn £1.2bn yn 2018, gyda 84% o'r gwariant hwnnw wedi'i gadw yng Nghymru
- Mae'r effaith cyflenwr anuniongyrchol yn golygu fod cyfanswm y cyfraniad i'r economi dros £2bn
- Dangosir lefelau asedau cymdeithasau, llai dibrisiant, ar £7.4bn, cynnydd o 7.2% ers 2017
- Mae lefelau cyfalaf a chronfeydd wrth gefn yn awr yn £1.16bn (2017: £1.07bn), gan ddangos yr hyder sydd gan fenthycwyr yn y sector tai cymdeithasol.
Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredwr Cartrefi Cymunedol Cymru:
“Mae'r ddogfen Cyfrifon Cynhwysfawr yn dangos sector gyda hanes clir o gyflenwi, ac uchelgais gynyddol i ddarparu'r cartrefi mae Cymru eu hangen i gartref da fod yn hawl sylfaenol i bawb.
"Mae'r adroddiad yn dangos ymrwymiad a gallu clir a pharhaus i gefnogi darpariaeth tai fforddiadwy ansawdd da ledled Cymru, ysgogi economi Cymru a helpu i liniaru effaith tlodi ar fywydau pobl.
"Mae'r Adolygiad o Dai Fforddiadwy yn rhoi cyfle pellach i greu amgylchedd ariannol a allai alluogi'r sector i gynyddu buddsoddiad, hybu gweithio partneriaeth a sicrhau fod punt a fuddsoddir mewn tai yn cael effaith ar draws Cymru."
Darganfyddwch mwy yma.