Effaith drom yr argyfwng costau byw ar denantiaid tai cymdeithasol ddwy flynedd yn ddiweddarach
Wrth i’r cynnydd enfawr mewn costau byw barhau dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r rhan fwyaf o bobl wedi teimlo’r pwysau. Ond bu pethau’n neilltuol o anodd a llwm ar gyfer pobl ar incwm is, llawer ohonynt yn byw mewn cartrefi cymdeithasau tai ar draws Cymru.
Hyd yn oed cyn yr argyfwng costau byw, roedd tenantiaid cymdeithasau tai yn dweud eu bod yn ei chael yn anodd talu am bethau yn cynnwys bwyd, teithio a biliau ynni ar y Credyd Cynhwysol. Ers hynny mae’r cynnydd mawr mewn costau ynni ynghyd â chwyddiant yn golygu bod llawer o bobl yn gorfod dewis rhwng hanfodion sylfaenol bob dydd.
Mewn ymgais i geisio cadw eu pennau uwchben y dŵr, cafodd llawer o denantiaid eu gwthio ymhellach ac ymhellach i ddyled ac maent yn awr yn cael anawsterau yn ad-dalu. Ar ôl misoedd a misoedd o bwysau ariannol na welwyd ei debyg, maent yn awr ar dorri ac angen cymorth fel mater o frys.
Yn ôl ein hadroddiad diweddaraf ar yr argyfwng costau byw, Methu Dod â Deupen Llinyn Ynghyd, fe wnaeth mwy na 14,000 o bobl yn byw mewn cartrefi cymdeithasu tai yng Nghymru droi at eu landlord am gymorth ariannol brys rhwng Ionawr a Mehefin 2023 yn unig.
Mae cymdeithasau tai yn gwneud popeth a fedrant i weithio gyda’r bobl sy’n byw yn eu cartrefi. Maent yn darparu gwasanaethau pwysig sy’n sicrhau fod tenantiaid yn derbyn cymorth holistig sy’n lliniaru caledi ariannol uniongyrchol a hefyd yn mynd i’r afael ag achosion sylfaenol i helpu pobl adeiladu mwy o gydnerthedd ariannol. Ond fel gwasanaethau nid er elw, mae terfyn ar eu hadnoddau ac maent hwythau hefyd wedi teimlo effaith costau cynyddol ar eu gwasanaethau.
Dywedodd un o gynghorwyr incwm cymdeithas tai Hafod: “Mae’r rhan fwyaf o fy ngwaith ar hyn o bryd yn cael ei achosi gan yr argyfwng costau byw a chaledi ariannol. Pan fyddaf yn canolbwyntio ar galedi, rwy’n ymwybodol y gallaf fod yn colli ymyriadau cynnar gyda fy nghyfrifon rent.
“Rwy’n falch iawn o’n gwaith a wnawn a’r gwahaniaeth a gaiff hynny ar fywydau pobl. Mae mwy a mwy o breswylwyr yn troi atom gan nad ydynt yn gwybod ble arall i droi, ond fy nghonsyrn yw pa mor hir y gallwn gadw hyn i fynd.”
Pryderon am ynni
Dengys ein ymchwil mai ynni oedd y rheswm mwyaf cyffredin pam y gofynnodd tenantiaid am gymorth ariannol gan eu landlord. Roedd ymholiadau am gymorth am fwyd a dyledion yn dilyn hyn.
Mae biliau ynni bron ddwywaith yr hyn oeddent cyn yr argyfwng, ac mae pobl ar incwm isel yn dal i’w chael yn anodd fforddio gwresogi eu cartrefi. Er fod cynlluniau cenedlaethol tebyg i’r cynllun cymorth tanwydd gaeaf a’r cynllun gostwng biliau ynni helpu, mae’r rhaglenni hyn yn awr wedi dod i ben heb unrhyw gymorth yn ei le ar gyfer gaeaf eleni.
Bydd y cynnydd yn y cap prisiau a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Ofgem hefyd yn gweld pobl yn talu tua £94 yn fwy ar gyfartaledd bob blwyddyn o fis Ionawr 2024.
Mae’n awr yn hanfodol fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gweithio i gyflwyno tariff cymdeithasol ynni i sicrhau y gall pobl fyw mewn cartrefi cynnes.
