Jump to content

11 Hydref 2023

Pedwar o gynlluniau ôl-osod tai mwyaf anarferol ac arloesol Cymru

Pedwar o gynlluniau ôl-osod tai mwyaf anarferol ac arloesol Cymru

Mae cymdeithasau tai arloesol yng Nghymru yn addasu clwb nos, adeilad a arferai fod yn siop Woolworths a hyd yn oed dafarn i fod yn gartrefi newydd.

Fel gweddill y Deyrnas Unedig, mae Cymru yng nghanol argyfwng tai ar hyn o bryd. Felly, er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i gyflawni eu diben craidd o ddarparu cartrefi fforddiadwy i’r bobl sydd eu hangen, mae cymdeithasau tai ar draws y wlad yn edrych ar ystod eang o gyfleoedd i adeiladu, datblygu a chyflenwi cartrefi.

Mae’r ymagwedd hon wedi gweld y sector yn canfod ffyrdd cynyddol greadigol i ôl-osod ac ailddatblygu adeiladau presennol i fod yn gartrefi ansawdd uchel, diogel a fforddiadwy. Dyma rai o’r cynlluniau ôl-osod mwy anarferol a diddorol y bu cymdeithasau tai yn gweithio arnynt.

Cyn adeilad Woolworth

Cafodd datblygiad arloesol Biophilic Abertawe gan gymdeithas tai Pobl, sy’n cynnwys hen adeilad siop Woolworths ar Stryd Oxford yn Abertawe, ei gymeradwyo fel y cyntaf ym Mhrydain.

Bydd y datblygiad ‘adeilad byw’, a ddarperir gan Hacer Developments a Pobl, yn cynnwys tŵr 13-llawr newydd yn rhan o’r siop flaenorol, gan gynnwys waliau gwyrdd a thoeau gwyrdd, ynghyd â chyfleuster addysgol, manwerthu, swyddfeydd, buarth wedi ei dirlunio, paneli solar ar y to, storfa batris a gerddi.

Bydd hefyd gymysgedd o dai fforddiadwy a rhan-berchnogaeth ar y safle, gyda Pobl yn rheoli tua 50 o fflatiau fforddiadwy.

Ynghyd â hyn, bydd y datblygiad cynaliadwy yn cynnwys fferm drefol dros bedwar llawr gyda dau dŷ gwydr ar y to. Bydd gan y mwyaf ohonynt dechnoleg a ddatblygwyd gan Brifysgol Abertawe i gefnogi twf 4.5 tunnell fetrig o ffrwythau, llysiau, cynnyrch salad a pherlysiau bob blwyddyn.

Cyn ysgol Gymraeg

Mae Trivallis wedi ailddatblygu cyn ysgol Gymraeg yn Llantrisant yn 18 o gartrefi newydd fforddiadwy.

Mae datblygiad Llys y Tri Sant wedi gweld cyn adeilad yr ysgol yn cael ei gynnwys yn y cartrefi newydd, gyda wyth fflat un ystafell wely, chwe fflat dwy ystafell wely, byngalo wedi ei addasu a thri tŷ yn cael eu hadeiladu wrth ei ymyl.

Cafwyd cyllid ar gyfer y cynllun ôl-osod o Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Cyn glwb nos

Mae Linc Cymru yn ôl-osod cyn glwb nos Zanzibar yng Nghasnewydd yn 37 fflat fforddiadwy.

Cafodd y cymdeithas tai ganiatâd cynllunio i drawsnewid y clwb poblogaidd yn llety un a dwy ystafell wely ar gyfer tenantiaid. Bydd y llety yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd, gyda phaneli solar ar bob cartref a gaiff eu hadeiladu yn defnyddio dull ffabrig-yn-gyntaf.

Prynodd Linc Cymru yr adeilad, a fu hefyd yn eglwys yn flaenorol, yn 2020 ar ôl i dân achosi difrod iddo yn 2018.

Hen dafarn S.A Brains

Mae cymdeithas tai Newydd wedi dod yn gyfrifol am 28 cartref yng nghyn dafarn Brains yng Ngwesty’r Seaview yn y Barri.

Er mwyn cwblhau’r cynllun ôl-osod hwn a thrawsnewid y gyn dafarn i fod yn dai fforddiadwy, bu’r gymdeithas tai yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Bro Morgannwg a chafodd gymorth o Raglen Grant Tai Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Dechreuodd y gwaith adeiladu yn 2021, dan arweiniad Sterling Construction o Crosshands, ac mae’r llety newydd yn awr yn croesawu tenantiaid.

Mae Cartrefi Cymunedol Cymru yn cynrychioli 34 cymdeithas tai nid-er-elw yng Nghymru, sy’n darparu bron 165,000 o gartrefi ar gyfer 10% o boblogaeth Cymru.


Gyda’n gilydd, ein gweledigaeth yw gwneud Cymru yn wlad lle mae cartref da yn hawl sylfaenol i bawb.

Ar gyfer ymholiadau’r cyfryngau cysylltwch â Gemma Gwilym ar gemma-gwilym@chcymru.org.uk