I lawr i sero: Dull blaengar Grŵp Tai Cynon Taf o gyflawni cydbwysedd carbon sero net erbyn 2030
Gyda hinsawdd y Deyrnas Gyfunol yn newid yn gyflym a chymdeithasau tai ledled Cymru yn cymryd camau blaengar i addasu i hyn, mae Jack Nodwell o Brifysgol Caerdydd yn trafod dull cydweithredol Grŵp Tai Cynon Taf o gyflawni sero net.
Mae Grŵp Tai Cynon Taf wedi llunio partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd i yrru ei uchelgais i leihau allyriadau carbon ar draws ei stoc o bron i 2,000 o dai.
Mae’r grŵp, sydd â chartrefi ledled Rhondda Cynon Taf, yn gweithio gyda’i bartneriaid newydd i greu set unigryw o strategaethau cymunedol ac yn canolbwyntio ar gymdeithas sy’n cefnogi ei weledigaeth o gyrraedd sero net erbyn 2030.
Daw strategaeth gydweithredol Cynon Taf ar ôl i gyfoeth o ymchwil ddangos bod hinsawdd y Deyrnas Gyfunol yn dal i newid, gyda’r degawdau diwethaf yn gynhesach, gwlypach a mwy heulog na’r 20fed ganrif, yn ôl data’r Swyddfa Dywydd.
Ym mis Chwefror 2020, profodd Cymru rai o’r llifogydd mwyaf arwyddocaol yr oedd wedi eu gweld ers Rhagfyr 1979 o ganlyniad i stormydd Ciara, Dennis a Jorge, yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru.
Mae llifogydd lleol yn risg uniongyrchol sy’n bygwth iechyd a llesiant pobl sy’n byw a gweithio yng Nghymru, yn neilltuol mewn cymunedau arfordirol a dyffrynnoedd, yn ôl Map Data Cymru. Eleni gwelwyd nifer o lifogydd arwyddocaol yn barod, gyda 26 o rybuddion llifogydd ar draws Cymru ar 11 Ionawr yn unig.
Daeth haf 2022 hefyd â thymheredd uchel a dorrodd record ym mis Gorffennaf, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Gan mai tai yw un o allyrwyr carbon mwyaf Cymru - dengys ymchwil Llywodraeth Cymru ei fod yn cyfrif am 9% o’r holl allyriadau nwyon tŷ gwydr - mae gan gymdeithasau tai, fel
rheolwyr asedau, gyfle uniongyrchol i leihau’r rhif hwn trwy droi cartrefi’n fwy gwyrdd.
Wrth ymateb i’r ymgyrch dros newid hinsawdd, mae CTHG wedi gosod nod strategol o gyflawni cydbwysedd carbon sero net erbyn 2030.
Crëwyd is-gwmni newydd - Down to Zero - yn 2022 i CTHG i hwyluso gweledigaeth y grŵp o’r strategaeth hon. Sicrhaodd y grŵp tai wedyn gefnogaeth trwy raglen Partneriaethau Clyfar Llywodraeth Cymru, ac ymunodd y ddau bartner i gyd-ariannu prosiect sy’n cael ei arwain gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd.
Mae’r bartneriaeth newydd yn cyfuno adnoddau dynol, ariannol a thechnolegol i gyflawni nifer o amcanion cyffredin. Un o werthoedd craidd y strategaeth yw canolbwyntio nid yn unig ar gynllun gweithredu amgylcheddol, ond i ymgorffori agweddau ehangach o’r dull sylfaen driphlyg.
Wrth i’r prosiect ddatblygu, mae realiti a’r anawsterau sy’n gysylltiedig â chyrraedd sero net erbyn 2030 wedi dod yn amlwg ac mae cyflawni’r uchelgais hon yn llwyr yn annhebygol heb newid cenedlaethol trawsffurfiol cryf tuag at ynni a chynhyrchu deunyddiau yn gynaliadwy/adnewyddadwy.
Ond, ni ddylai hynny atal unrhyw ddyheadau sefydliadol nac ymdrechion tuag at ‘sero net 2030’.
O ddeall ein canlyniadau cychwynnol mae ein hystyriaethau wedi ehangu i gynnwys strategaethau fel datganiadau sero net ar sail endid, yn unol â’r Safonau Prydeinig cyfarwyddyd PAS 2060 ar Niwtraliaeth Garbon, sy’n caniatáu i sefydliadau ddylunio llwybrau sero net unigryw ar gyfer rhannau gwahanol o’r sefydliad.
