Jump to content

Tir a Chynllunio

Yn gryno

Mae mynediad i dir fforddiadwy a system gynllunio effeithlon yn hanfodol i ddarpariaeth cartrefi fforddiadwy newydd, a gall y ddau gael effeithiau sylweddol ar hyfywedd cynlluniau tai. Dengys ymchwil gan yr IPPR y gall marchnad tir nad yw’n gweithredu’n iawn a chynnydd mewn prisiau tai hybu anghydraddoldeb a chreu’r amodau ar gyfer marchnad dai doredig.

Yn dilyn argymhellion o’r Adolygiad Annibynnol o’r Cyflenwad o Dai Fforddiadwy yn 2019, sefydlodd Llywodraeth Cymru uned gyda’r dasg o gyflwyno mwy o dir sector cyhoeddus ar gyfer cynlluniau tai cymdeithasol.

Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddylanwadu cylch gorchwyl yr uned newydd a sicrhau ei fod yn gweithio’n agos gyda chymdeithasau tai i ddarparu cyflenwad addas o dir.

Ym mis Chwefror 2021 lansiodd Llywodraeth Cymru fframwaith datblygu cenedlaethol newydd ar gyfer Cymru. Mae Cymru’r Dyfodol yn rhoi pwyslais cryf ar ddarpariaeth tai fforddiadwy a chreu lleoedd a bydd yn gweld Llywodraeth Cymru yn targedu ei chynlluniau tai a chynllunio tuag at sicrhau mwy o gyflenwad o dai cymdeithasol a fforddiadwy erbyn 2030.

Creu Lleoedd

Mae Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC) wedi llofnodi Siarter Creu Lleoedd Cymru a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru a Phartneriaeth Creu Lleoedd Cymru. Nod y siarter yw cryfhau’r ffocws ar greu lleoedd mewn polisi ac ymarfer yng Nghymru ac i adeiladu dealltwriaeth gyffredin o ystyriaethau creu lleoedd.

Fel llofnodion, mae CHC yn ymroddedig i hyrwyddo chwe egwyddor creu lleoedd:

  • Pobl a chymuned
  • Symudiad
  • Parth cyhoeddus
  • Lleoliad
  • Cymysgedd defnyddiau
  • Hunaniaeth

Gallwch ganfod mwy am y siarter creu lleoedd yma.

Sut ydym yn datblygu’r maes hwn o waith

Mae gan ein grŵp cyflenwi strategol Cartrefi’r Dyfodol rôl allweddol wrth lywio ein gwaith ar dir a chynllunio a dylanwadu ar Lywodraeth Cymru a gwneuthurwyr penderfyniadau eraill yn y maes.

Wrth ochr hyn, mae CHC yn cysylltu’n rheolaidd gyda swyddogion Llywodraeth Cymru ar ddatblygiadau yn y maes hwn ac yn gweithio’n agos gyda chyrff eraill y sector yn cynnwys RTPI Cymru a’r Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi.

I gael mwy o wybodaeth ar sut ydym yn datblygu polisi, cliciwch yma

Crynodeb llawn
Bryony Haynes

Gyda phwy i siarad...

Bryony Haynes

Mae’n flin gennym, nid oes eitemau ar gael ar hyn o bryd

Mae’n flin gennym, nid oes eitemau ar gael ar hyn o bryd