Parhau cynnydd yn wyneb her sylweddol
Araith Stuart Ropke, Prif Swyddog Gweithredol Cartrefi Cymunedol, yn ein cynhadledd 2022
Bore da bawb a chroeso cynnes i’r gynhadledd.
Mae’n fraint fawr bod yn yr un ystafell â chynifer o’n haelodau, aelodau masnachol a phartneriaid eraill sydd wedi ymuno â ni yn ein cynhadledd flynyddol gyntaf wyneb yn wyneb mewn tair blynedd.
Mae llawer wedi digwydd ers y tro diwethaf i ni fod gyda’n gilydd.
Yng nghanol 2019 roeddem yn=g nghanol ein hymgyrch etholiad cyffredinol, a gobeithiem am gyfnod sefydlog yn San Steffan. Roedden yn obeithiol y gallem o’r diwedd ddarganfod beth fyddai natur ein perthynas gyda’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol. Wn i ddim amdanoch chi, ond cafodd fy ngobeithion am y ddau beth yma eu hysgwyd rywfaint.
Roedd Cymru wedi datgan argyfwng hinsawdd. Arweiniodd trychineb Grenfell Tower yn 2017 at fwy o ffocws ar ddiogelwch a phwysigrwydd clywed llais tenantiaid. Roeddem yn cynyddu gweithredu ar y cyd gyda phartneriaid i ddod â digartrefedd i ben.
Roeddem yn nodi pen-blwydd CHC yn 30 oed, ac yn ystyried yr amodau a arweiniodd at i gymdeithasau tai Cymru ddod ynghyd gydag eglurdeb pwrpas a gaiff ei rannu i ddiwallu heriau’r cyfnod; a sut y gwnaeth yr un consensws hwnnw barhau i fod mor hanfodol yn wyneb yr heriau eraill fel y deallem nhw.
Ac yna daeth 2020.
Newidiodd Covid-19 fywyd pob un ohonom, ond ni chafodd ei effaith ei deimlo’n gyfartal. Cafodd ganlyniadau ofnadwy ar unigolion a chymdeithas a ddangosodd anghydraddoldeb llwm Cymru. Er fod gwaethaf y pandemig – gobeithio – yn gadarn tu ôl i ni, mae gwaddol Covid-19 ar iechyd ac economi y genedl yn parhau.
Ynghyd ag adladd y pandemig, mae heriau byd-eang yn cael effaith enfawr yn ein cartrefi ac ar garreg y drws, ac yn parhau i gael effaith anghymesur ar y bobl ar yr incymau isaf.
Mae digwyddiadau hinsawdd niweidiol – llifogydd, stormydd, sychder, gwres eithafol – yn digwydd sawl gwaith y flwyddyn – gan adael dinistr ar eu hôl. Mae angen dybryd i ddatgarboneiddio a gostwng allyriadau nwyon tŷ gwydr, ond mae cynnydd yn boenus o araf.
Caiff effaith y rhyfel yn Wcráin ei deimlo’n ddrwg yma. Mae llawer iawn o waith i ddarparu cartrefi a chymuned ar gyfer pobl sy’n ffoi rhag y rhyfel yn mynd rhagddo. Bu cynnydd mawr mewn costau bwyd, tanwydd ac ynni. Mae’r cynnydd dramatig yma mewn costau byw eisoes yn golygu na all gormod o bobl yng Nghymru fforddio aros yn gynnes yn eu cartrefi, eu bwydo eu hunain na’u teuluoedd, na thalu eu rhent a biliau eraill.
Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru yn ddiweddar fod maint yr argyfwng costau byw yn taro pocedi llawer mwy o bobl ac yn rhoi teuluoedd sydd wedi llwyddo i fyw’n gysurus mewn tlodi am y tro cyntaf. Yn ogystal ag effeithio ar denantiaid, gwyddom fod llawer o’n cydweithwyr gwerthfawr yn wynebu’r un caledi.
Rhagwelodd Banc Lloegr ein bod yn wynebu’r dirwasgiad hiraf ers dechrau cadw cofnodion. Dangosodd dadansoddiad yr ONS yr wythnos ddiwethaf fod chwyddiant yn 11.1% - ond i aelwydydd incwm isel roedd chwyddiant yn 11.9%, ac ar gyfer y rhai mewn tai cymdeithasol roedd yn 12.2%.
