Jump to content

21 Hydref 2024

Cartrefi fforddiadwy ac atal digartrefedd: adrodd yn ôl o’n digwyddiad ymylol yng nghynhadledd Plaid Cymru

Cartrefi fforddiadwy ac atal digartrefedd: adrodd yn ôl o’n digwyddiad ymylol yng nghynhadledd Plaid Cymru

Aelodau’r panel yn y sesiwn yng nghynhadledd hydref Plaid Cymru, yn cynnwys Sian Gwenllian AS a Clarissa Corbisiero (ar y dde), cyfarwyddwr polisi a materion allanol/dirprwy Brif Swyddog Gweithredol Cartrefi Cymunedol Cymru.

A’r hydref ar ein gwarthaf, mae meddyliau materion cyhoeddus yng Nghymru yn troi at drafodaethau ar y gyllideb. Mae gan Cartrefi Cymunedol Cymru ddwy brif flaenoriaeth: tai fforddiadwy newydd ac atal digartrefedd.

Yn gynharach eleni cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £5m ychwanegol ar gyfer y Grant Tai Cymdeithasol. Fe wnaethom groesawu’r cynnydd hwn: mae adeiladu tai fforddiadwy yn rhan allweddol o osod llwybr cynaliadwy allan o’r argyfwng tai – ond ni fu erioed yn anos gwneud hynny, gyda chwyddiant costau yn cyfyngu effaith buddsoddiad y llywodraeth mewn blynyddoedd diweddar.

Yn dilyn ein hymgyrch flynyddol Materion Tai gyda Cymorth Cymru, fe wnaeth Llywodraeth Cymru hefyd ddyrannu £13m ychwanegol i’r Grant Cymorth Tai ar gyfer 2024/25 i gefnogi parhad gwasanaethau digartrefedd a chymorth tai am flwyddyn arall – ac yn bwysig, talu’n deg i weithwyr ar y rheng flaen sy’n newid bywydau yn uniongyrchol.

Fodd bynnag, dim ond un flwyddyn ariannol yr oedd y gyllideb honno yn ei gynnwys. Nawr wrth i ni edrych at 2025/26, byddwn unwaith eto yn gweithio’n galed i ddangos yn union pa mor hanfodol yw cyllid ar gyfer y llinellau cyllideb yma i bobl Cymru.

Grant Cymorth Tai

Fe wnaethom gynnal digwyddiad ymylol yng nghynhadledd hydref Plaid Cymru ar 11 Hydref, gyda Cymorth Cymru a Sian Gwenllian AS.

Wrth siarad yn y sesiwn galwodd Clarissa Corbisiero, ein cyfarwyddwr polisi a materion allanol/dirprwy Brif Swyddog Gweithredol, sylw at yr ystadegau sobreiddiol tu ôl i’r argyfwng digartrefedd a thai:

rhwng mis Awst 2020 a mis Rhagfyr 2023 fe wnaeth 1,338 o bobl ar gyfartaledd symud i lety dros dro a dim ond 594 symudodd i gartrefi sefydlog hirdymor

fel ar 31 Gorffennaf 2024, roedd 11,384 unigolyn yn byw mewn llety dros dro, gyda bron draean ohonynt yn blant a phobl ifanc.

Siaradodd Clarissa hefyd am y gweithgaredd gwleidyddol a deddfwriaethol a wnaethpwyd ers 2008 i ymateb i’r argyfwng hwn, yn cynnwys sefydlu Bwrdd Ymgynghori Cenedlaethol Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd, y Panel Adolygu Arbenigol (gyda CHC yn aelod o’r ddau) a Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei Bapur Gwyn Rhoi Diwedd ar Ddigartrefeddi yn 2023.

Fodd bynnag, pwysleisiodd mai dyma’r amser ar gyfer gweithredu ar frys ac ymateb wedi ei gydlynu ar draws pob gwasanaeth cyhoeddus i fynd i’r afael â’r argyfwng digartrefedd a thai.

Mae cynyddu’r cyflenwad o gartrefi cymdeithasol fforddiadwy yn rhan allweddol o roi diwedd ar ddigartrefedd. Mae cymdeithasau tai yn gwneud popeth yn eu gallu i gyflenwi’r cartrefi mae gan bobl angen mor ddybryd amdanynt ledled Cymru ond mae rhwystrau systemig yn eu lle sy’n arafu darpariaeth. Mae’n rhaid dileu’r rhain.

"Dyma’r amser ar gyfer gweithredu ar frys ac ymateb wedi ei gydlynu ar draws pob gwasanaeth cyhoeddus i fynd i’r afael â’r argyfwng digartrefedd a thai.”
Clarissa Corbisiero, cyfarwyddwr polisi a materion allanol/dirprwy brif weithredwr, Cartrefi Cymunedol Cymru

Wrth edrych yn fwy manwl ar y Grant Cymorth Tai esboniodd Katie Dalton, cyfarwyddwr Cymorth Cymru, sut mae’n cymharu mewn gwir dermau gyda’r gyllideb yn 2011/12. Pe byddai’r gyllideb wedi cynyddu gyda chwyddiant, mae’r £139m a ddyrannwyd yn 2012 yn gyfwerth â thua £191m heddiw. Mae hynny yn doriad mewn gwir dermau o £24m – ac mae yr ystyriaeth ychwanegol y bu cynnydd sylweddol yn y galw am wasanaethau ers 2012.

