Jump to content

06 Medi 2022

Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru): Yr hyn y dylech ei wybod am gymdeithasau tai ac achosion troi allan yng Nghymru

Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru): Yr hyn y dylech ei wybod am gymdeithasau tai ac achosion troi allan yng Nghymru

Yn dilyn gohirio gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) o 15 Gorffennaf i 1 Rhagfyr eleni, bu llawer o drafodaeth am yr effaith ar landlordiaid a hefyd ar y rhai sy’n rhentu cartref yng Nghymru. Rydym wedi ysgrifennu’n flaenorol am yr hyn mae’r oedi wedi ei olygu i gymdeithasau tai a’u tenantiaid ond yn ddealladwy mae llawer o bobl yn dal i fod â phryderon am broblemau mawr tebyg i achosion troi allan – nid yn lleiaf oherwydd ein bod yn parhau i wynebu argyfwng gyda chostau byw.

Cynlluniwyd y ddeddfwriaeth newydd i roi mwy o sicrwydd i denantiaid, yn arbennig yn y sector rhent preifat. Un o’r pynciau trafod mwyaf yn ddiweddar fu’r newidiadau a wnaiff i achosion ‘troi allan heb fai’. Hefyd yn cael ei alw yn droi allan neu hysbysiad adran 21, mae’r math hwn o droi allan yn cael ei ddiffinio gan landlord preifat sydd eisiau dymuno adfeddiannu eiddo heb sefydlu bai ar ran y tenant (er enghraifft, os dymunant werthu eu heiddo). Dan y ddeddfwriaeth newydd, caiff y cyfnod hysbysiad am achosion troi allan dim bai ei ymestyn o ddau fis i chwe mis ar gyfer tenantiaid newydd. Bydd tenantiaethau a droswyd (h.y. cytundebau tenantiaeth oedd mewn grym cyn 1 Rhagfyr 2022) yn parhau i gael dau fis o hysbysiad. Nid yw cymdeithasau tai yn defnyddio’r math hwn o droi allan.

Roedd rheoliadau dros dro, oedd yn ymestyn cyfnodau hysbysiad estynedig ar gyfer pob achos troi allan i chwe mis, yn ei le o fis Gorffennaf 2020. Fe wnaeth y rheoliadau hyn gefnogi tenantiaid yn ystod pandemig Covid-19 – ond daethant i ben ar 24 Mawrth 2022. Nawr, mae sefydliadau tebyg i elusen digartrefedd Shelter Cymru yn bryderus y bydd rhai landlordiaid preifat yn manteisio ar y gohiriad cyn gweithredu i droi tenantiaid allan cyn i’r cyfnod hysbysiad mwy ddod i rym. Yn ddiweddar, fe wnaeth Sefydliad Bevan hefyd gyhoeddi ymchwil a ganfu fod 17% o denantiaid tai cymdeithasol yn pryderu am eu cartrefi oherwydd cynnydd mewn costau cynnal cartref.

I gymdeithasau tai, ers amser maith dim ond ond pan fetho popeth arall y bydd troi allan yn cael ei ystyried.. Aiff eu rôl mewn darparu tai ymhell tu hwnt i frics a morter, i helpu tenantiaid i adeiladu cartref a’u cefnogi i fyw’n dda. Mae cymdeithasau tai yn bodoli am ddiben cymdeithasol ac maent yn ymroddedig i gefnogi llesiant a chydnerthedd ariannol tenantiaid.

Achosion prin o droi allan

Caiff cymdeithasau tai eu rheoleiddio’n helaeth iawn ac mae’n rhaid iddynt gydymffurfio gyda rheolau a rheoliadau llym er budd eu tenantiaid. Wrth ochr hyn, maent yn amlwg wedi gwneud ymrwymiadau tebyg i atal achosion troi allan rhag datblygu yn ddigartrefedd.

Fel arfer dim ond os nad oes dewis arall y rhoddir hysbysiad troi allan (a gaiff hefyd ei alw yn ‘hysbysiad ceisio meddiant’), er enghraifft mewn achosion lle bu ymddygiad gwrthgymdeithasol difrifol sy’n effeithio ar y gymuned, a hyd yn oed wedyn dim ond ar ôl i’r gymdeithas tai weithio gyda a chefnogi’r tenant(iaid) i ddatrys y mater y rhoddir hysbysiad troi allan. Mae gan gymdeithasau tenantiaid gyfrifoldeb i’w holl denantiaid, yn cynnwys cymdogion y mae ymddygiad fel hyn yn effeithio arnynt.