Dywed profiad wrthym mai’r rhai ar incwm isel fydd yn dioddef mwyaf ac am hiraf fel canlyniad i effaith gronnus yr heriau hyn – sydd yn andwyol eisoes ar eu pen eu hunain.
Nid dim ond gwasgfa economaidd dros dro yw’r argyfwng presennol mewn costau byw: gallai’r canlyniadau barhau am genedlaethau os na fedrwn warchod y rhai sydd fwyaf bregus rhag caledi eithafol.
Gwnaeth datganiad cyllidol yr wythnos ddiwethaf hi’n glir y caiff gwariant cyhoeddus gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ei wasgu’n ddifrifol am y dyfodol rhagweladwy. Er ein bod yn falch i weld ein galwadau am godi budd-daliadau yn unol â chwyddiant, a rhai newyddion da ar daliadau caledi ychwanegol i helpu gyda chostau ynni, mae’r rhai ar yr incwm isaf yn parhau i wynebu realaeth caledi eithafol yn y misoedd nesaf.
Er £1.2 biliwn ychwanegol i Gymru mewn cyllid canlyniadol o’r datganiad cyllidol, mae Llywodraeth Cymru yn wynebu toriad mewn gwir dermau i’w chyllideb flynyddol, gan adael Gweinidogion gyda dewisiadau anodd wrth iddynt geisio cynnal gwasanaethau cyhoeddus a lliniaru’r poen uniongyrchol y mae cymunedau yn ei deimlo.
Drwyddi draw, mae’r rhagolygon yn heriol iawn – ac mae mwy o frys nag erioed am yr angen i weithredu.
Felly sut y gall Cymru wneud y cynnydd sydd cymaint o’i eisiau yn wyneb yr heriau seismig a chronnus hyn? Sut ydyn ni’n blaenoriaethu pan fod yr angen mor fawr ac arian mor dyn?
Mae cymdeithasau tai yn darparu cartref i 1 ym mhob 10 o boblogaeth Cymru ac maent yn gweithredu mewn cymunedau ledled y wlad. Fel busnesau cymdeithasol annibynnol sydd wedi buddsoddi yn llwyddiant hirdymor y bobl y darparwn eu cartrefi a’r mannau a weithiwn, mae gennym gyfrifoldeb i feddwl am y rhan y gallwn ei chwarae i helpu gostwng y pwysau enfawr hwn.
Ni fu eglurdeb diben ac uchelgais a gaiff ei rannu – a oedd yn gatalydd i ddechrau’r bartneriaeth rhwng cymdeithasau tai yng Nghymru 33 mlynedd yn ôl - erioed yn bwysicach. Ond mae angen i ni yn awr fynd â’r uchelgais hwnnw a’i roi ar waith gyda’r heriau sy’n wynebu pobl heddiw.
Ac mae’n rhaid i ni ddechrau drwy fod yn onest. Yn onest am faint yr heriau a beth mae hynny’n ei olygu ar sut y cyrhaeddwn ein nodau.
Mewn misoedd diweddar rydym wedi dechrau ar sgwrs heriol ond adeiladol gyda’n partneriaid mewn llywodraeth am “wyddor y posibl”. Un sydd yn seiliedig mewn realaeth – realaeth effaith gronnus gofynion sy’n cystadlu am adnoddau cymdeithasau tai. Drwyddo rydym yn ceisio datrysiadau a chonsensws ar sut y gallwn flaenoriaethu’r mesurau sy’n manteisio i’r eithaf ar y gwahaniaeth – i’r bobl sy’n byw yn ein cartrefi heddiw a hefyd y rhai fydd yn gwneud hynny yn y dyfodol.
Mae ein gwaith ar ran ein haelodau i ymateb i’r ymgynghoriad ar Safon Ansawdd Tai Cymru ar ei newydd wedd yn enghraifft ragorol o hyn.
Ar draws y sector, bu’n uchelgais ar y cyd gennym dros gyfnod maith i chwarae ein rhan lawn i gyfyngu cynhesu byd-eang i ddim mwy na 1.5°C erbyn 2050, drwy gyflawni sero-net. Mae llawer ohonoch wedi achub y blaen ac wedi dilyn datrsiadau arloesol eich hunain sy’n torri tir newydd, yn ogystal â chydymffurfio gyda’r safonau amgylcheddol ac effeithiolrwydd ynni llym a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.
