Jump to content

28 Gorffennaf 2022

Costau Byw: cymdeithasau tai eisiau gwneud mwy, ond angen cymorth ychwanegol i helpu tenantiaid mewn argyfwng

Costau Byw: cymdeithasau tai eisiau gwneud mwy, ond angen cymorth ychwanegol i helpu tenantiaid mewn argyfwng

Yn gynharach y mis hwn gwahoddodd Llywodraeth Cymru bartneriaid i uwch-gynhadledd Costau Byw, lle gallent rannu syniadau a dynodi camau gweithredu i helpu pobl yng Nghymru wrth i gostau byw barhau i gynyddu. Gyda Jane Hutt y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, yn llywyddu, gofynnwyd i’r partneriaid hyn siarad am yr effaith mae’r argyfwng yn ei gael (ac yn parhau i’w gael) ar blant a theuluoedd, tai a thâl.

Roedd Clarissa Corbisiero, Dirprwy Brif Weithredwr Cartrefi Cymunedol Cymru, ymysg y rhai a wahoddwyd. Yma mae’n trafod sut mae cymdeithasau tai yn helpu eu tenantiaid mewn argyfwng tra galwn am gymorth ar draws y sector.

Faint mae’n ei gostio i redeg eich cartref?

Gyda phrisiau ynni a chostau chwyddiant yn cynyddu, mae hyn yn fater sydd ar feddwl llawer o bobl ar hyn o bryd, yn cynnwys y rhai sy’n hybu gweithredu a gwasanaethau o fewn cymdeithasau tai yng Nghymru.

Mae’r mater yn un pwysicach byth i’r rhai sydd ar incwm isel. Mae aelwydydd incwm isel yn gwario cyfran sylweddol uwch o’u gwariant ar eitemau hanfodol. Dengys yr adroddiad Ciplun ar Dlodi a gyhoeddwyd gan Sefydliad Bevan fod 1 mewn 5 aelwyd sydd ag incwm o lai na £20,000 naill ai weithiau neu’n aml yn ei chael yn anodd fforddio eitemau bob dydd.

Hyd yn oed cyn y cynnydd mawr diweddar mewn prisiau ynni, roedd corff ymchwil Dadansoddiad Cyllidol Cymru Prifysgol Caerdydd wedi canfod bod aelwydydd Prydain sydd yn y degradd uchaf yn gwario mwy na dwywaith cymaint ar gost eu cartref a chyfleustodau fel cyfran o’u hincwm gwario na’r rhai yn y degran incwm uchaf. Yn drawiadol, adroddodd Sefydliad Bevan yn ddiweddar fod 98% o aelwydydd incwm isel yn byw mewn tlodi tanwydd.

Mae adroddiadau diweddar yn rhybuddio am gynnydd sylweddol a pellach y gaeaf nesaf yn dangos yn glir na fydd y cymorth argyfwng a roddwyd gan y llywodraeth a phartneriaid yn mynd â ni yn bell iawn o gofio am faint enfawr y sefyllfa.

Wrth i bethau waethygu, mae tenantiaid tai cymdeithasol yn gofyn am fwy o gyngor gan eu landlordiaid. Mewn ymateb, mae rhai cymdeithasau tai yn sicrhau cyllid ychwanegol cyfyngedig o ran amser i hybu eu gwasanaethau cyngor ynni a chymorth llesiant cymunedol. Ond mae timau cynyddu incwm cymdeithasau tai yn canfod yn gynyddol eu bod wedi cyrraedd terfyn yr hyn y gallant ei wneud – cafodd pob opsiwn ei ymchwilio ac nid oes unrhyw arbedion eraill i’w hadnabod.

Rhoddwyd cyllid a blaenoriaeth i wasanaethau cyngor yng Nghymru, yng ngoleuni’r costau cynyddol – ond credwn y gall cymdeithasau tai a phartneriaid cymunedol eraill fod â rôl gryfach fyth wrth gefnogi’r rhai sydd mewn trafferthion. Y llynedd, fe wnaethom amcangyfrif fod cymdeithasau tai Cymru wedi buddsoddi cannoedd o filoedd o bunnau i gefnogi’r rhai oedd wedi cyrraedd pwynt argyfwng. Dangosodd ein harolwg diweddaraf, mewn gwirionedd, fod naw cymdeithas yn unig wedi buddsoddi dros £250,000 i helpu tenantiaid gyda’u costau byw. Mae cyfle clir i wneud i’r arian hwn fynd ymhellach gyda chynllun arian cyfatebol a dull gweithredu cydlynus ar draws asiantaethau a llywodraeth i greu dull gweithredu hygyrch i gyllid argyfwng.

