Cyrff tai yn annog y Prif Weinidog nesaf i roi diwedd ar dlodi tanwydd
Cyn yr Etholiad Cyffredinol, mae ffederasiynau yn cynrychioli cymdeithasau tai ar draws Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn uno mewn galwad polisi i greu tariff cymdeithasol
Mae ffederasiynau tai o bob rhan o’r Deyrnas Unedig wedi ysgrifennu llythyr agored at arweinwyr pleidiau yn galw am gyflwyno tariff cymdeithasol yn y farchnad ynni.
Mewn llythyr ar y cyd, dywedodd y National Housing Federation (NHF), y Scottish Federation of Housing Associations (SHFA), Cartrefi Cymunedol Cymru a’r Northern Ireland Federation of Heising Associations (NIFHA) fod yr ansefydlogrwydd diweddar mewn prisiau tanwydd a’r argyfwng costau byw parhaus yn golygu fod angen brys i ddiwygio marchnad ynni y Deyrnas Unedig.
Dywedodd y ffederasiynau, y mae eu haelodau ar y cyd yn cynrychioli dros 4.9 miliwn o aelwydydd yn y Deyrnas Unedig, mai rhan o’r datrysiad yw cyflwyno tariff cymdeithasol: gwasanaeth ar ddisgownt a gynigir i bob aelwyd incwm isel sydd angen cymorth.
Yn eu llythyr at Rishi Sunak, Syr Keir Starmer, Syr Ed Davey ac arweinwyr pleidiau eraill ledled y Deyrnas Unedig, dywedodd y pedair ffederasiwn y dylai tariff cymdeithasol ar gyfer ynni fod yn weithredol i bob defnyddiwr domestig sy’n cael trafferthion gyda chostau byw ac nid dim ond tenantiaid cymdeithasol sy’n gorfod dewis rhwng gwres a bwyd.
Fe wnaethant hefyd ychwanegu y dylid ymestyn y cymorth i’r rhai sy’n derbyn budd-daliadau prawf modd a defnyddwyr ynni gwledig nad ydynt wedi cysylltu gyda’r grid nwy, gan nodi fod y defnyddwyr hyn yn aml yn gorfod talu costau uwch trydan a thanwydd heb ei reoleiddio.
Er fod cap pris ynni wedi gostwng ychydig mewn misoedd diwethar, mae 6 miliwn o aelwydydd ar draws y Deyrnas Unedig mewn tlodi tanwydd ar hyn o bryd.
Dywedodd Sally Thomas, Prif Weithredwr SFHA: “Rhaid i bwy bynnag sy’n ffurfio Llywodraeth nesaf y Deyrnas Unedig roi blaenoriaeth fel mater o frys i ddiweddu tlodi tanwydd sydd â chanlyniadau andwyol ar iechyd, llesiant ac uchelgais miliynau o bobl ar draws y Deyrnas Unedig.
“Ynghyd â’n cydweithwyr mewn ffederasiynau yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, rydym wedi ysgrifennu at arweinwyr pleidiau y Deyrnas Unredig yn eu hannog i gyflwyno tariff cymdeithasol yn y farchnad ynni.
“Byddai’r diwygio hwn sydd ei fawr angen ar ein marchnad ynni yn codi miliynau o denantiaid cymdeithasol a defnyddwyr domestig eraill allan o dlodi tanwydd, cefnogi trosiant y DU i sero-net a helpu llawer o ddefnyddwyr gwledig y mae costau uwch trydan yn effeithio’n ddiangenrhaid arnynt.
Dywedodd Kate Henderson, Prif Weithredwr yr NHF: “Nid yw’n iawn fod teuluoedd ar draws y Deyrnas Unedig yn gorfod dewis rhwng gwresogi eu cartrefi a phrynu bwyd. Gyda chwe miliwn o bobl mewn tlodi tanwydd, yn cynnwys llawer o denantiaid tai cymdeithasol ac aelwydydd eraill ar incwm isel, mae angen gweithredu ar frys i roi diogeliad rhag cynnydd mawr mewn costau ynni wrth i’r gaeaf agosáu.
“Gwyddom fod ymagweddau mwy gwyrdd at ynni, fel rhan o’n taith i sero-net, yn golygu y daw biliau yn fwy fforddiadwy dros y tymor hirach ond rydym angen ymyriad ar frys i ddiogelu teuluoedd yn awr.
“Dyna pam ein bod yn ymuno â ffederasiynau tai eraill y DU wrth annog y llywodraeth newydd i gyflwyno tariff cymdeithasol i wneud biliau yn gyson fforddiadwy ar gyfer y rhai ar yr incwm isaf. Yn ogystal â chodi pobl allan o dlodi tanwydd a’u diogelu rhag marchnad gyfnewidiol, bydd cymryd y cam hwn hefyd yn helpu i ddiogelu eu hiechyd a’u lles.”
Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredwr Cartrefi Cymunedol Cymru: “Mae tenantiaid tai cymdeithasol yn parhau i fod ymysg y rhai sy’n cael eu taro waethaf gan yr argyfwng costau byw. Gyda biliau ynni bron ddwywaith yr hyn oeddent cyn yr argyfwng, mae’n rhaid cyflwyno tariff ynni cymdeithasol i ddiogelu aelwydydd incwm isel, gan alluogi pobl i wresogi eu cartrefi yn gyson.
“Safwn wrth ochr ein chwaer ffederasiynau i annog Llywodraeth y DU i gefnogi pobl sy’n cael trafferthion gyda’u biliau ynni. Byddai tariff cymdeithasol yn rhoi clustog i helpu pobl i reoli costau cynyddol ac osgoi tlodi tanwydd.”
Dywedodd Seamus Leheny, Prif Weithredwr NIFHA: “Mae NIFHA a’n haelodau yn cefnogi’r galwad pwysig hwn ar Lywodraeth y DU i gyflwyno tariff cymdeithasol sydd ei fawr angen.
“Wrth i gostau byw barhau i orfodi pobl i ddewis rhwng gwres a bwyd, byddai gostyngiad ar dariffau ynni yn sylfaenol wrth gefnogi aelwydydd mewn tlodi tanwydd a helpu’r rhai sydd fwyaf mewn angen."