Mae’r broses ddoeth hon yn caniatáu i ni ymdrin â’n hallyriadau sefydliadol uniongyrchol yn ein hamserlen gychwynnol, gan sicrhau ein bod yn rhoi’r amser a’r gofal i ddatgarboneiddio ein stoc tai heb aberthu
llesiant na sicrwydd ariannol ein tenantiaid. Bydd y dyluniad hwn ar y strategaeth yn cadw CTHG yn hyblyg o ran technoleg newydd sy’n cael ei datblygu yn yr amgylchedd adeiledig cynaliadwy, gan gynnal strategaeth sero net holistaidd a fydd yn cyflawni ein nod cyn y targed cenedlaethol gorfodol yn 2050.
Rhannwyd y prosiect yn dri cham:
Cam un:
Bydd cam un yn sefydlu gwaelodlin carbon ar gyfer CTHG, gan gynnwys eu gweithrediadau busnes a stoc tai. Bydd angen cyfrifo’r carbon sydd wedi ei ymgorffori yn y stoc tai ac unrhyw adeiladau swyddfa sy’n eiddo i’r grŵp, ynghyd â charbon gweithredol a allyrrir trwy ddefnyddio’r adeiladu o ddydd i ddydd.
Mannau sy’n creu problem fawr o ran carbon yw’r prif fannau sydd angen sylw trwy gamau datgarboneiddio ôl-osod pan fydd yn bosibl, neu bydd
yn arwain newidiadau i brosesau adeiladu ar gyfer stoc tai a ddatblygir yn y dyfodol gan y grŵp.
Cam dau:
Mae cam dau yn gynllun ar gyfer gwerthuso sut i ddatgarboneiddio’r stoc tai a gweithrediadau busnes CTHG. Yn yr un modd â llawer o gymdeithasau tai yng Nghymru, mae datgarboneiddio trwy ôl-osod yn brif ddull i gyrraedd cydbwysedd carbon sero net.
Y rhan o’r broses sy’n cael ei deall leiaf o hyd yw effaith pobl ar ôl-osod, a dyma’r un sydd fwyaf tebygol o gael effaith (gadarnhaol neu negyddol) ar effeithiolrwydd unrhyw strategaethau ôl-osod.
Mae’n hanfodol i denantiaid gymryd rhan yn y broses ôl-osod a deall y camau sy’n cael eu cymryd, os yw’r arbediad carbon a ragwelir am gael eu gwireddu. Mae ôl-osod yn cynnig enghraifft allweddol o weithredu datgarboneiddio sydd o fudd uniongyrchol i denantiaid. Gall unrhyw welliant ar effeithlonrwydd aelwyd greu arbedion i denantiaid ac o bosibl ostwng biliau cyfleustodau misol.
Cam tri:
Cam tri yw datblygu strategaeth atafaelu carbon, gan ddefnyddio atebion ar y tir i storio carbon yn effeithiol trwy ddulliau cyfrifol. Mae carbon sydd wedi ei atafaelu yn cael ei dynnu o’r atmosffer i daclo newid hinsawdd byd-eang trwy storio’r carbon ar ffurf wahanol.
Ystyrir mai atebion yn seiliedig ar y tir yw’r dewis gorau ar gyfer tîm partneriaeth glyfar CTHG, oherwydd gallent gynnig manteision cynaliadwy ochr yn ochr â chael gwared ar garbon yn yr atmosffer. Bydd defnyddio’r atebion yma yn hyrwyddo deilliannau amlweddog i’r prosiect, trwy weld tir yn cael ei ddefnyddio i atafaelu carbon gan gynnig budd ariannol a
chymdeithasol i’r gymuned trwy well sgiliau, cyfleoedd a llesiant.
Yn ganolog i liniaru ar sail y tir mae tyfu cynnyrch bwyd lleol yn gynaliadwy. Mae planhigion yn cynnig storfa garbon ac mae’r bwyd a gynhyrchir yn cynyddu diogelwch bwyd lleol a’i hygyrchedd yn ogystal â
chefnogi troi at system fwyd fwy gwyrdd a mwy cyfeillgar i’r hinsawdd.
Mewn argyfwng costau byw, mae trosi i system fwyd leol a gallai gostio llai yn hanfodol i bawb.
Am ragor o wybodaeth am waith amgylcheddol a pholisi Tai Cymunedol Cymru ewch i’n tudalen bolisi.