Hamperau bwyd ac oergell gymunedol RHA yn ‘achubiaeth’ i nifer cynyddol o bobl
“Mae’r bobl a helpwn yn aml yn embaras pan maent yn dod atom i ofyn am help gyda bwyd”, meddai Simone Devinett, pennaeth cymunedau a menter RHA.
“Maent yn teimlo mai nhw sydd ar fai, ond rydym bob amser yn gadael iddynt wybod nad ydynt ar ben eu hunain a bod llawer o bobl angen help brys yn awr.
“Maent yn anhygoel o ddiolchgar pan gânt eu hamperau bwyd – mae’n gyfuniad enfawr o emosiynau ac mae’r ffaith ein bod wedi eu helpu yn golygu popeth i’r bobl yma.
“Mae’n hollol dorcalonnus fod mwy a mwy o bobl yn dibynnu arnom ni a’n hamperau bwyd i’w bwydo eu hunain a’u teuluoedd dros y gaeaf, ond rydym yma i helpu.”
Daeth misoedd y gaeaf yn gynyddol brysur ar gyfer y timau yng nghymdeithas tai RHA, sydd â’i phencadlys yn Nhonypandy, sy’n gwneud popeth a all i gefnogi pobl mewn angen.
Wrth i gostau barhau i gynyddu drwy gydol y flwyddyn mae pobl ar incwm is, yn cynnwys llawer sy’n byw mewn cartrefi cymdeithasau tai, wedi parhau i’w chael yn anodd fforddio hanfodion, yn cynnwys bwyd.
Daeth banciau bwyd yn achubiaeth i lawer o bobl, gyda 67% o gymdeithasau tai Cymru wedi gweld cynnydd mewn atgyfeiriadau i fanciau bwyd yn chwe mis cyntaf y flwyddyn, yn ôl ein adroddiad ymchwil Methu Dod â Deupen Llinyn Ynghyd.
I Simone, pennaeth cymunedau a menter RHA, nid yw’r ffigurau hyn yn syndod gan ei bod yn dweud fod mwy a mwy o bobl wedi defnyddio rhewgell gymunedol The Little Shed y gymdeithas tai drwy gydol y gaeaf.
Lansiwyd The Little Shed ym mis Hydref 2022 ar ôl i grŵp o 30 o bobl ifanc o brosiect ieuenctid Black Sheep, sy’n cefnogi pobl ifanc i ddysgu sgiliau ar gyfer gwaith mewn adeiladu, ddechrau ailwampio’r gofod o 2019 ymlaen.
Diolch i’w hymrwymiad, cafodd yr hyb cymunedol ei orffen ac mae’n awr yn cynnig gwasanaethau hanfodol, yn gynnwys mannau twym lle gall pobl fwynhau diod boeth a thamaid i’w fwyta heb ddefnyddio gwres eu cartref.
Mae oergell gymunedol The Little Shed ar agor o ddydd i Llun a ddydd Gwener ac yn ailddosbarthu bwyd da a fyddai fel arall yn mynd yn wastraff, i aelodau’r gymuned sy’n ymweld â’r hyb cymunedol.
Ychwanegodd Simone: “Rydym yn bendant wedi gweld mwy o bobl yn dod i The Little Shed yn y gaeaf ac yn defnyddio’r oergell gymunedol.
“Mae’r bobl sy’n dod i mewn i ddefnyddio’r oergell gymunedol mewn rhyw fath o galedi. Rydym yn cael pawb o famau a thadau ifanc sydd angen help i’r henoed ac yn cael llawer o ymwelwyr rheolaidd.
“Yn aml byddwch yn gweld pobl ychydig o weithiau, ac eraill wedi penderfynu defnyddio’r oergell am y tro cyntaf ac wedi bod yn ceisio magu plwc i wneud hynny. Mae’n wirioneddol bwysig i ni ein bod yn dileu’r stigma sy’n gysylltiedig â gofyn am help gyda bwyd, mae ein tîm yma i helpu pobl sydd angen cymorth lle’n bosibl.
“Pan fyddant yn dod i’r hyb mae’n timau yn aml yn sgwrsio gyda nhw ac mae hyn wedyn yn ein galluogi i weld ble arall y gallwn eu cefnogi. Er enghraifft, os ydynt yn ynysig yn gymdeithasol, gallwn eu gwahodd i’n sesiynau crefft, cynnig cymorth un-i-un a cheisio ymgysylltu gyda nhw i’w hatal rhag bod yn fwy ynysig.
