Gofal a Chefnogaeth Iechyd
Yn gryno
Mae cartref o safon uchel yn gwella iechyd pobl. Rydym yn gwybod bod tai gwael ar hyn o bryd yn costio £95 miliwn y flwyddyn i’r GIG yng Nghymru mewn costau triniaethau, a bod buddsoddi mewn cartrefi cynnes, diogel yn lleihau’r gost yma i unigolion a’r pwrs cyhoeddus yn sylweddol.
Yn ogystal â darparu cartrefi o safon uchel mewn cymunedau ar draws Cymru, mae cymdeithasau tai yn hyrwyddo iechyd a llesiant eu tenantiaid trwy gefnogaeth wedi ei thargedu fel offer cymorth ac addasiadau sy’n gadael i bobl barhau’n annibynnol yn eu cartref wrth i’w hanghenion newid.
Maen nhw hefyd yn darparu llety arbenigol fel tai â chymorth sy’n diogelu annibyniaeth pobl tra’n bodloni anghenion gofal a chymorth hefyd. Mae rhai cymdeithasau tai hefyd yn darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol cofrestredig o safon uchel, gan gynnwys byw â chymorth a chartrefi gofal.
Ochr yn ochr â darparu llety a chymorth i bobl hŷn, pobl ag anableddau ac eraill sydd angen gofal a chymorth tymor hir, mae nifer o gymdeithasau tai hefyd yn darparu llety a chymorth tymor byr i’r rhai sy’n ddigartref.
Trwy fuddsoddi mewn tai a mwy o gydweithio gyda’n partneriaid mewn iechyd a gofal cymdeithasol, gallwn leihau’r pwysau ar wasanaethau argyfwng a gallwn chwarae rhan sylweddol wrth wella iechyd, llesiant ac annibyniaeth pobl.
Ein blaenoriaethau
Dynodi atebion i’r system ariannu a chomisiynu gofal cymdeithasol, sy’n galluogi cymdeithasau tai i dalu cyflog teg i staff gofal a chefnogi a darparu gofal a gwasanaethau cefnogi o safon uchel sy’n hyfyw.
Dangos cyfraniad eang cymdeithasau tai at wella iechyd a llesiant y genedl, a chefnogi ein haelodau i ffurfio partneriaethau strategol cryfion.
Sut yr ydym yn datblygu’r maes hwn o’n gwaith
Rydym yn gweithio gyda’n haelodau Gofal a Chymorth a chynrychiolwyr cymdeithasau tai ar Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol i ddeall blaenoriaethau a phrofiadau ein haelodau. Rydym hefyd yn gofyn am fewnbwn aelodau ar feysydd gwaith sydd dan sylw trwy grwpiau tasg a gorffen.
Rydym yn weithredol yn chwilio am gyfleoedd i weithio mewn partneriaeth gyda chyrff eraill ar y materion hyn, gan gynnwys Cymorth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Conffederasiwn GIG Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Rydym hefyd yn aelodau o’r Fforwm Darparwyr Cenedlaethol a’r Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol, yn ogystal ag amrywiol grwpiau polisi llywodraeth Cymru sy’n berthnasol i’r materion hyn.
Am ragor o wybodaeth am y ffordd yr ydym yn datblygu polisïau, cliciwch yma.
Hidlo yn ôl Maes Polisi
- Y cyfan
- Offer cymorth ac addasiadau
- Gofal a Chymorth
- Partneriaethau gofal iechyd a chymorth
Mae’n flin gennym, nid oes eitemau ar gael ar hyn o bryd
Hidlo yn ôl Maes Polisi
- Y cyfan
- Offer cymorth ac addasiadau
- Gofal a Chymorth
- Partneriaethau gofal iechyd a chymorth