Argyfwng sy’n gwaethygu: nid yw’r argyfwng costau byw ar ben i denantiaid cymdeithasol yng Nghymru
Bu’n anodd i lawer ohonom addasu i’r ‘normal newydd’ a achoswyd gan yr argyfwng costau byw, gyda phris bwyd, ynni a hanfodion eraill yn parhau’n uchel. Ar gyfer tenantiaid tai cymdeithasol yng Nghymru, sydd ymysg y rhai ar yr incwm isaf, bu effaith yr argyfwng yn fwy na dim ond gorfod torri yn ôl. Mae llawer wedi methu ymdopi gyda chostau cynyddol ac yn awr yn byw mewn caledi parhaus.
Yma mae’n rheolwr polisii a materion allanol Bethany Howells yn cyflwyno ein hymchwil newydd ar effaith parhaus yr argyfwng costau byw ar denantiaid cymdeithasau tai yng Nghymru.
Mae ein system llesiant ganolog wedi methu rhoi rhwyd ddiogelwch gadarn ar gyfer pobl fregus, yn cynnwys tenantiaid tai cymdeithasol, i hyd yn oed ddal deupen llinyn ynghyd, heb sôn am roi’r sicrwydd economaidd maent ei angen i fyw’n gysurus.
Mae annigonolrwydd cyfraddau cyfredol Credyd Cynhwysol yn hysbys iawn. Dengys ymchwil Sefydliad Joseph Rowntree fod tua pump allan o chwech aelwyd incwm isel ar y Credyd Cynhwysol yn mynd heb hanfodion ar hyn o bryd – mae’r rhain yn bethau sylfaenol maent eu hangen i fyw.
Dengys ein hadroddiad ymchwil diweddaraf, Argyfwng sy’ngwaethygu – nid yw’r argyfwng costau byw ar ben i denantiaidcymdeithasol yng Nghymru, fod tenantiaid sy’n derbyn Credyd Cynhwysol yn un o’r grwpiau mwyaf tebygol i ymestyn allan i’w cymdeithas tai am help.
Mae pobl yng Nghymru sy’n derbyn budd- daliadau bum gwaith yn fwy tebygol i weithiau, yn aml neu bob amser beidio bod â digon i fforddio’r hanfodion na’r boblogaeth gyffredinol. Mae llawer o bobl ar fudd-daliadau yn byw mewn argyfwng parhaus.
Mae cymdeithasau tai yn gwneud yr hyn a fedrant i helpu eu tenantiaid yn y sefyllfa yma. Yn yr wyth mis rhwng mis Gorffennaf 2023 a mis Mawrth 2024, canfu ein hymchwil eu bod wedi cyhoeddi 2,685 taleb banc bwyd i denantiaid a rhoi cyngor ar ynni i 2,045 tenant. Fe wnaethant hefyd roi cymorth ariannol i fwy na 7,000 tenant ar gyfartaledd, bob tri mis ers mis Ionawr 2023.
Rhwng mis Gorffennaf 2023 a mis Mawrth 2024, fe wnaeth 17 cymdeithas tai hefyd helpu tenantiaid i gynyddu eu hincwm gan £17.4m. Mae’r cymorth hanfodol hwn yn dangos fod cymdeithasau tai dim-er-elw mewn lle da i ddarparu gwasanaethau cymorth ariannol i’w tenantiaid. Fodd bynnag, mae timau ariannol pob cymdeithas tai yn ei chael yn gynyddol anodd i gynyddu incwm tenantiaid. Mae llawer o’r tenantiaid a gefnogant eisoes yn derbyn yr uchafswm y mae ganddynt hawl iddo ac yn dal i’w chael yn anodd cael deupen llinyn ynghyd.
“Rwy’n cael fy hun yn dweud yn amlach nad oes mwy o arian – ac ymateb pobl yw sut wyf i fod i ymdopi ar hynny."
Mae’r rhan fwyaf o gymdeithasau tai yng Nghymru yn cynnig rhaff fywyd i denantiaid ar ffurf cronfeydd caledi. Mae’r rhain yn gronfeydd wedi eu dyrannu y gellir eu defnyddio ar ddisgresiwn cymdeithasau tai. Mewn arolwg yn 2024/25, dywedodd 95% o gymdeithasau tai fod ganddynt grant caledi. Mae hyn yn gwneud cyfanswm o £1.6m o gymorth ychwanegol ar gyfer tenantiaid cymdeithasau tai Cymru. Mae nifer y cymdeithasau tai sy’n darparu cymorth caledi wedi cynyddu flwyddyn ar flwyddyn o 69% yn 2021/22.
Mae ein adroddiad argyfwng sy’n gwaethygu yn dynodi rhai themâu cyffredinol sydd angen i ni eu hymchwilio ymhellach – er enghraifft, ddeall yn llawn yr effaith a gaiff symud i’r Credyd Cynhwysol ar denantiaid cymdeithasol yng Nghymru, dysgu mwy am sut y caiff budd-daliadau ei gweinyddu ar draws adurdodau lleol yng Nghymru, ac edrych yn fanwl ar yr heriau penodol ar gyfer gwahanol fathau o denantiaid sydd mewn anawsterau, fel y rhai sydd mewn gwaith neu’r rhai sydd ag anabledd. Bwriadwn gynnal mwy o ymchwil i’r themâu hyn dros yr haf a rhannu’r canfyddiadau yn ein hadroddiad nesaf ar gostau byw.
Mae’r dystiolaeth y gwnaethom ei chasglu wedi bod yn sail i’n gofynion ar gyfer Llywodraeth nesaf y DU yn y cyfnod cyn etholiad cyffredinol 2024.
Rydym angen dull gweithredu mwy cydlynus rhwng polisi San Steffan a Llywodraeth Cymru i sicrhau nad yw pobl yn disgyn rhwng y bylchau. Mae hyn yn golygu:
- dull gweithredu holistig ar gymorth llesiant sy’n atal;
- digartrefedd ac yn cefnogi mynediad i’r farchnad rhent;
- diwygio Credyd Cynhwysol i sicrhau y gall hawlwyr dalu am hanfodion sylfaenol fel isafswm;
- gwelliannau i’r system Credyd Cynhwysol ar gyfer hawlwyr a hefyd gymdeithasau tai;
- system ynni sy’n diogelu aelwydydd incwm isel;
- ymrwymiad gan y llywodraeth i gefnogi’r sector i gyflawni ei nodau sero-net.
Lawrlwythwch ein papur gwybodaeth ar yr etholiad cyffredinol nawr i gael manylion y galwadau yma.