Bryony Haynes
Rheolwr Polisi a Materion Allanol
Mae Bryony yn un o dri arweinydd polisi yn gweithio o fewn y gyfarwyddiaeth polisi a materion allanol. Mae’n goruchwylio’r meysydd polisi digartrefedd a datgarboneiddio. Yn fewnol, hi yw arweinydd y sefydliad ar strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant. Mae ei swydd yn cynnwys llunio safbwyntiau polisi, ymateb i ymgynghoriadau a gweithio’n agos gydag aelodau a rhanddeiliaid i ddylanwadu ar strategaeth a deddfwriaeth tai. Mae ei ffocws ar sicrhau fod ein gwaith polisi yn adlewyrchu’r gwir heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu’r sector.
Cyn dod i weithio yn CRC roedd gan Bryony swydd fel ymgynghorydd i Cyfeillion y Ddaear Cymru ar eu hymgyrch ‘Dim ffracio yng Nghymru’.