“Gwyddom fod hwn yn amser gwirioneddol anodd i gynifer o bobl a gwnawn bopeth a fedrwn i helpu."
Ynghyd â’r oergell gymunedol, mae RHA hefyd yn darparu hamperau bwyd hanfodol i bobl mewn angen ar draws Rhondda Cynon Taf yn ystod y gaeaf.
Ym mis Ionawr 2024, gyda chefnogaeth gan bartneriaid a Chonfa Caledi Gaeaf Rhondda Cynon Taf, mae RHA hefyd yn dosbarthu pecynnau gaeaf cynnes i’r rhai sydd mewn angen.
Mae staff ymroddedig yn codi arian drwy gydol y flwyddyn i brynu eitemau hanfodol ar gyfer hamperau tenantiaid. Yn 2023 cododd cododd staff fwy na £2,500 drwy eu hymgyrch flynyddol i godi arian, oedd yn cynnwys taith gerdded 26 milltir a gydlynwyd gan Cartrefi Cymunedol Cymru. Yn 2022 fe wnaethant hefyd gwblhau dawnsathon 24-awr.
Mae RHA hefyd yn derbyn cymorth i brynu eitemau gan gontractwyr ac yn defnyddio eu cronfeydd budd cymunedol i brynu nwyddau ychwanegol os yw’n teimlo fod angen y gymuned yn fwy.
Y llynedd darparodd y gymdeithas tai hyd yn oed fwy o hamperau bwyd ar draws y sir, gyda hyd at 100 yn cynnwys hanfodion wedi eu dosbarthu i bobl sy’n cael trafferthion gyda chynnydd mewn costau byw.
Dywedodd Simone “Mae’r hamperi hyn yn hollol hanfodol.
“Gwnawn yn siŵr ein bod yn rhoi cynifer o eitemau bwyd i denantiaid ag y gallant eu defnyddio’n realistig o bys a bara i fwydydd tun, pasta a reis i’w cadw i fynd.
“Gallwn weld fod llawer o bobl yn dibynnu ar yr hamperau hyn, gan ein bod wedi dosbarthu i rai pobl bob blwyddyn dros y pedair blynedd ddiwethaf gan nad yw eu sefyllfa wedi gwella.
“Mae camsyniad fod ein hamperau yn cynnig nwyddau moethus ar gyfer y gaeaf, ond nid yw hyn yn wir. Maent yn hanfodion llwyr ar gyfer pobl sydd â dim byd yn eu cypyrddau.
“Rydym hefyd yn cynnwys pethau eraill y gallant fod eu hangen fel sebon cawod, cynnyrch mislif a weithiau deganau a gawsom i’w rhoi i blant.
“Mae pobl yn ddiolchgar tu hwnt pan ddosbarthwn yr hamperau ac mae mor werth chweil i ni fedru helpu.”
Ym mis Ionawr 2024, gyda chefnogaeth gan bartneriaid a Chronfa Galedi Cymru Rhondda Cynon Taf, mae RHA hefyd yn dosbarthu pecynnau gaeaf twym i’r rhai mewn angen.
Mae timau’r gymdeithas tai yn dynodi tenantiaid sydd angen cymorth yn ystod ymweliadau cartref, efallai nad yw’r bobl hyn yn defnyddio eu gwresogi neu heb ddillad addas ar gyfer y tywydd oer. Maent wedyn yn cael pecynnau gaeaf cynnes, sy’n cynnwys eitemau a all eu helpu i gadw’n dwym a defnyddio llai o ynni.
Mae mwy o wybodaeth am Little Shed RHA a’i wasanaethau ar gael yma. Mae RHA yn berchen ac yn rheoli mwy na 2,100 o gartrefi ar draws Rhondda Cynon Taf ac yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i fwy na 3,000 o bobl.
Mae ein adroddiad ymchwil Methu Dod â Deupen Llinyn Ynghyd yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gymryd camau brys i ddiogelu tenantiaid cymdeithasau tai yn ariannol yn erbyn cynnydd parhaus mewn prisiau.