Jump to content

Datgarboneiddio

Yn gryno

Mae cartrefi Cymru yn cyfrif am tua 11% o holl allyriadau nwyon tŷ gwydr Cymru.

Mae tlodi tanwydd yn sefyll yn ganolog i amcanion datgarboneiddio Cymru, gydag amcangyfrif bod 45% o aelwydydd mewn tlodi tanwydd o ganlyniad i’r argyfwng costau byw.

Mae cymdeithasau tai wedi arwain y ffordd wrth yrru allyriadau carbon eu cartrefi i lawr trwy’r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio, a gwella ansawdd eu cartrefi yn sylweddol trwy Safon Ansawdd Tai Cymru. Fodd bynnag, mae gan gymdeithasau uchelgais i fynd ymhellach ac maent wedi ymrwymo i ôl-osod eu cartrefi presennol i safon sero carbon.

Ar ben hynny mae cymdeithasau tai yn awyddus iawn i archwilio a buddsoddi mewn prosiectau ynni adnewyddadwy a lleol a rhaglenni casglu carbon, a all ddatgarboneiddio gwasanaethau, busnesau a chymunedau yn ogystal â chartrefi. Maent wedi ymrwymo i chwarae eu rhan i helpu i daclo’r argyfwng hinsawdd trwy ddod yn sector carbon isel ar draws y cyfan o’u gweithgareddau.

Mae gan raglenni datgarboneiddio cymdeithasau tai'r potensial i greu miloedd o swyddi o safon uchel yng Nghymru, gan roi hwb leol i’r economi. Mae ymgysylltu â thenantiaid hefyd yn hanfodol trwy gydol y broses hon, fel eu bod yn gallu cael budd o fyw mewn cartrefi sy’n fwy effeithlon o ran ynni, sy’n fwy cynaliadwy i’w rhedeg.

Ein blaenoriaethau:

  • ● Gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddylanwadu i gael setliad ariannol cynaliadwy i ddatgarboneiddio cartrefi cymdeithasol, wedi ei gefnogi â chynllun ymarferol sy’n cefnogi buddsoddi lleol.
  • Darparu’r offer i gymdeithasau tai ddatgarboneiddio eu cartrefi mewn ffordd sy’n cefnogi busnesau lleol, swyddi a chadwyni cyflenwi.
  • Ymchwilio sut y gall cymdeithasau tai ymgysylltu’n effeithiol â’u tenantiaid ar ddatgarboneiddio.

Sut ydym yn datblygu’r maes hwn o’n gwaith

Mae ein cymuned aelodau Cartrefi’r Dyfodol yn ganolog i gadw golwg ar y sefyllfa o ran yr heriau a’r cyfleoedd ar gyfer y sector.

Rydym yn gwneud hyn trwy gynnal cyfleoedd i drafod wyneb yn wyneb ac ar-lein, yn ogystal â hwyluso rhannu gwersi rhwng aelodau a phartneriaid trwy galendr o ddigwyddiadau ar wahanol bynciau. Pan fydd amcanion wedi eu diffinio’n glir wedi eu dynodi, rydym yn ymdrin â’r rhain trwy grwpiau tasg a gorffen.

Mae CHC yn eistedd ar Grŵp Gweithredu Datgarboneiddio Llywodraeth Cymru lle’r ydym yn dylanwadu ar lunio polisïau a phenderfyniadau. Am ragor o wybodaeth am y ffordd yr ydym yn datblygu polisïau, cliciwch yma.

Crynodeb llawn
Bethan Proctor

Gyda phwy i siarad...

Bethan Proctor
Hidlo yn ôl Maes Polisi
  • Y cyfan
  • Cyllido Datgarboneiddio
  • Economi Sylfaenol
  • Ymgysylltu Tenantiaid mewn Datgarboneiddio

Mae’n flin gennym, nid oes eitemau ar gael ar hyn o bryd

Hidlo yn ôl Maes Polisi
  • Y cyfan
  • Cyllido Datgarboneiddio
  • Economi Sylfaenol
  • Ymgysylltu Tenantiaid mewn Datgarboneiddio