Cafodd yr uchelgais hwnnw ei gyfateb yn y drafft safonau, ac mae’r egwyddorion a nodir yn union yr hyn y dymunwn ei weld yn cael ei fabwysiadu yng Nghymru. Yn y tymor byr iawn, gwyddom fod gostwng costau rhedeg cartref yn un o’r ffyrdd hollbwysig y gallwn glustogi peth o’r effaith ar unigolion a chymunedau ar draws Cymru.
Ond fel y gwyddom i gyd, ni fedrir cyflawni’r cynigion a nodir yn y ddogfen ymgynghori. Mae angen i ni lunio trywydd sydd wedi ei wreiddio mewn realaeth i sicrhau’r cartrefi effeithiol o ran ynni mae Cymru eu hangen.
Rydym eisiau gweld blaenoriaeth i fuddsoddiad dechreuol i gefnogi aelwydydd sy’n dlawd o ran tlodi a buddsoddiad pellach dros gyfnod mater ymarferol fydd yn galluogi’r gadwyn cyflenwi yng Nghymru i gynyddu i ateb y galw.
Mae’n rhaid i ni weithredu i ddiogelu cymunedau rhag effeithiau gwaethaf yr argyfwng yn awr, tra’n adeiladu capasiti Cymru i gyrraedd y nodau a rannwn ar ddatgarboneiddio a medi manteision economaidd a chymdeithasol llawn y gallai’r buddsoddiad hwn ei roi.
Rydym yn awr yn disgwyl ymateb y Llywodraeth i’r ymgynghoriad ar Safonau Ansawdd Tai Cymru, a ddisgwylir ddiwedd mis Rhagfyr.
Fodd bynnag, mae’r her a osodwyd drwy wneud hynny – fod angen i ni feddwl yn wahanol iawn am sut y cyrhaeddwn y nodau a rannwn – yn parhau yn fyw yn ein holl drafodaethau gyda’r llywodraeth a’r partneriaid ehangach.
Pan gyhoeddodd y Gweinidog yr oedi i weithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) yn gynharach eleni, soniodd am y pwysau digynsail sy’n wynebu landlordiaid a’r angen i sicrhau fod y systemau a phrosesau cywir yn eu lle i gefnogi tenantiaid, a sicrhau eu bod yn deall eu hawliau o fewn y fframwaith newydd.
Yn yr amgylchedd hwn, gan gydnabod fod yr her wedi newid a bod angen i ni flaenoriaethu o’r newydd sut ydym yn buddsoddi a lle i ganolbwyntio ein hegni ar y cyd yn hanfodol. Mae’n cynrychioli dealltwriaeth mai’r cynnydd mewn costau byw yw’r her fwyaf sy’n wynebu tenantiaid heddiw ac i’r dyfodol rhagweladwy.
Yn y cyfnod mwyaf heriol hwn mae angen i ni barhau i godi llais yn eofn a chadw’n gadarn i’n hymrwymiad i wneud pethau’n iawn. Ac wrth i ni ddal eraill i gyfrif, ni ddylem adael unrhyw garreg heb ei throi i ddal ein hunain yn atebol am y gwasanaethau a ddarparwn i denantiaid sy’n byw mewn cartrefi cymdeithasau tai.
Mae’r newyddion trasig am farwolaeth Awaab Ishak, a achoswyd gan lwydni yn ei gartref, wedi ysgwyd pawb ohonom. Mae ein cydymdeimlad dwysaf gyda theulu Awaab wrth iddynt fynd drwy’r cyfnod anodd iawn hwn.
Dylai’r ffaith y gallai plentyn dwyflwydd farw ym Mhrydain oherwydd cyflwr ei gartref – y man lle dylai fod fwyaf diogel – fod tu hwnt i amgyffred. Gofynnodd y cwsmer ei hunan “Sut ym Mhrydain yn 2020 y mae plentyn dwyflwydd oed yn marw fel canlyniad i lwydni yn ei cartref?”
