Jump to content

Bethany Howells

Rheolwr Polisi a Materion Allanol

Mae Bethany yn un o dri arweinydd polisi sy’n gweithio o fewn y gyfarwyddiaeth polisi a materion cyhoeddus. Mae wedi gweithio i CHC am 5 blynedd ar ystod o faterion polisi ac wedi datblygu dealltwriaeth holistig o’r sector tai. Yn ystod y cyfnod hwn mae hefyd wedi astudio a gweithio tuag at radd Meistr mewn Cysylltiadau Rhyngwladol.

Cyn ymuno â CHC roedd Bethany yn gweithio i gymdeithas tai leol mewn swydd wynebu tenantiaid lle gwelodd drosti ei hun y gwahaniaeth a wnaiff staff i gymunedau bob dydd.

Mae Bethany yn awr yn arwain ein gwaith polisi ar Ddiogelwch Adeiladau, Diwygio Lesddaliad a Thai â Chymorth gan weithio gydag aelodau a rhanddeiliaid yn ehangach i gynrychioli barn aelodau a llunio diwygiadau hanfodol yn y meysydd polisi hyn.

Mae hefyd yn arwain ein cymuned aelodau Diogelwch.