2024: y flwyddyn wleidyddol i ddod ar gyfer tai cymdeithasol
Wrth i 2023 dynnu at ei therfyn, mae meddyliau’n anochel yn troi at yr hyn a all ddod yn y flwyddyn nesaf.
Gwyddom y bydd y 12 mis nesaf yn dod â newid gwleidyddol sylweddol, ond ni wyddom eto beth mae hynny’n ei olygu ar gyfer blaenoriaethau gwariant neu wariant cyhoeddus.
Ar lefel y Deyrnas Unedig, gwyddom y bydd etholiad cyffredinol. Ni wyddom yn union pryd fydd hynny ond mae’n rhaid iddi fod cyn Ionawr 2025. Er y caiff y rhan fwyaf o etholiadau cyffredinol eu cynnal yn ystod misoedd yr haf, mae’n debyg mai’r ffactor allweddol wrth benderfynu pryd fydd yr etholiad yw pan mae Rishi Sunak yn credu y bydd ganddo’r cyfle mwyaf o lwyddiant.
Dros yr ychydig fisoedd nesaf bydd yn rhaid i bob plaid ddangos i’r etholaeth sut y byddant yn mynd i’r afael â’r argyfyngau lluosog sy’n ein hwynebu ar hyn o bryd, bydded hynny yr argyfwng tai, yr argyfwng costau byw, argyfwng yr hinsawdd neu argyfyngau byd-eang tebyg i’r rhyfeloedd yn Wcráin ac Israel-Gaza.
Mae Llafur gryn dipyn ar y blaen i’r Ceidwadwyr ar hyn o bryd, fodd bynnag gwyddom y gall digwyddiadau – cartref a rhyngwladol – achosi newid syfrdanol ym marn etholwyr cyn yr etholiad.
Er fod llawer yn ansicr, gwyddom y bydd canlyniad yr etholiad cyffredinol nesaf yn edrych yn wahanol iawn yng Nghymru. Yn dilyn adolygiad gan y Comisiwn Ffiniau, bydd wyth yn llai o etholaethau, gan ostwng nifer yr Aelodau Seneddol sy’n cynrychioli Cymru o 40 i 32. Rhaid aros i weld pa effaith a gaiff y gostyngiad hwn mewn Aelodau Seneddol ar broffil Cymru a’r ystyriaeth a gaiff yn San Steffan.
Rydym yn cynnal sgyrsiau cynnar gyda’n chwaer ffederasiynau ar draws y Deyrnas Unedig i ddatblygu ymgyrch ar y cyd cyn yr etholiad cyffredinol, a sicrhau y caiff profiadau cymdeithasau tai, tenantiaid a chymunedau Cymru eu clywed yn eglur wrth i bleidiau ddechrau ar eu blaenoriaethau. Gallwn rannu mwy o fanylion yn y flwyddyn newydd.
Adfywio gweledigaeth
Digwyddiad gwleidyddol arall pwysig yw ethol Prif Weinidog newydd i Gymru, wrth i Mark Drakeford AS ymddiswyddo. Yn y flwyddyn i ddod, byddwn yn gweld ymgeiswyr yn amlinellu eu gweledigaeth eu hunain ar gyfer y wlad – yn cynnwys rôl tai.
Fel rhan o’n gwaith i sicrhau fod tai cymdeithasol yn parhau’n flaenoriaeth ar gyfer y Prif Weinidog nesaf a’i dîm/thîm, byddwn yn gweithio gyda’n haelodau a’n partneriaid i ddiwygio ein gweledigaeth am newid cynaliadwy, ac annog eraill i weithio gyda ni i’w chyflawni.
Byddwn yn creu gofodau i ymchwilio mesurau tymor hirach sy’n cefnogi newid o gyflwr o argyfwng i gyflwr sefydlog, ac ail-ffocysu ar atal. Byddwn yn dangos yr hyn mae tai cymdeithasol yn helpu i’w gyflawni yn ein cymunedau amrywiol a chyfraniad hynny at bartneriaethau gwasanaeth cyhoeddus ehangach. Byddwn yn cyflwyno achos cadarn i bwysau gweithredu gael eu hystyried yn llawn wrth ochr uchelgais.
