Gwirio ffeithiau: pa addewidion maniffesto am dai cymdeithasol fydd yn berthnasol yng Nghymru?
Cafodd y blog ei ddiweddaru ar 24/06/2024 i adlewyrchu cyhoeddi maniffestos Cymreig y pleidiau.
Mae prif bleidiau gwleidyddol y Deyrnas Unedig yn awr wedi cyhoeddi eu maniffestos cyn etholiad cyffredinol 2024.
Er bod addewidion penodol am dai wedi eu gwneud, nid oedd y cyfan yn dod â’r cyd-destun angenrheidiol i Gymru – o leiaf ym maniffestos y DU. Mae maes tai wedi ei ddatganoli yma, sy’n golygu bod gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb am faterion sy’n ymwneud â thai - gan gynnwys tai cymdeithasol - ac mae ganddi’r grym i greu deddfau yn ymwneud â thai.
Ers cyhoeddi fersiwn cyntaf y blog yma, mae bron yr holl bleidiau wedi lansio maniffestos Cymreig sy’n rhoi mwy o fanylion ar sut yr ystyriant y bydd yr ymrwymiadau Prydeinig yn effeithio ar Gymru.
Yn fersiwn ddiweddaraf y blog hwn, mae ein rheolwr polisi a materion allanol Bethany Howells yn trafod y prif bolisïau tai cymdeithasol yn y maniffestos, a fyddent yn berthnasol yng Nghymru mewn gwirionedd - a pham bod hynny o bwys.
Ceidwadwyr
Mae maniffesto y Ceidwadwyr ar gyfer y DU yn cynnwys nifer o ymrwymiadau sy’n cysylltu gyda thai cymdeithasol, megis cyflenwi 1.6 miliwn o gartrefi newydd, cyflwyno Bil Diwygio Rhentwyr, deddfu ar gyfer profion cysylltiad newydd ar gyfer dyrannu tai cymdeithasol a deddfu i droi allan denantiaid tai cymdeithasol sy’n tarfu ar eu cymdogion ar ôl ‘tri achos’.
Mae cymdeithasau tai Cymru – sy’n darparu cartrefi i 10% o boblogaeth y wlad – yn cymryd agwedd wahanol at droi allan. Iddyn nhw, ers amser maith, dim ond os yw popeth arall wedi methu y byddir yn troi pobl o’u cartrefu.
Yn gyffredinol, mae’r maniffesto yn glir mai dim ond yn Lloegr y bydd yr ymrwymiadau hyn yn weithredol ac ers hynny mae’r Ceidwadwyr wedi lansio maniffesto Cymreig sy’n cynnwys ystod o ymrwymiadau i gyflymu adeiladu tai yng Nghymru:
Cynyddu capasiti adeiladu tai i gwblhau 12,000 cartref y flwyddyn.
Cyflymu’r broses cynllunio drwy greu tasglu gweithredu ar y cyd o gynllunwyr a sicrhau llwybr cyflym i geisiadau am ddatblygiadau tai fforddiadwy. Byddid hefyd yn cyflwyno cronfa prentis cynllunydd.
Datblygu cynllun cymorth ar gyfer busnesau bach a chanolig.
Cynnal arolygon ar holl dir awdurdodau cyhoeddus i benderfynu os yw’n addas ar gyfer tai.
Troi 20,000 o gartrefi gwag Cymru yn ôl yn gartrefi ac ehangu Cymorth Prynu i gynnwys y rhai sydd angen eu hadnewyddu.
Dod â’r hawl i brynu yn ôl yng Nghymru (a ddaeth i ben yn 2019).
Cafodd pwerau i ddiwygio polisïau tai a chynllunio yng Nghymru eu datganoli i Senedd Cymru. Yma, mae cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol yn dal i weithio gyda Llywodraeth Cymru i gyflenwi 20,000 o gartrefi ar rent fforddiadwy yn ystod tymor hwn y Senedd, yn unol â’r amcanestyniad o angen.
Llafur
Mae ymrwymiadau maniffesto Llafur y DU yn cynnwys ystod o ymrwymiadau cysylltiedig â thai cymdeithasol i gynyddu cyflenwad, er enghraifft adeiladu 1.5 miliwn o gartrefi o fewn pum mlynedd, diddymu achosion troi allan ‘dim bai’ Adran 21 a chryfhau cynllunio.
Mae’n bwysig nodi dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru), y cafodd cyfnod rhybudd ar gyfer achosion troi allan dim bai adran 21 ei ymestyn i chwe mis – ond nid yw cymdeithasau tai Cymru yn defnyddio’r math yma o rybudd.
Mae Llafur bellach wedi lansio eu maniffesto Cymreig sy’n dangos sut y gallai’r ddwy lywodraeth Lafur gydweithio “ar gyfer dyfodol Cymru” Mae’r maniffesto yn cefnogi uchelgais tai Llafur Cymru yn cynnwys cyflenwi 20,000 o gartrefi newydd ar rent cymdeithasol, cynyddu’r tir sydd ar gael ar gyfer tai cymdeithasol, ymestyn y cynllun Cymorth Prynu a mynd i’r afael â pherchnogaeth ail gartrefi.
