Jump to content

16 Mai 2024

Datganiad CHC: Llywodraeth Cymru yn ymestyn y Safon Rhent a Thaliadau Gwasanaeth

Datganiad CHC: Llywodraeth Cymru yn ymestyn y Safon Rhent a Thaliadau Gwasanaeth

This statement was issued on 16 May 2024.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd yn ymestyn ei Safon Rhent a Thaliadau Gwasanaeth hyd at ddiwedd mis Mawrth 2026.

Mae hyn yn golygu, os yw ffigur chwyddiant prisiau defnyddwyr (CPI) mis Medi rhwng 0% a 3%, y gall landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru benderfynu eu cynnydd rhent eu hunain i’w tenantiaid ar gyfer 2025/26, yn unol â’r fformiwla a’r canllawiau a nodwyd yn y safon rhent.

Wrth ymateb dywedodd Rhea Stevens, pennaeth polisi a materion allanol, Cartrefi Cymunedol Cymru:

“Mae gosod rhenti yn un o’r penderfyniadau pwysicaf a wnaiff cymdeithasau tai nid-er-elw ac nid ydynt yn cymryd hynny’n ysgafn. Wrth osod rhenti, mae cymdeithasau tai yn sicrhau cydbwysedd gofalus rhwng yr hyn sy’n fforddiadwy i denantiaid unigol a buddsoddi yn y cartrefi a’r gwasanaethau ansawdd uchel mae cymunedau eu hangen.

“Mae penderfyniad heddiw i ymestyn Safon Rhent a Thaliadau Gwasanaeth Llywodraeth Cymru yn rhoi sicrwydd a sefydlogrwydd sydd ei fawr angen ar gyfer sector tai cymdeithasol Cymru, ac mae’n galluogi cymdeithasau tai i barhau i osod rhenti sy’n deg a fforddiadwy ar gyfer y bobl sy’n byw yn eu cartrefi.

“Nenfwd ac nid targed yw’r setliad rhent a ganiateir, a bydd cymdeithasau tai yn awr yn gosod rhenti yn lleol drwy ymgysylltu gyda thenantiaid a defnyddio dulliau i ddeall fforddiadwyedd.

“Os ydych yn denant cymdeithas tai ac yn cael trafferthion gydag unrhyw faterion ariannol, cysylltwch â’ch landlord cyn gynted ag sydd modd os gwelwch yn dda.”