Jump to content

Yr Adolygiad o Dai Fforddiadwy

Yn gryno

Ym mis Tachwedd 2017, galwodd Cartrefi Cymdeithasol Cymru (CHC) am adolygiad o bolisi tai fforddiadwy yng Nghymru i sicrhau y gallai cymdeithasau tai gyflawni uchelgais ‘Gorwelion Tai’ o Gymru lle mae cartref da yn hawl sylfaenol i bawb.

Drwy gydol 2018, bu’r Adolygiad Annibynnol o’r Cyflenwad o Dai fforddiadwy yng Nghymru yn casglu tystiolaeth gan randdeiliaid ledled Cymru. Ystyriodd y panel annibynnol ddeg ffrwd gwaith yn amrywio o grant tai cymdeithasol i bolisi rhent a thir sector cyhoeddus.

Cyhoeddodd y panel ei adroddiad terfynol ym mis Mai 2019, gan wneud argymhellion ym mhob un o’r deg ffrwd gwaith. Yn dilyn ymateb cadarnhaol gan y Gweinidog i’r adroddiad ym mis Gorffennaf 2019, buom yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid eraill, yn cynnwys awdurdodau lleol, ar weithredu’r argymhellion.

Sut ydym yn datblygu’r maes hwn o waith

Cafodd ein hymateb i’r Adolygiad o Dai Fforddiadwy ei lywio gan sgyrsiau gyda mwy na 200 o staff uwch ac aelodau bwrdd cymdeithasau tai yng Nghymru.

Rydym yn parhau i drafod a datblygu ymatebion i weithrediad argymhellion yr adolygiad drwy ein hymgysylltu presennol. I gael mwy o wybodaeth ar sut ydym yn llunio ffrydiau gwaith allweddol yr adolygiad, gweler:

I gael mwy o wybodaeth ar sut ydym yn datblygu polisi, cliciwch yma.

Crynodeb llawn
Bryony Haynes

Gyda phwy i siarad...

Bryony Haynes

Mae’n flin gennym, nid oes eitemau ar gael ar hyn o bryd