Jump to content

14 Awst 2023

Cydweithio ac arloesedd yn helpu cymdeithasau tai i oresgyn rhwystrau datblygu a mynd i’r afael â’r argyfwng tai

Cydweithio ac arloesedd yn helpu cymdeithasau tai i oresgyn rhwystrau datblygu a mynd i’r afael â’r argyfwng tai

Mae Clarissa Corbisiero, dirprwy brif weithredwr Cartrefi Cymunedol Cymru, llais cymdeithasau tai Cymru, yn trafod sut mae Cymru yn parhau i hybu cynnydd ar draws y sector tai cymdeithasol er gwaethaf rhwystrau economaidd a datblygu sylweddol

Y cynnydd mewn cyfraddau morgeisiau ar gyfer perchenfeddianwyr, a’r nifer cyson gynyddol o aelwydydd mewn llety dros dro, yw’r diweddaraf o nifer cynyddol o ddangosyddion allweddol bod y Deyrnas Unedig yn wynebu argyfwng tai.

Ac eto, yn y sefyllfa hon, mae Cymru yn dal i roi blaenoriaeth i adeiladu tai cymdeithasol carbon isel yn gyflym ac ar raddfa eang.

Mewn gwirionedd, mae’n amlwg bod cymdeithasau tai, sydd ar hyn o bryd yn adeiladu 80% o gartrefi fforddiadwy yng Nghymru, yn allweddol i fynd i’r afael â’r argyfwng tai.

Mae tair ffactor yn cefnogi cymdeithasau tai i barhau i fuddsoddi mewn adeiladu cartrefi newydd ar adeg o her sylweddol ar draws y sector datblygu.

Yn gyntaf, y teimlad gwleidyddol trawsbleidiol yw fod mwy o dai cymdeithasol yn un o’r prif lwybrau allan o’r argyfwng tai. Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed o 20,000 o gartrefi cymdeithasol gan ddarparu dull atebolrwydd am ei waith gyda’r sector tai cymdeithasol.

Yn ail, mae’r setliad cyllid aml-flwyddyn mwyaf erioed – o dros £300 miliwn y flwyddyn yn codi i £330 miliwn yn ystod 2023/24 ar gyfer tai cymdeithasol tai newydd – yn dangos hyder Llywodraeth Cymru yn y sector i fuddsoddi mewn partneriaeth gydag ef. Yn ystod 2021/22 cafodd 68% o’r unedau tai fforddiadwy a adeiladwyd yng Nghymru eu cyflenwi yn defnyddio grantiau cyfalaf Llywodraeth Cymru wrth ochr buddsoddiad gan landlordiaid cymdeithasol.

Bu hefyd ymagwedd bragmatig at grantiau i gyfarch y risgiau eithriadol a chynyddol yn y sector datblygu a gaiff eu gyrru gan yr argyfwng mewn costau byw. Cafodd cyllid hefyd ei ddarparu i drin cynnydd mewn cost deunyddiau a chafodd y defnydd o gartrefi presennol ei gynyddu i’r eithaf drwy’r Rhaglen Cyfalaf Llety Trosiannol (TACP), sy’n cefnogi cynlluniau gan awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i ddarparu llety dros dro.

Yn wir, y trydydd ffactor yw – tra bod adeiladu cartrefi newydd yn hanfodol – mae Cymru hefyd wedi cydnabod yr angen i wneud y defnydd gorau o bob cartref sydd ar gael.

Mae TACP yn anelu gwneud hyn drwy weithio gyda landlordiaid cymdeithasol i greu capasiti llety ychwanegol drwy ailwampio, addasu a defnyddio llety modiwlar. Mae’r cynllun hwn eisoes wedi galluogi cymdeithasau tai i gael mynediad i dros £80 miliwn o gyllid i greu capasiti tai a gwneud y defnydd mwyaf o gartrefi presennol.

Mae llwyddiant parhaus TACP yn dangos y gellir cyflawni deilliannau cadarnhaol pan mae Llywodraeth Cymru a chymdeithasau tai yn gweithio mewn partneriaeth.

Fodd bynnag, mae angen tua 7,000 o gartrefi newydd yng Nghymru bob blwyddyn i ateb y galw, gydag angen i hanner y cartrefi hynny fod yn rhai fforddiadwy. Dengys data y cafodd 2,676 o gartrefi fforddiadwy eu hadeiladu yn 2021/22 gyda chymdeithasau tai yn adeiladu 80% o’r cartrefi hynny. Yn amlwg, nid yw Cymru wedi ei hynysu rhag yr heriau sy’n wynebu’r sector datblygu yn ei gyfanrwydd.

Caiff y prif rwystrau i ddatblygu yn sector tai y Deyrnas Unedig eu gweld yma yng Nghymru hefyd: mae’n ddi-os fod amodau’r farchnad a chwyddiant yn cael effaith sylweddol ar gymdeithasau tai. Mae chwyddiant wedi gweld cynnydd enfawr yng nghost deunyddiau adeiladu, gan ei gwneud yn ddrutach i adeiladu ac yn anodd i gontractwyr weithredu.

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi arian i drin y cynnydd mewn costau deunyddiau adeiladu ac yn ceisio dileu’r rhwystr penodol hwn i helpu adeiladu. Ond mae pwysau ar draws y system cynllunio yn dal i gael effaith sylweddol. Ers pandemig Covid-19 bu prinder capasiti cynllunio ar draws Cymru i ymateb i’r galw, sydd wedi achosi oedi mewn prosesau a cheisiadau cynllunio.

Cafodd oedi pellach ei achosi gan gymhlethdod cynyddol cynllunio a rheoli’r amgylchedd. Yn benodol, mae heriau o amgylch draeniad cynaliadwy a lefelau ffosffadau mewn afonydd.

Dengys gwybodaeth gan ein haelodau fod problemau ffosffadau wedi effeithio ar naw cymdeithas tai ar ddiwedd Mai 2021, gyda 28 cynllun a fyddai’n darparu 1,046 o gartrefi fforddiadwy wedi dod i stop. Er ei bod yn galonogol gweld ffocws real a phenderfynol i sicrhau fod cartrefi newydd a rheoli amgylcheddol ansawdd uchel yn mynd law yn llaw gyda Chynllun Gweithredu Ffosffadau Tai Fforddiadwy Prif Weinidog Cymru, mae hyn yn fater nad oes ateb cyflym iddo.

Mae angen i ni fuddsoddi yn awr mewn rheoli amgylcheddol hirdymor i gefnogi adeiladu cartrefi, ac alinio gwneud penderfyniadau ar draws rheoli amgylcheddol tai a newid hinsawdd i sicrhau nad yw gwneud polisi mewn un ardal yn creu problem mewn ardal arall.

Mae Cartrefi Cymunedol Cymru yn ymroddedig i weithio gyda chymdeithasau tai, Llywodraeth Cymru a phob sefydliad cysylltiedig i sicrhau fod Cymru yn genedl lle mae tai da yn hawl sylfaenol i bawb.

Cartrefi Cymunedol Cymru yw llais cymdeithasau tai yng Nghymru. Mae’n cynrychioli 34 o gymdeithasau tai dim-er-elw sy’n darparu bron 165,000 o gartrefi i 10% o boblogaeth Cymru.