Jump to content

31 Mai 2023

Tair ffaith FAWR am siaradwyr Un Gynhadledd Fawr: Sarah Dickins

Tair ffaith FAWR am siaradwyr Un Gynhadledd Fawr: Sarah Dickins

Gyda dim ond ychydig wythnosau i fynd tan yr Un Gynhadledd Fawr, roeddem eisiau eich cyflwyno i’n prif siaradwraig, Sarah Dickins.

Mae Sarah wedi ennill gwobrau fel newyddiadurwraig ac am wneud rhaglenni dogfen a threuliodd fwy na dau ddegawd yn mireinio ei sgiliau yn y BBC.

Bydd Sarah yn trafod y rhagolygon economaidd; beth mae’n ei olygu i Gymru, y sector tai cymdeithasol a’n huchelgais am sero net, ar ddiwrnod cyntaf ein cynhadledd ar 4 Gorffennaf.

Dyma dri pheth MAWR i’w gwybod am Sarah cyn y byddwn yn ei chroesawu i’n cynhadledd.

Roedd Sarah yn adrodd ar bopeth yn ymwneud ac economeg

Bu Sarah yn ohebydd economeg y BBC am 10 mlynedd, gan weithio ar draws teledu, radio ac ar-lein. Edrychodd ar lu o ddiwydiannau o lo a dur i dechnoleg ac economeg defnyddwyr.

Yn flaenorol bu’n cyflwyno Working Lunch ar BBC 2 gyda Adran Chiles a Business Breakfast, mae hefyd wedi cyflwyno rhaglenni newyddion dyddiol a materion cyfoes BBC Cymru Wales.

Derbyniodd Wobr Cyfryngau Celtaidd am ei gwaith ar y rhaglenni dogfen ar Ryfel Cartref Sbaen.

Still need to buy your One Big conference tickets?

Buy your tickets here

Mae wedi cyfweld â phrif weinidogion

Oherwydd ei phrofiad eang ac amrywiol mae Sarah wedi cynnal digwyddiadau, cadeirio trafodaethau a hyd yn oed gyfweld â phrif weinidogion ar lawer o raglenni gwleidyddol yn ymchwilio’r economi.

Mae wedi ffeirio’r newyddion am ffermio organig

Mae Sarah a’i phartner yn berchen fferm fynydd organig yng Nghymru lle maent yn magu wyn organig a gaiff eu bwydo’n llwyr ar borfa ac maent wedi dechrau prosiect amaethyddiaeth adferol.

Ers gadael y BBC daeth Sarah yn ymgynghorydd ar economeg gynaliadwy, gan gefnogi cwmnïau a sefydliadau i gyrraedd eu targedau sero net.

Cafodd ei henwi’n ddiweddar gan Gomisiwn Cenedlaethau’r Dyfodol yn un o 100 uchaf Gwneuthurwyr Newid Cymru.

Want to find out all about the One Big conference programme?

Find out everything here