Jump to content

05 Gorffennaf 2024

Cyhoeddi canlyniadau etholiad cyffredinol 2024 – nawr mae angen i Lywodraeth y DU weithredu ar frys i wella bywydau yng Nghymru

Cyhoeddi canlyniadau etholiad cyffredinol 2024 – nawr mae angen i Lywodraeth y DU weithredu ar frys i wella bywydau yng Nghymru

Gyda chanlyniadau etholiad cyffredinol 2024 wedi eu cyhoeddi, byddwn ni yn Cartrefi Cymunedol Cymru a’r cymdeithasau tai a gynrychiolwn yn parhau â’r galwadau a wnaethom drwy gydol cyfnod yr ymgyrch, ac yn annog Llywodraeth newydd y Deyrnas Unedig i gymryd y cyfleoedd sydd ganddynt i wella bywydau pobl yng Nghymru.

Er fod tai yn fater wedi ei ddatganoli, mae Llywodraeth y DU yn rheoli rhai o’r polisïau sy’n effeithio ar incymau a chostau aelwydydd, tebyg i lesiant ac ynni. Buom yn glir yn y cyfnod cyn yr etholiad fod yn rhaid i Lywodraeth nesaf y DU, a gaiff yn awr ei harwain gan Syr Keir Starmer, gymryd camau ar frys a:

  • chymryd dull holistig o gymorth sy’n atal digartrefedd a chefnogi mynediad i’r farchnad rhent;
  • diwygio’r Credyd Cynhwysol i sicrhau y gall y rhai sy’n ei hawlio dalu o leiaf am hanfodion sylfaenol;
  • gwelliannau i’r system Credyd Cynhwysol ar gyfer hawlwyr a hefyd gymdeithasau tai;
  • creu system ynni sy’n diogelu aelwydydd incwm isel;
  • ymrwymo i gefnogi’r sector i gyflawni ei nodau sero net.
Edrychwn ymlaen at weithio gyda Aelodau Seneddol newydd Cymru ynghyd â’r Aelodau Seneddol hynny sy’n dychwelyd i wthio am y nodau hynny, gan sicrhau fod gan ein cymunedau y cymorth maent ei angeni fyw’n dda yn eu cartrefi eu hunain.