Jump to content

21 Rhagfyr 2022

Sut mae Cartrefi Melin yn helpu preswylwyr i waith

Sut mae Cartrefi Melin yn helpu preswylwyr i waith

Yn ogystal â chyngor ariannol, mae gan Cartrefi Melin dîm arbennig sy’n cefnogi tenantiaid i waith, gwella eu sefyllfa ariannol bersonol a hybu eu llesiant. Mae Will Rees, swyddog cyfathrebu Cartrefi Melin, yn esbonio mwy.

Mae ein preswylwyr wedi wynebu amgylchedd ariannol cynyddol anodd yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Rydym yn eu cefnogi gydag amrywiaeth o gyngor, gwybodaeth ac arweiniad am gyllid eu cartref – mae’n rhan bwysig o’n gwaith ac mae’n ein helpu i adeiladu cymunedau cryf a thenantiaethau cynaliadwy. Ond gwelsom yr angen i fynd ymhellach na hyn yn lleol, a dyna pam fod gennym hefyd dîm cyflogaeth arbennig. Mae’r grŵp o staff gwybodus yma yn arbenigo mewn helpu preswylwyr i waith.

Mae Paula, Daf ac Aaron, aelodau’r tîm, yn gweithio’n agos gyda phreswylwyr ar bob math o bethau yn gysylltiedig â chyflogaeth a hyfforddiant. Mae peth o’r gefnogaeth a roddant yn cynnwys:

  • technegau cyfweld;
  • ysgrifennu CV;
  • cymorth i wneud cais am swyddi a gweinyddiaeth;
  • cymorth bugeiliol;
  • trefnu cyfweliadau a chyfeirio at swyddi gwag;
  • a dynodi bylchau mewn sgiliau a chyfleoedd hyfforddiant.

Mae gan y tîm hefyd adnoddau i roi cymorth ariannol i breswylwyr ar gyfer amrywiaeth o bethau gwahanol, yn cynnwys cyllid ar gyfer: hyfforddiant, dillad gwaith ac offer diogelu personol; cludiant, bwyd a thalebau siopa.

Mae canlyniadau’r hyn a wnaiff y tîm a’r deilliannau hirdymor ar gyfer preswylwyr yn siarad drostynt eu hunain. Nid yn unig mae’r rhai a gafodd eu cefnogi i gael swydd yn gweld gwelliant yn eu sefyllfa ariannol, mae llawer hefyd yn sôn am hwb enfawr i’w hunanhyder ac iechyd meddwl.

Roedd un preswylydd wedi bod allan o waith ers cryn amser ac yn gofalu am riant oedd yn wael. Daeth ar y tîm cyflogaeth er mwyn mynd yn ôl i fyd gwaith.

Fe wnaeth ein tîm gwrdd â’r preswylydd i drafod technegau cyfweld a rhoi cefnogaeth reolaidd i wneud cais am swydd a hefyd gyda chwrs cymorth cyntaf yn y gwaith.

Nid oedd popeth yn syml i’r preswylydd. Roedd chwilio am swydd wedi taro ar ei hyder gan fod rhai ceisiadau aflwyddiannus ond fe wnaeth sicrhau newydd yn fuan yn gweithio gyda chwmni gwarchodaeth.

Wrth ystyried yr achos dywedodd Aaron Carter, cynghorydd cyflogaeth: “Mae wedi trawsnewid pethau i’r preswylydd. Mae’n awr o’r diwedd yn medru rhoi arian wrth gefn.

“Mae’n dweud ei fod yn teimlo’n fwy cadarnhaol pan mae’n deffro bob bore ac yn mwynhau strwythur a diben a ddaw gyda bod mewn gwaith.”

Mae helpu preswylwyr i ganfod swyddi da gyda chyflogwyr gwych yn allweddol i’w helpu i bontio i gyflogaeth sefydlog. Mae preswylydd a fu allan o waith ers cryn amser oherwydd afiechyd ond yn awyddus dychwelyd i gyflogaeth yn enghraifft wych o hyn.

Gobeithiai ymuno â’r sector cyhoeddus ond wynebodd rai rhwystrau wrth chwilio am swydd gan fod yr holl broses gais a gweinyddol yn ddigidol. Fe wnaethom gefnogi’r preswylydd gyda’r lefel helaeth o waith papur digidol oedd ei angen ac yn y diwedd llwyddodd i gael swydd fel cynorthwyydd arlwyo. Fe wnaethom hefyd ei chefnogi’n ariannol gyda’i chostau teithio ym mis cyntaf ei swydd newydd pan oedd yn aros ei siec cyflog gyntaf.

Roedd y preswylydd wrth ei bodd i ddychwelyd i’r gwaith, gan ddweud: “Mae Dafydd a Paula o Melin yn wych – maent yn mynd allan o’u ffordd i’ch helpu. Maent hefyd yn gwneud i chi gredu y gallwch gyflawni unrhyw beth! Rydw i gymaint gwell fy myd yn ariannol yn gweithio ac yn llawer hapusach.”

Mae’r rhagolygon economaidd ar hyn o bryd yn edrych yn llwm a rydym yn sicr o wynebu mwy o bwysau ar ein gwasanaethau, ond mae Melin yn parhau i fod yn ymroddedig i fod yn fwy na dim ond landlord. Mae cymryd ymagwedd drugarog a buddsoddi yn amgylchiadau llesiant a phersonol ein preswylwyr yn ein gwaed. Pryd bynnag y bydd preswylydd Melin yn gofyn am help llaw, byddwn yno i gydio ynddi.

Oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu hoffech chi gael mwy o wybodaeth ar sut y cafodd y cynllun ei sefydlu? Anfonwch e-bost at will.rees@melinhomes.co.uk