Yn ogystal ag edrych ar gyllid personol, mae rhai cymdeithasau tai wedi datblygu gwasanaethau arbennig i helpo pobl yn eu cymunedau i adolygu eu costau ynni eu hunain.
Er enghraifft, mae Adra a Grŵp Cynefin wedi gweithio gyda Chyngor Sir Ynys Môn i gyllido wardeiniaid ynni a hyfforddwyd yn arbennig, sy’n ymweld â phobl mewn gwahanol ardaloedd i wneud yn siŵr fod bod yn cael y cyngor cywir ar sut i arbed ynni ar filiau gwresogi.
Cafodd un ddynes ei helpu i arbed £478 ar ei biliau, ar ôl i’r tîm ymchwilio’r opsiynau oedd ar gael a’i chynghori i newid ei darparydd trydan.
Dywedodd Elin Williams, Rheolwr Cymunedau a Phartneriaethau Adra: “Mae ein wardeiniaid ynni yn gwneud gwaith gwych. Gall eu cefnogaeth a’u harbenigedd wneud gwahaniaeth go iawn.”
Find out more about our Ends Won't Meet report here:
Ansicrwydd bwyd
Erbyn mis Hydref 2023, roedd costau bwyd 30% yn uwch nag oeddent yn ystod yr un mis ddwy flynedd ynghynt, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Dosbarthodd Ymddiriedolaeth Trussell bron 90,000 o barseli bwyd argyfwng yn ei fanciau bwyd yng Nghymru rhwng mis Ebrill a mis Medi 2023 oherwydd y cynnydd cynyddol mewn prisiau. Yn y cyfamser, dywedodd 40% o gymdeithasau tai Cymru wrthym eu bod wedi cefnogi pobl gyda bwyd yn chwe mis cyntaf eleni.
Er fod y Canghellor wedi cyhoeddi y bydd budd-daliadau yn cynyddu’r flwyddyn nesaf yn unol â chyfradd chwyddiant 6.7% mis Medi, rydym yn dal i alw ar Lywodraeth Cymru i gyllido cynlluniau hanfodol sy’n targedu tlodi tanwydd a bwyd. Rydym hefyd yn cefnogi galwadau Sefydliad Joseph Rowntree ac Ymddiriedolaeth Trussell ar gyfer Gwarant Hanfodion, a fyddai’n sicrhau fod y gyfradd sylfaenol o’r Credyd Cynhwysol yn ddigon ar gyfer hanfodion bywyd, tebyg i fwyd a biliau.
Mae Cymdeithas Tai Merthyr Tudful yn cefnogi pobl leol a all fod yn ei chael yn anodd fforddio bwyd iach. Mae ei chynllun Tŷ Pantri yn cynnig dosbarthu bwyd o ddrws-i-ddrws sy’n rhoi mynediad fforddiadwy i ffrwythau a llysiau ffres, nwyddau sych a thuniau.
Cafodd ei lansio ar ôl i’r tîm sylweddoli bod pobl yn y gymuned, yn cynnwys eu tenantiaid, yn ei chael yn anodd fforddio’r isafswm archeb o £30 ar gyfer i’r archfarchnadoedd mwy i ddosbarthu bwyd.
Dywedodd un cwsmer: “Mae’r gwasanaeth yr ydych yn ei ddarparu yn rhoi help sylweddol i ni fel teulu. Er nad wyf fi fy hunyn denant i chi, rydych yn fy nhrin fel pe byddwn felly ac yn rhoi cymaint o help i fi gyda hyn.
“Fel tŷ, nid ydym erioed wedi bod yn y sefyllfa hon o’r blaen, lle mae’r ddau ohonom nawr mas o waith, ac mae hyn wedi taro ar gyllid ein teulu. Mae’r pantri yn werthfawr tu hwnt i ni. Diolch i chi a Hope, rydym yn medru fforddio bwyta a chael diet gytbwys.”
Ychwanegodd un arall: “Wn i ddim lle fyddwn i heb hyn, mae’n help enfawr i fi. A chi yw’r unig berson rwy’n ei weld ar ddyddiau Iau. Diolch i chi.”
Cymorth llesiant
Er mai materion arian fu ffocws rhan fwyaf o’r gefnogaeth a roddwyd gan gymdeithasau tai, mae eu timau arbenigol hefyd yn chwarae rhan bwysig wrth sicrhau eu bod yn derbyn y cymorth iechyd a llesiant ei angen hefyd.