Roedd teulu Awaab a gweithwyr proffesiynol eraill wedi dweud wrth eu landlord am eu pryderon am lwydni, ond ni chafodd ei drin. Fe wnaethant yr hyn y gofynnwn iddynt wneud – siarad gyda’u landlord – ond ni wnaed dim.
Rhaid i ni beidio byth ganiatáu i brosesau a systemau fynd yn ffordd gwrando a gwneud y pethau cywir. Fel arweinwyr tai, gweithwyr ac ymgyrchoedd, mae’n rhaid i ni weithio i sicrhau y caiff y neges a rannwn - siaradwch gyda ni, fe wnawn helpu – ei gweld, ei chredu a’i gwneud yn real i denantiaid a chymunedau.
Mae adroddiad y crwner yn amlinellu’r methiannau proses a systemau a gyfrannodd at ddiffyg gweithredu. Fel arweinwyr, gwn eich bod yn ystyried gwersi’r drasiedi yma ac edrych yn fanwl ar eich polisïau, arferion a systemau eich hun i sicrhau na allai dim byd fel hyn byth ddigwydd eto. Er y dengys ystadegau diweddaraf Llywodraeth Cymru fod cartrefi cymdeithasau tai yn parhau i gael eu codi i safon dda gan landlordiaid cymdeithasol, mae’n rhaid i ni ymdrechu’n ddi-baid i sicrhau fod ein holl gartrefi yn ddiogel, ac na all trasiedi fel hyn byth ddigwydd eto.
Mae hwn yn ddigwyddiad trasig sy’n dod ag arweinwyr yn sector cymdeithasau tai Cymru ynghyd – ar lefel Bwrdd a lefel Gweithredwyr. Gwn y bydd llawer ohonoch yn gofyn i’ch hunain os yw eich diwylliant un sy’n annog tenantiaid a staff i godi llais pan nad yw rhywbeth yn iawn ac un lle gallant fod yn hyderus y caiff camau eu cymryd fel canlyniad.
Gwn y byddwch yn gwirio ac ailwirio eich systemau a’ch prosesau i wneud yn siŵr eu bod yn rhoi sicrwydd i chi ar ansawdd eich cartrefi ac os nad yw rhywbeth yn iawn y byddwch yn symud yn gyflym i’w ddatrys. Gwn y byddwch yn cytuno fod ansawdd ein cartrefi a’r ffordd yr ydym yn gwrando ac ymateb i’n tenantiaid yn fater arweinyddiaeth a llywodraethiant hanfodol.
Drwy sgyrsiau a gawsom gyda’r llywodraeth a phartneriaid cyn y setliad rhent eleni, fe wnaethom ymdrechu i sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng fforddiadwyedd i denantiaid a gallu landlordiaid cymdeithasol i gynnal buddsoddiad mewn gwasanaethau cymorth hanfodol ac mewn cartrefi presennol i’w cadw’n ddiogel, cynnes a fforddiadwy i fyw ynddynt.
Mae setliad rhent eleni – er y gwyddom ei fod mewn gwirionedd yn doriad gwir dermau – wedi rhoi gofod ariannol y mae ei fawr angen i ddiogelu a chynnal y gwasanaethau hanfodol a’r cartrefi ansawdd uchel y mae ein tenantiaid yn dibynnu arnynt. Mae’r broses gosod rhent yr ydych i gyd ar fin dechrau arni yn gyfle hanfodol i barhau i adeiladu ymddiriedaeth gyda thenantiaid, wrth i chi weithio gyda nhw i ddeall fforddiadwyedd a’u blaenoriaethau ar gyfer eu cartrefi, gwasanaethau a chymunedau.
Mae hefyd yn amser i barhau i adeiladu ymddiriedaeth gyda’r Llywodraeth a gwneuthurwyr penderfyniadau eraill. Mewn misoedd diweddar bu gennoch i gyd rôl enfawr yn rhannu ein cynnydd ar fforddiadwyedd, gan siarad gyda gwleidyddion a swyddogion i adeiladu dealltwriaeth o’r trylwyrdeb a’r gofal y mae cymdeithasau tai yn ei ddefnyddio i osod rhenti fforddiadwy.