Mae’r maniffesto hefyd yn sôn am y cyfleoedd i gydweithio drwy gael llywodraeth Lafur yn San Steffan a llywodraeth Lafur yng Nghymru. Byddai’r llywodraethau yn cydweithio i ddiwygio rheolau iawndal prynu gorfodol i wella cynnull tir a chyflymu darpariaeth safle. Maent hefyd yn ymrwymo i ailadeiladu capasiti adrannau cynllunio.
Plaid Cymru
Gan mai hi yw ‘plaid Cymru’ nid yw’n syndod bod maniffesto Plaid Cymru yn fwy clir wrth roi manylion ble y byddai ei addewidion yn berthnasol. Mae’r ymrwymiadau yn gysylltiedig â thai cymdeithasol Cymru yn cynnwys:
Cyflwyno Bil Hawl i Dai Digonol (Cymru) yn y Senedd, a fyddai’n cynnwys pwerau i gyflwyno rheolaeth rhent ac ymyraethau marchnad eraill i “wneud tai yn fwy fforddiadwy”.
Gweithio gydag awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i ddatblygu ymhellach gadwyni cyflenwi lleol â gweithwyr medrus yng Nghymru fel rhan o’i pholisi Unnos.
Diwygio’r system cynllunio fel ei bod “yn gyson ag anghenion a dyheadau lleol, yn hytrach nag adlewyrchu buddiannau datblygwyr”.
Datblygu cynllun i “gyflawni’r ehangu sylweddol hwn i fodloni angen tai lleol”, gan ddefnyddio ffrydiau ariannu cyhoeddus a phreifat a “gweithio gyda chymunedau i ddarparu’r gymysgedd gywir o dai ar draws Cymru” sy’n ystyried anghenion lleol.
Edrych ar ddod â digartrefedd i ben yng Nghymru gan ddefnyddio’r model Tai yn Gyntaf ac ailgartrefu cyflym.
Y Democratiaid Rhyddfrydol
Er bod maniffesto’r Democratiaid Rhyddfrydol yn cynnwys rhai cyfeiriadau at bolisïau tai yn berthnasol i Loegr - ac yn cynnwys camau gweithredu uniongyrchol a fwriadwyd i ddatblygu tai cymdeithasol - mae ei brif ymrwymiad yn cyfeirio’n benodol at y Deyrnas Unedig:
“Increasing building of new homes to 380,000 a year across the UK, including 150,000 social homes a year, through new garden cities and community-led development of cities and towns.”
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi ategu’r ymrwymiad hwn yn eu maniffesto Cymreig, gan ddweud y byddent drwy ddefnyddio cyfran Cymru o’r adnoddau a ddaw o gynlluniau’r Democratiaid Rhyddfrydol, yn annog Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r argyfwng cyllido sy’n wynebu awdurdodau lleol, yn cynnwys drwy ddarparu setliadau aml-flwyddyn, hybu’r cyflenwad o dai cymdeithasol a llunio cytundeb hirdymor, trawsbleidiol ar ofal cymdeithasol.
Mae’r ymrwymiadau eraill gan y blaid hon yn gysylltiedig â thai cymdeithasol yn cynnwys:
Cyflawni bargen deg i rentwyr trwy wahardd troi allan heb fai ar unwaith, gwneud tenantiaethau tair blynedd yn ddiofyn, a chreu cofrestr genedlaethol o landlordiaid trwyddedig.
Rhoi grym i awdurdodau lleol, gan gynnwys Awdurdodau Parciau
Cenedlaethol, i ddod â’r Hawl i Brynu i ben yn eu hardaloedd.Cyllido adrannau cynllunio lleol i wella deilliannau cynllunio a sicrhau na fydd tai yn cael eu hadeiladu mewn ardaloedd lle mae risg fawr o lifogydd heb liniaru hynny’n ddigonol, trwy adael i awdurdodau lleol osod eu ffioedd eu hunain.
Annog datblygu safleoedd tir llwyd sy’n bodoli gyda chymhelliant ariannol a sicrhau bod tai fforddiadwy a chymdeithasol yn cael eu cynnwys yn y prosiectau hyn.
Diogelu hawliau rhentwyr cymdeithasol trwy: orfodi safonau clir ar gyfer cartrefi ar rent cymdeithasol yn rhagweithiol, gan gynnwys cyfyngiadau amser caeth i drwsio; a, cydnabod paneli tenantiaid yn llawn fel bod rhentwyr yn cael llais wrth lywodraethu landlordiaid.
Er nad yw’r blaid yn dweud yn glir mai dim ond yn y Deyrnas Unedig neu Loegr y byddai’r rhain yn berthnasol, unwaith eto, gan eu bod yn croesi i faterion datganoledig gallwn dybio y byddent ar gyfer Lloegr yn unig.