Siaradodd Katie am yr heriau a brofir gan weithwyr rheng flaen – llawer ohonynt yn profi heriau ariannol tebyg i’r rhai sy’n wynebu’r cleientiaid a gefnogant, oherwydd nad oes gan ddarparwyr gwasanaethau gyllidebau digonol i dalu’n deg i weithwyr am eu gwaith sy’n newid bywydau.

Er fod gan ddarparwyr gwasanaethau a chymdeithasau tai gymorth a pholisïau yn eu lle i helpu staff sydd mewn anawsterau, maent wirioneddol eisiau cynyddu tâl ar gyfer gweithwyr rheng flaen. I wneud hyn mae’n rhaid iddynt gael cyllid digonol gan Lywodraeth Cymru.

Yr olygfa o’r rheng flaen

Fe wnaeth tair o weithwyr digartrefedd a chymorth tai hefyd siarad yn y sesiwn, gan rannu eu profiadau ar y rheng flaen.

Dywedodd Clare Jenkins, swyddog cymorth prosiect Pobl, bod colli gwasanaethau cyhoeddus wedi golygu fod yn rhaid iddi lenwi’r bylchau er mwyn bod yn weithiwr cymorth da – ac mae hyn yn neilltuol o amlwg yn ei gwaith yn cefnogi pobl ifanc 16-17 mlwydd oed.

Soniodd Clare hefyd sut y cefnogodd gleient i oresgyn adfyd a chyflawni ei freuddwyd o ddod yn chef yn y llynges. Ysywaeth, cafodd ddamwain ddifrifol ar ôl cael ei ddewis ar gyfer y llynges fodd bynnag, ar ôl misoedd lawer o ffisiotherapi aeth ymlaen i gystadlu yng ngemau Paralympaidd 2024 ym Mharis.

Siaradodd Gail Robinson o The Wallich am ei phrofiad o ddychwelyd i’r sector ar ôl seibiant gyrfa oherwydd lludded. Ar ôl bod yn weithiwr gofal am gyfanswm o 12 blynedd, dywedodd Gail faint o gynnydd fu mewn pwysau ar y sector; faint caletach yw hi i gleientiaid gael y cartrefi hirdymor maent yn eu haeddu; a faint yn hirach mae cleientiaid yn aros mewn llety dros dro.

Soniodd Gail hefyd am ei phrofiad yn cefnogi cleient byddar a rhannol ddall a rhoi’r amser i ganfod y ffordd orau i gyfathrebu. Cofiai sut y bu’n rhaid iddi eirioli’n ddiflino dros ei chleient oedd yn ei chael yn anodd darllen llythyrau a llenwi ffurflenni heb gael cymorth. Mae’r cleient bellach wedi symud i gartref sefydlog hirdymor.

Tynnodd Rhian Richards Manning, sydd hefyd yn gweithio i The Wallich, sylw at y problemau system gyfan sy’n gweithredu fel rhwystrau wrth gefnogi cleientiaid digartref. Mae hyn yn cynnwys diffyg apwyntiadau gyda meddygon teulu ac argaeledd deintyddion GIG; mae’r meini prawf ar gyfer cymhwyster yn aml yn golygu fod pobl ar y dibyn; a diffyg opsiynau cludiant fforddiadwy ar gyfer y rhai sy’n byw mewn ardaloedd gwledig.

Soniodd Rhian hefyd am yr heriau ariannol y gwelodd aelodau eraill o’r sector yn eu cael, gan ddweud ‘Rydym yn colli staff da na all fforddio aros yn y swydd ddim mwy”.

Wrth gau’r digwyddiad, diolchodd Sian Gwenllian AS i’r gweithwyr am eu hymroddiad, angerdd a’u gofal a gwaith amhrisiadwy i wella bywydau pobl.

Nododd Sian hefyd waith Plaid Cymru i wella sefyllfa digartrefedd a thai. Yn 2017, bu’n ymladd wrth ochr sefydliadau ymgyrchu i ddiogelu cyllid wedi ei neilltuo ar gyfer gwasanaethau cymorth tai. Ac yn 2023, bu Plaid Cymru yn gweithio gyda CHC a Cymorth Cymru i sicrhau’r £13m ychwanegol o gyllid ar gyfer Grant Cymorth Tai a nodir uchod.

Dywedodd Sian fod y blaid yn awr yn parhau ei gwaith i ddiogelu a chynyddu’r Grant Cymorth Tai. Heriodd Ysgrifennydd Cabinet Tai a Llywodraeth Leol yn ystod cwestiynau’r Senedd ac mewn cyfarfodydd o’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn ddiweddar, gan ofyn am ymrwymiad i ddiogelu a chynyddu’r Grant Cymorth Tai nawr.

Tu hwnt i’r Grant Cymorth Tai, soniodd Sian am liferau eraill sy’n hanfodol i fynd i’r afael â’r argyfwng tai yn cynnwys cyflenwad digonol o dai fforddiadwy – elfen hanfodol mewn system atal a lliniaru digartrefedd.

“Ond rydym angen mwy o gartrefi, mwy o gartrefi cymdeithasol ac os cawn hynny’n iawn, yna gallwn ddechrau mynd i’r afael yn well gyda’r problemau yma.”