Mae gennym, gyfle sylweddol yn y misoedd nesaf i helpu llunio dull gweithredu cyson, a gaiff ei rhentu i asesu fforddiadwyedd ar draws y sector tai cymdeithasol yng Nghymru/
Er mwyn i lywodraeth alluogi landlordiaid i benderfynu’n lleol ar lefelau rhent, mae’n rhaid iddynt fod yn hollol hyderus y byddant yn gwneud y peth cywir. Mae’n rhaid i ni gyd barhau ein gwaith i siarad gyda thenantiaid, gwleidyddion a phartneriaid am ein gwaith ar renti fforddiadwy, gan rannu ein dysgu a chynnydd, gan adlewyrchu’n onest ar ein heriau, i adeiladau’r lefelau dwfn o ymddiriedaeth a dealltwriaeth sydd ei angen i fanteisio ar y cyfle hwn.
Yn ystod yr haf eleni fe wnaethom gomisiynu archwiliad enw da rhanddeiliaid gydag aelodau o Senedd Cymru, aelodau o Gymru yn Senedd San Steffan ac aelodau tai ar gabinet awdurdodau lleol, er mwyn deall sut y caiff cymdeithasau tai eu gweld gan randdeiliaid gwleidyddol effeithlon.
Byddwn yn rhannu’r manylion gyda chi yn yr wythnosau nesaf, ond rwyf eisiau manteisio ar y cyfle i rannu rhai canfyddiadau calonogol: ers ein harchwiliad diwethaf yn 2019, ymddengys fod ymddiriedaeth mewn cymdeithasau tai wedi gwella ar nifer o faterion allweddol, yn cynnwys fforddiadwyedd, gwerth am arian, gan roi blaenoriaeth i denantiaid a thryloywder.
Mae arwydd cryf fod y gwaith a wneir gan y sector dros flynyddoedd diweddar yn cael ei weld ac yn cael ei werthfawrogi.
Mae gennym gymaint mwy i’w wneud gyda’n gilydd i gynyddu dealltwriaeth o’r cyfraniad enfawr y gall ac y mae cymdeithasau tai yn ei wneud i gymunedau ar draws Cymru, ond rwy’n falch i fedru dweud ein bod yn gwneud cynnydd da ar y cwrs y gwnaethom ei osod.
Mae setliad rhent eleni hefyd yn nodedig am fod yr ymrwymiadau a gawsom yn rhedeg ddwy ffordd am y tro cyntaf. Mae’r llywodraeth wedi ymrwymo i adolygu model hyfywedd safonol yng ngoleuni’r setliad rhent a’r amgylchedd gweithredu heriol. Maent hefyd wedi ymrwymo i adolygu’r pwysau ychwanegol difrifol sy’n wynebu ein cwsmeriaid sy’n darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol hanfodol.
Cefais fy nharo gan ysbryd ymdrech a gaiff ei rannu tu ôl i setliad eleni. Cydnabyddir rôl y gall tai ansawdd da a chymorth ei chwarae wrth helpu pobl i fyw bywydau iach a bodlon, ac ymrwymiad ar bob ochr i gydweithio gwneud cymaint ag y medrwn gyda’r adnoddau sydd ar gael i ni.
Mewn blynyddoedd diweddar rydym wedi ymgyrchu dros a sicrhau mwy o fuddsoddiad nag erioed o’r blaen mewn tai a gwasanaethau – bron £2 biliwn mewn cyfalaf a £700m mewn buddsoddiad refeniw ar gyfer tai a chymorth atal – a all wneud gwahaniaeth enfawr – ond dim os ydym yn ddeallus am sut yr ydym yn ei fuddsoddi.
Credwn ein bod angen tri pheth.
1. Ymagwedd mwy ystwyth a phragmatig i gyllid fel y gallwn fod yn ymatebol i’r amgylchedd deinamig a heriol y canfyddwn ein hunain ynddo.
Gwelsom gynnydd go iawn yma gyda rhaglen Chyfalaf Llety Trosiannol a symud i gyllid rhaglen drwy’r rhaglen Ôl-osod ar gyfer Optimeiddio. Hoffem weld yr ymagwedd bragmatig yma yn cael ei ymestyn yn fwy eang, er mwyn ein galluogi i wneud y gwahaniaeth mwyaf i gynyddu hygyrchedd ac ansawdd tai cymdeithasol.