Reform
Mae maniffesto Reform yn nodi “Britain has a housing crisis", ac mae’n mynd ymlaen i fanylu am “critical reforms needed in the first 100 days”, gan gynnwys:
Adolygu’r system cynllunio.
Adolygu deddfau tai cymdeithasol i “prioritise local people and those who have paid into the system”.
Dileu’r Mesur (Diwygio) Rhentwyr.
Yna mae’r blaid yn datgan y byddai’n rhoi cymhelliant i ddefnyddio technoleg adeiladu, ymhlith cynlluniau eraill.
Yn wahanol i’r prif bleidiau eraill, nid yw Reform wedi llunio maniffesto Cymreig (hyd yma). Fodd bynnag, yn nes ymlaen yn y maniffesto, mae Reform yn cyfeirio’n benodol at Gymru, gan ddweud, “reform the planning system and fast-track new housing on brownfield sites and infrastructure projects to boost businesses, especially in coastal regeneration areas, Wales, the North, and the Midlands”. Ond mae’r rhan fwyaf o agweddau o Gynllunio wedi eu datganoli yng Nghymru.
Y Blaid Werdd
Er bod y Blaid Werdd yn benodol iawn yn ei haddewid i ddarparu “fairer, greener homes for all” nid yw’n nodi a yw hyn ar gyfer Lloegr yn unig yn ei maniffesto.
Mae eu maniffesto Cymreig yn cynnwys targedau penodol ar gyfer Cymru, tebyg i:
Adeiladu o leiaf 12,000 o gartrefi newydd bob blwyddyn yng Nghymru i ddatrys yr argyfwng tai
Cynnig cynllun ôl-osod enfawr tai hŷn i helpu gostwng biliau ynni
Cryfhau mesurau rheoli rhent yng Nghymru yn cynnwys cap ar renti a dod ag achosion troi allan dim bai i ben
Cefnogi’r ‘Hawl i Brynu’ ar gyfer y rhai sy’n cael trafferthion gyda thaliadau morgais.
Mae’r ymrwymiadau hyn yn adleisio’r ymrwymiadau ym maniffesto DU y Blaid Werdd, tebyg i’r ymrwymiad i “provide 150,000 new social homes every year” a gwthio am rhaglen ôl-osod stryd wrth stryd gan arweiniad yr awdurdod lleol i insiwleiddio ein cartrefi.
Yng Nghymru, mae landlordiaid cymdeithasol cofrestredig eisoes yn gweithio ar raglen enfawr i ddatgarboneiddio cartrefi presennol ac adeiladu tai cymdeithasol newydd sy’n effeithiol o ran ynni. Mae’r Safon Ansawdd Tai Cymru, a gyflwynwyd ym mis Hydref 2023, yn ei gwneud yn ofynnol i bob landlord cymdeithasol cofrestredigi anelu i gyflawni Band A y Dystysgrif Perfformiad Ynni ar gyfer pob annedd y mae’n eu rheoli erbyn Mawrth 2034.
Beth mae polisïau Lloegr yn olygu i Gymru?
Gan fod y Deyrnas Unedig i gyd yn wynebu argyfwng tai, nid yw’n syndod bod tai yn bwnc trafod allweddol ar gyfer yr etholiad sydd ar fin dod. Er na fydd llawer o bolisïau maniffestos y DU yn uniongyrchol berthnasol i Gymru efallai y bydd ambell hwb i’r wlad os neu pan fydd yr addewidion yn cael eu gwireddu.
Gall ymrwymiadau i ddiwygio systemau cynllunio, er enghraifft, weld hwb ariannol i gynghorau yn Lloegr. Mae hyn yn golygu y gallai fod cyllid o ganlyniad i Gymru a gwledydd eraill datganoledig hefyd.
Yn eu maniffestos Cymreig mae’r rhan fwyaf o’r pleidiau wedi rhoi manylion pellach ar beth mae’r ymrwymiadau hyn yn ei olygu i Gymru. Fodd bynnag, byddai llawer o’r ymrwymiadau yn dal i fod angen cefnogaeth Llywodraeth Cymru oherwydd bod polisïau tai a chynllunio wedi eu datganoli i Gymru.
Wrth weithio gyda Llywodraeth Cymru, mae landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru - gan gynnwys cymdeithasau tai - yn dysgu oddi wrth arfer gorau o gwmpas y byd i sicrhau bod y system tai cymdeithasol yn gweithio dros bobl Cymru. Er bod y wlad eisoes wedi defnyddio dull gwahanol ar nifer o’r meysydd y rhoddwyd addewid i weithredu arnynt, fel y nodir uchod, fe all fod yn ffaith, pan fydd pethau’n newid er gwell yn Lloegr, y gallai ysbrydoli cynnydd yng Nghymru hefyd.