Grant Tai Cymdeithasol (SHG)
Yn gryno
SHG yw’r prif grant cyfalaf a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i gyllido darpariaeth tai fforddiadwy yng Nghymru. Gall cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol gael mynediad i’r cyllid hwn ar gyfer darparu adeiladu cartrefi newydd ac adnewyddu adeiladau presennol i ddarparu cartrefi ar rent cymdeithasol a chanolraddol. Mae cymdeithasau tai yn defnyddio eu cyllid eu hunain ynghyd â’r grant a dderbyniant i adeiladu cartrefi newydd a gwneud i arian cyhoeddus fynd ymhellach.
Yn ogystal â thai fforddiadwy anghenion cyffredinol, gellir defnyddio’r cyllid i ddarparu llety i bobl hŷn, llety a addaswyd ar gyfer cadeiriau olwyn, tai â chymorth a thai gofal ychwanegol.
Mae’r cyllid hwn yn hanfodol wrth sicrhau fod cynlluniau yn hyfyw a bod lefelau rhent yn aros yn fforddiadwy. Mewn blynyddoedd diweddar, wrth i uchelgais ac effaith cymdeithasau tai gynyddu, bu cynnydd sylweddol hefyd yn lefel y cyllid sydd ar gael o £68m yn 2016 i fwy na £250m yn 2021.
Cyn tymor hwn y Senedd, galwodd ein maniffesto Cartref ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi £1.5bn mewn Grant Tai Cymdeithasol i gefnogi darparu 20,000 o gartrefi newydd ar rent cymdeithasol.
Yn dilyn argymhellion yr Adolygiad Annibynnol o’r Cyflenwad o Dai Fforddiadwy yn 2019, mae Llywodraeth Cymru wrthi’n ad-drefnu’r ffordd y caiff Grant Tai Cymdeithasol ei ddosbarthu i ddarparwyr tai cymdeithasol.
Mae’r adolygiad yn gwneud cyfres o argymhellion am y ffordd y caiff lefel cyllid ei gyfrif, y ffordd y gwneir y penderfyniadau am pwy sy’n derbyn cyllid a chymhwyster cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol i dderbyn cyllid.
Mae grŵp cyd-dylunio Llywodraeth Cymru yn cynnwys cynrychiolwyr o Cartrefi Cymdeithasol Cymru (CHC) a’r sector cymdeithasau tai wrthi’n trafod nifer o opsiynau ar gyfer fframwaith grantiau’r dyfodol. Gwneir cyhoeddiadau ar fframwaith grant y dyfodol yn haf 2021.
Mae CHC wedi creu pedwar prawf ar gyfer y fframwaith newydd er mwyn mesur llwyddiant y cynigion sy’n dod i’r amlwg:
- A fydd y system newydd yn darparu mwy o gartrefi?
- A fydd y cartrefi hyn yn wirioneddol fforddiadwy?
- A fydd y cartrefi hynny yn rhai ansawdd uchel ac yn addas ar gyfer y dyfodol?
- A fydd gan bob darparydd gydag uchelgais a chapasiti rôl wrth ddarparu’r cartrefi hynny?
Sut ydym yn datblygu’r maes gwaith hwn
Mae gan grwpiau cyflenwi strategol Cartrefi’r Dyfodol a Cyllid rôl allweddol wrth lywio ein gwaith ar gartrefi newydd a buddsoddiad a dylanwadu ar Lywodraeth Cymru a gwneuthurwyr penderfyniadau eraill yn y maes hwn.
Mae cynrychiolwyr y sector ar grŵp cyd-ddylunio Llywodraeth Cymru ar y Grant Tai Cymdeithasol yn cynrychioli amrywiaeth o gymdeithasau tai o ran math, maint a daearyddiaeth.
I gael mwy o wybodaeth ar sut y datblygwn bolisi, cliciwch yma.
Gyda phwy i siarad...
Bryony Haynes
Mae’n flin gennym, nid oes eitemau ar gael ar hyn o bryd
Mae’n flin gennym, nid oes eitemau ar gael ar hyn o bryd