Jump to content

10 Mawrth 2017

Cwrdd â Will Atkinson, Swyddog Polisi CHC

Llun o'r Will Atkinson


Helo, Wil ydw i. Ymunais â CHC ym mis Tachwedd 2016, i ddechrau i gefnogi ein gwaith tai â chymorth a diwygio lles.


Dechreuais fy ngyrfa ym maes tai gydag Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru, gan gynrychioli hawliau tai myfyrwyr yn cynnwys taith Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) drwy'r Cynulliad. Wedyn ymunais â'r Wallich, y darparydd gwasanaeth digartrefedd, fel Swyddog Polisi ac Ymchwil ac wedyn fel Rheolydd Polisi ac Ymchwil.


Rwy'n arwain ar Rwydwaith Cenedlaethol Tai â Chymorth a Darparwyr CHC/Cymorth Cymru, sy'n werthfawr iawn wrth lywio ein safbwyntiau polisi i gynrychioli aelodau CHC drwy'r newidiadau sydd ar y gweill i gyllid tai â chymorth o fis Ebrill 2019. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru i sicrhau y caiff lleisiau aelodau eu clywed wrth i'r model cyllid newydd gael ei ddatblygu dros y 12-18 mis nesaf. Mae hyn yn cynnwys cyswllt rheolaidd gydag aelodau drwy weithgorau gorchwyl a gorffen yn ogystal â rhwydweithiau a grwpiau ffocws. Mae croeso mawr i chi gysylltu â fi os hoffech gymryd rhan yn y gwaith yma.


Mae'r Rhwydweithiau Diogelwch Tân ac Iechyd a Diogelwch yn rhan bwysig o fy ngwaith. Mae gorgyffwrdd sylweddol rhwng y materion a gaiff eu trafod a thai â chymorth, gyda chyflwyno canllawiau Diogelwch Tân mewn Tai Arbenigol a gwaith at sefydlu prif awdurdod tân i lacio'r baich rheoliadol ar gymdeithasau tai sy'n darparu tai gwarchod a thai â chymorth arall.


Rwyf hefyd yn gweithio'n agos gyda Paul Langley, Pennaeth Datblygu Busnes prosiect Mae Budd-daliadau yn Newid yn CHC. Mae hyn yn cynnwys cymorth gyda'i waith ar ddiwygio lles, yn neilltuol ymestyn Credyd Cynhwysol a gorfodi Lwfans Tai Lleol ar denantiaid tai cymdeithasol o fis Ebrill 2019. Mae Llywodraeth a Senedd y Deyrnas Unedig yn ymgynghori'n helaeth ar y materion hyn ac mae ein hymatebion yn y gorffennol a galw am wybodaeth ar gael ar Yammer a gwefan CHC.
Will Atkinson
- Swyddog Polisi, CHC