Rhent a llesiant

Nid yw cyfrifoldebau cymdeithasau tai wedi eu cyfyngu i gyngor a chyllid argyfwng, fodd bynnag. Rydym hefyd yn meddwl o ddifrif am gostau byw yn ein cartrefi, yn cynnwys rhent a thaliadau gwasanaeth.

Mae cymdeithasau tai yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau i’w helpu i osod rhenti bob blwyddyn. Mae hyn yn cynnwys egwyddorion fforddiadwyedd, adolygu tâl gwasanaeth, dulliau data a modelau gosod rhent sydd â fforddiadwyedd yn greiddiol iddynt – tebyg i

fodel rhent byw Sefydliad Joseph Rowntree. Y llynedd, gwelodd y dull gweithredu hwn 74% o gymdeithasau tai Cymru yn gwneud amrywiaeth o newidiadau i rewi neu ostwng rhenti unigol i’w gwneud yn fwy fforddiadwy i denantiaid.

Ar lefel y Deyrnas Unedig mae’n amlwg nad yw’r ymagwedd bresennol at lesiant yn sicrhau fod budd-daliadau yn cefnogi pobl i fyw’n dda. Mae gwir werth budd-daliadau sylfaenol wedi gostwng oherwydd y methiant i gynyddu’r gyfradd yn llawn yn saith o’r deg mlynedd flaenorol. Dywedodd y Sefydliad Siartredig Tai fod buddion sylfaenol bellach yn werth 11 y cant yn llai nag oeddent ddegawd yn ôl – mae hynny’n gyfwerth â thorri budd-dal o £1,800 ar gyfer teulu gyda dau o blant.

Mae Lwfans Tai Lleol yn parhau wedi ei rewi ar lefel 2020, gan felly ostwng y cartrefi sydd ar gael sy’n fforddiadwy i rai ar incwm isel. Ar gyfer y rhai sy’n cael eu symud i’r Credyd Cynhwysol erbyn 2024, nid oes ymrwymiad ar hyn o bryd i gynyddu budd-daliadau ar gyfer y rhai fydd â gwarchodaeth pontio (y rhai a fydd yn waeth eu byd ar Gredyd Cynhwysol) i gael cynnydd yn unol neu’n agos at chwyddiant. Byddwn yn parhau i ychwanegu ein llais i alwad Llywodraeth Cymru ac eraill i ddiwygio ein system llesiant.

Beth am y cartrefi eu hunain? Mae buddsoddiad mewn cartrefi presennol yn gwneud synnwyr fel un rhan o ddull ehangach i helpu gyda chynnydd mewn costau. Mae’r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio wedi galluogi cymdeithasau tai i brofi dulliau gweithredu a dysgu ohonynt. Fodd bynnag rydym angen cynllun clir, ymarferol a chyllid er mwyn cynyddu maint hyn.

Gallai datgarboneiddio hefyd ysgogi 26,500 o swyddi ac, os caiff ei weithredu yn unol ag amserlen wedi’i chynllunio ac y gellir ei chyflawni, bydd yn cefnogi busnesau bach a chanolig i gynyddu eu gweithrediad fel y gallwn sicrhau manteision y buddsoddiad hwnnw yma yng Nghymru.

Mae strategaeth tlodi tanwydd Llywodraeth Cymru yn rhoi fframwaith clir i ni i flaenoriaethu’r rhai sy’n ei chael yn anodd dod â deupen llinyn ynghyd am y 13 mlynedd nesaf. Wrth i fwy a mwy o bobl fod angen help, mae angen i ni fynd i’r afael â’r argyfwng mewn costau byw lle mae’n taro pobl galetaf – gartref. Ond dim ond gyda chynllun y gellir ei gyflawni ac a gaiff ei chyllido i sianelu buddsoddiad sylweddol i gartrefi presennol y gallwn wneud hynny.