Un o’r swyddi cyntaf ar gyfer y Prif Weinidog nesaf fydd penderfynu ar y tîm o’i gwmpas/chwmpas, ac mae’n bosibl y gallwn weld newidiadau sylweddol. Er enghraifft, mae’n bosibl y bydd Gweinidog newydd gyda chyfrifoldeb am dai, gyda’i brofiadau/ phrofiadau a blaenoriaethau ei hun. Rydym eisiau i’n gweledigaeth adnewyddedig helpu llunio a llywio’r blaenoriaethau hynny.
Symud ymlaen
Bydd diwedd cyfnod Mark Drakeford fel prif weinidog hefyd yn nodi diwedd y cytundeb cydweithredu rhwng Llafur a Phlaid Cymru. Ffurfiwyd hyn yn dilyn etholiad 2021 i Senedd Cymru, lle enillodd Llafur 30 allan o 60 sedd. Gan fod un yn brin o fwyafrif llwyr, unodd Llafur gyda Phlaid Cymru i symud ymlaen ar bolisïau o ddiddordeb i’r ddwy blaid. Pan gafodd ei ethol yn arweinydd Plaid Cymru cadarnhaodd Rhun ap Iorwerth na fyddai’n adnewyddu’r cytundeb hwn.
Mae tai yn rhan o nifer o’r 46 cyd-bolisi yn y cytundeb cydweithredu, yn cynnwys gweithredu ar ail gartrefi, rhoi diwedd ar ddigartrefedd, sefydlu cwmni adeiladu cenedlaethol (Unnos) a diwygio’r system diogelwch adeiladu. Wrth i’r cytundeb cydweithredu ddod i ben, gallwn ddisgwyl i’r argyfwng tai ddod yn faes cynyddol o graffu a her gan Blaid Cymru wrth iddynt symud yn gadarn i dir yr wrthblaid.
Digwyddiad pwysig arall yn 2024 fydd cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru. Cafodd cyllideb eleni ei disgrifio gan nifer o Weinidogion fel yr un anoddaf y bu’n rhaid i Lywodraeth Cymru ei gwneud ers ffurfio Senedd Cymru. Gyda phwysau chwyddiant yn parhau, nid ydym yn disgwyl i’r heriau ariannol lacio unrhyw amser yn fuan.
Rydym yn galw ar gyllideb 2024/25 i roi blaenoriaeth i dri pheth i alluogi cymdeithasau tai i adeiladu a buddsoddi mewn cartrefi newydd a chartrefi presennol a rhoi’r cymorth ansawdd uchel y mae tenantiaid yn dibynnu arnynt:
- Rhaglen fuddsoddi hirdymor i ddarparu cartrefi effeithiol a fforddiadwy ar gyfer pobl yng Nghymru.
- Ymagwedd fwy ystwyth a phragmatig at gyllid fel y gallwn ymateb i’r amgylchedd deinamig a heriol yr ydym ynddo.
- Ffocws newydd ar atal.
Yn ogystal â gwarchod cyfanswm buddsoddiad mewn cartrefi a chymorth, mae angen rhaglen fuddsoddi gytbwys, sicrwydd a hyblygrwydd cyllid i sicrhau ein bod yn rhoi cymaint o werth ag sy’n bosibl ar gyfer pobl Cymru.
Er fod llawer yn y flwyddyn i ddod sy’n ansicr ac a all newid, gwyddom fod cymdeithasau tai yn parhau’n flaengar, yn hyblyg ac yn ymroddedig i weithio mewn partneriaeth i ganfod datrysiadau pragmatig mewn cyfnod heriol.
Byddwn yn parhau i godi llais – a chanfod cynghreiriaid i weithio gyda ni – i sicrhau fod gan gymdeithasau tai yr offer a’r adnoddau maent eu hangen i barhau eu gwaith pwysicach nag erioed ar ran pobl a chymunedau ledled Cymru.
- Bethan Proctor, rheolwr polisi a materion allanol