Mae Cartrefi Cymunedol Tai Calon yn un o’r landlordiaid sydd wedi darparu cymorth newid-bywyd i bobl mewn angen.
Yn dilyn marwolaeth drasig ei ferch a dau o’i wyrion mewn damwain, canfu person lleol ei hun yn byw gyda chyfaill. Dim ond bythefnos a gafodd i ganfod llety arall, ac nid oedd ganddo gyfrif banc na dull adnabod ar gyfer agor un. Dim ond y dillad yr oedd yn eu gwisgo y diwrnod hwnnw oedd ganddo.
Camodd gweithwyr cymorth Lifft Tai Calon i mewn i helpu. Fe wnaethant gais am dystysgrif geni a sicrhau fflat yn un o gynlluniau gwarchod Tai Calon. Fe wnaethant hefyd gofrestru’r tenant newydd gyda banc a meddygfa a chael mynediad i gronfa caledi Tai Calon ar gyfer dillad gwely, llestri, sosbenni a chelfi cegin a bwyd.
Fe wnaethant hefyd gais llwyddiannus am fudd-dal tai/treth gyngor a Thaliad Annibynnol Personol ar ei gyfer. Fel canlyniad, roedd gan y tenant £1,252 ychwanegol y mis (£15,024 y flwyddyn) a thaliad unigol o £2,742.
Roedd yn ddiolchgar am y cymorth a gafodd, gan ddweud, “Nid oes neb erioed wedi fy helpu o’r blaen na gwneud unrhyw beth fel hyn i fi. Diolch yn fawr iawn i chi. Rwyf wrth fy modd gyda fy nghartref, fedra’i ddim credu mai fy lle i yw e.”
Galw am newid
Wrth i gymdeithasau tai barhau i ddarparu’r gefnogaeth hanfodol hon a mwy i’r bobl yn eu cymunedau, rydym yn annog Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i symud ymlaen gyda’r camau gweithredu dilynol ar unwaith:
Llywodraeth y DU:
- Cadarnhau y caiff budd-daliadau eu cynyddu yn unol â chwyddiant o fis Ebrill.
- Rhoi blaenoriaeth i greu tariff cymdeithasol ynni a darparu opsiynau ad-dalu fforddiadwy ar gyfer rhai sydd mewn dyled ynni, gan hyrwyddo galwadau a wnaed gan National Energy Action (NEA) Cymru ac a gymeradwywyd gan lawer o elusennau a sefydliadau defnyddwyr eraill.
- Sicrhau nad yw gorfodi gosod mesuryddion blaendalu yn ailddechrau ar gyfer aelwydydd sy’n fregus yn ariannol.
- Ymrwymo i adolygu a chynyddu’r Credyd Cynhwysol i sicrhau fod isafswm lefel cymorth yn gwarantu y gall pobl dalu am hanfodion, gan weithredu galwadau a wnaed gan JRF ac Ymddiriedolaeth Trussell am Warant Hanfodion.
Llywodraeth Cymru:
- Gwarchod cronfeydd argyfwng presennol a sicrhau fod y llwybrau i gymorth yn hygyrch ac wedi eu targedu at y rhai sydd fwyaf o’i angen.
- Parhau i gyllido cynlluniau hanfodol sy’n targedu tlodi tanwydd a bwyd, ac sy’n cefnogi cyfraddau uwch o ddefnyddio budd-daliadau.
Mewn ymateb, bydd cymdeithasau tai yn:
- Parhau i gefnogi tenantiaid gyda chymorth ariannol ac eiriolaeth, a monitro effaith y gwaith hwn.
- Parhau i weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Llywodraeth Cymru i gyflwyno ymgyrch ymwybyddiaeth sy’n annog tenantiaid tai cymdeithasol i droi at eu landlord i gael help.
- Parhau i ymchwilio partneriaethau cymunedol i alluogi tenantiaid i gael mynediad i gymorth tymor byr, yn cynnwys partneriaethau gyda banciau bwyd ac undebau credyd lleol.
- Sicrhau fod rhenti yn fforddiadwy ar gyfer tenantiaid, drwy gysylltu gyda thenantiaid a defnyddio offer i ddeall fforddiadwyedd.