2. Adnewyddu’r ffocws ar atal.
Gwyddom fod hyn yn anodd yn ystod argyfwng. Ond oherwydd ein bod mewn argyfwng yr ydym ei angen. Dim ond drwy ddiogelu buddsoddiad mewn atal y gallwn helpu i sicrhau nad yw ganlyniadau’r argyfwng cyfredol yn parhau am genedlaethau.
Ataliad cywir i fyny’r gadwyn drwy gymorth a buddsoddiad mewn cartrefi presennol yw’r ffordd i ddarparu help a chymorth go iawn yn ogystal â gostwng pwysau ar y GIG a llywodraeth leol.
Nid yw’n rhwydd cyflwyno achos am arian ar hyn o bryd ond credwn fod llawer mwy i’w wneud a byddwn yn gwneud yr achos dros mwy o fuddsoddiad mewn cyllid ataliad, tebyg i’r Grant Cymorth Tai, yn y cyfnod cyn y gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn.
3. Rhaglen fuddsoddiad hirdymor.
Ni fu erioed yn anos adeiladu tai yng Nghymru. Mae llawer mwy i ddadflocio’r rhwystrau uniongyrchol sy’n arafu neu’n atal datblygiad mewn rhai ardaloedd.
Fodd bynnag, yn ein rhuthr i wneud hyn ni fedrwn anghofio os nad ydym yn canfod ffordd i sicrhau fod ein dull i drin yr argyfyngau hinsawdd a natur yn hollol gydnaws gyda’n hymdrechion i drin yr argyfwng tai, cawn ein dal mewn cylch o fesurau tymor byr na fyddant yn mynd â ni ond peth o’r ffordd.
Ni wnaed digon i roi’r blociau adeiladu yn eu lle i alluogi hyn. Rydym angen strategaeth hirdymor ac sydd wedi ei hariannu i’n cefnogi i ddatgarboneiddio cartrefi presennol, sy’n creu swyddi a chyfleoedd hyfforddi ac sy’n cefnogi busnesau bach a chanolig yng Nghymru, ynghyd â buddsoddiad mewn rheoli amgylcheddol sy’n ei gwneud yn bosibl i godi cartrefi lle mae eu hangen ar draws Cymru.
Fel eich corff masnach, rydym yn ystyried y cyd-destun heriol hwn ac yn ystyried ein cenhadaeth i gysylltu a’ch cynrychioli. Yn dilyn sgyrsiau dros yr haf, rydym yn datblygu ein cynllun corfforaethol nesaf ac yn ystyried sut i wneud yn siŵr ein bod yn y sefyllfa orau bosibl i bod yn lladmeryddion drosoch ac i’ch cefnogi.
Er bod cynlluniau drafft wedi’u paratoi, ac y byddwn yn cael cyfleoedd eraill i drafod a mireinio’r manylion gyda chi yn y misoedd i ddod, mae rhai pethau rwyf eisoes yn sicr ohonynt.
Nid yw maint yr heriau a welsom mewn blynyddoedd diweddar yn dangos unrhyw arwydd o gilio – byddwn yn canfod ffyrdd newydd i fod yn ystwyth ac ymatebol, i ddod â phobl ynghyd a gweithio’n gyflym i ddatblygu datrysiadau.
Byddwn yn parhau i arddangos y gwahaniaeth rydych eisoes yn ei wneud – meithrin ymddiriedaeth a dealltwriaeth gyda’n partneriaid a’ch cefnogi i gryfhau eich partneriaethau yn lleol.
Byddwn yn parhau i godi llais yn eofn ac yn gadarn ac yn ddiduedd ac yn creu amgylchedd gweithredu allanol sy’n ei gwneud yn rhwyddach i wneud y gwahaniaeth mwyaf a fedrwch i denantiaid, a’r bobl a’r mannau lle gweithiwch.
Ni fu’r eglurdeb diben a ddaeth â ni ynghyd 33 mlynedd yn ôl erioed yn bwysicach. Er fod yr heriau sy’n ein hwynebu yn sylweddol, gallwn, ac mae’n rhaid i ni barhau i wneud cynnydd tuag at Gymru lle mae cartref da, fforddiadwy wirioneddol yn realaeth i bawb.
Diolch i bawb ohonoch am eich cefnogaeth barhaus. Gobeithio y cewch gynhadledd wych.
Diolch yn fawr.