Gall tenantiaeth beidio bod yn gynaliadwy lle mae tenant wedi mynd i ôl-ddyledion rhent difrifol. Ond mae hyn yn brin iawn a dim ond pan nad ydynt wedi manteisio ar y cymorth a gynigiwyd sawl tro gan eu cymdeithas tai y bydd hyn yn digwydd – gallwch ddarllen rhai enghreifftiau o sut y gwnânt hyn islaw.

Sut mae cymdeithasau tai yn cefnogi eu tenantiaid

Cefnogi tenantiaid drwy ôl-ddyledion rhent yw’r dull a ffafrir ar gyfer i gymdeithasau tai drin y mater, yn hytrach na gorfodaeth neu droi allan. Y neges y mae cymdeithasau tai yn ei rhannu bob amser gyda thenantiaid sydd mewn trafferthion yw ‘siaradwch gyda ni, gallwn eich helpu’.

Maent yn cymryd dull canoli ar yr unigolyn at ôl-ddyledion rhent sy’n golygu fod timau penodol yn edrych ar yr hyn sy’n digwydd ym mywydau tenantiaid unigol, a chreu datrysiad hyblyg i’w cael yn ôl ar y trywydd gyda’u taliadau rhent, neu efallai ganfod rhywle sy’n fwy fforddiadwy iddynt fyw.

Yn ogystal â rhoi cefnogaeth uniongyrchol i denantiaid, mae cymdeithasau tai hefyd yn edrych ar gynlluniau lleol a chenedlaethol a all fedru gynnig cymorth rhent a llywio tenantiaid drwy’r broses gais. Er enghraifft, pan gyhoeddodd Llywodraeth Cymru estyniad i’r cynllun Grant Caledi Tenantiaid, manteisiodd cymdeithas Tai Tarian yng Nghastell-nedd Port Talbot ar y cyfle i gynnal ymgyrch i gynyddu’r defnydd, gan ofyn i staff ddynodi tenantiaid y gallent eu cefnogi drwy’r broses hawliadau. Roedd y grant ar gael i bobl a fu’n gweithio ac a gollodd eu hincwm neu swyddi oherwydd Covid-19 ac naill ai nid oeddent yn hawlio neu roeddent yn anghymwys am Gredyd Cynhwysol.

Cafodd un tenant a wnaeth gais llwyddiannus am y grant gyda help tîm Tai Tarian £840.90 at eu hôl-ddyled rhent. Roedd y person yn byw gyda’i wraig a’i blant, ac wedi colli ei swydd yn 2021 oedd wedi arwain at iddynt fethu medru fforddio’r rhent.

Daw enghraifft arall o Gymuned Tai Cymdeithas Caerdydd (CCHA). Mewn un achos lle’r oedd tenant yn wynebu digartrefedd, fe wnaeth y tîm ei gefnogi i wneud cais am achub rhent gan gronfa Llywodraeth y Deyrnas Unedig a weinyddir gan awdurdodau lleol. Arweiniodd y taliad hwn at ostwng ôl-ddyled y tenant yn sylweddol iawn o fwy na £7,000 i lai na £700. Diolchodd y tenant i CCHA ar ôl y cais llwyddiannus, a dywedodd fod ganddo nawr ddechrau newydd ar ei fywyd heb ofn colli ei gartref.

Yn ogystal â rhoi cymorth mewn adegau o argyfwng fel hyn, mae cymdeithasau tai yn rhoi cefnogaeth ac arweiniad parhaus i’w tenantiaid ar sut i drin ôl-ddyledion a dyledion eu hunain, a chynyddu eu hincwm i’r eithaf. Mae timau’n gweithio’n galed i baratoi pob tenant am lwyddiant o’r diwrnod y maent yn symud i mewn.

Os ydych yn denant cymdeithas tai sy’n bryderus am neu sy’n cael trafferthion gyda rhent a chostau cynnal tŷ, cysylltwch â’ch cymdeithas tai yn uniongyrchol os gwelwch yn dda. Mae tîm lleol arbenigol ar gael i’ch cefnogi.