Jump to content

#TalwchGyflogTeg

Galwodd #TalwchGyflogTeg ar Lywodraeth Cymru i gynyddu cyllid gofal cymdeithasol i awdurdodau lleol i sicrhau y caiff y sector ei gyrru gan werth yn hytrach na chost, ac i sicrhau fod pob gweithiwr gofal yng Nghymru yn derbyn o leiaf y Cyflog Byw Gwirioneddol.

Beth yw ymgyrch #TalwchGyflogTeg?

Cynhaliwyd #TalwchGyflogTeg cyn yr etholiadau i Senedd Cymru yn 2021 ac yng nghanol pandemig COVID-19. Galwodd ar Lywodraeth Cymru yn dilyn yr etholiad i gynyddu cyllid gofal cymdeithasol i awdurdodau lleol i sicrhau y caiff y sector ei yrru gan werth yn hytrach na chost, a sicrhau fod pob gweithiwr gofal yng Nghymru yn derbyn o leiaf y Cyflog Byw Gwirioneddol.

Cefnogwyd yr ymgyrch gan sefydliadau ar draws y sectorau tai, gofal a chymorth, yn ein cynnwys ni, Cymorth Cymru, Fforwm Gofal Cymru, Cywaith Cartrefi Cymru, WCVA Cymru, Canolfan Cydweithredol Cymru, Oxfam a llawer o’r cymdeithasau tai sy’n aelodau i CHC.

Roedd y maniffesto yn gofyn am dri pheth allweddol:

  1. Rhaid gweithredu’r Cyflog Byw Gwirioneddol fel isafswm, ar gyfer holl weithwyr gofal Cymru.

  2. Rhaid fod cyllid ar gyfer cynnydd a gwahaniaethau yn seiliedig ar gymwysterau, sgiliau a chyfrifoldebau.

  3. Rhaid i Lywodraeth Cymru gynyddu cyllid gofal cymdeithasol ar gyfer awdurdodau lleol i sicrhau y caiff y sector ei yrru gan werth, yn hytrach na chost, a fod ganddi’r adnoddau sydd eu hangen i sicrhau gwell canlyniadau ar gyfer y dinasyddion sy’n ei defnyddio, y gweithlu a gwerth cymdeithasol i gymunedau.

Pa wahaniaeth wnaeth yr ymgyrch?

Tynnodd maniffesto #TalwchGyflogTeg sylw at faterion oedd yn mynd tu hwnt i baramedrau amlwg y sector gofal a chymorth, a gosod rhesymau cryf dros yr hyn y gofynnem amdano:

  • Oherwydd y dylai gwaith gofal gael ei werthfawrogi’n iawn a chael ei wobrwyo’n haeddiannol
  • Oherwydd bod tâl isel am ofal yn gwahaniaethu yn erbyn menywod
  • Oherwydd y bydd tâl teg am waith gofal yn hybu’r economi sylfaenol leol
  • Oherwydd y bydd cost tâl teg am ofal yn gostwng costau eraill yn y system
  • Oherwydd bod y Comisiwn Gwaith Teg wedi dangos yr angen
  • Oherwydd y gellir ei wneud – o gael yr agwedd gywir at gyllido, ffioedd a chyflogau.

Yn dilyn #DiwrnodTâlTeg traws-sector ar y cymdeithasau cymdeithasol, gwnaeth y prif bleidiau ymrwymiadau fel rhan o’u hymgyrchu maniffesto eu hunain:

  • Rhoddodd Llafur Cymru warant o Gyflog Byw Gwirioneddol o £9.50 yr awr i bob gweithiwr gofal, gan gydnabod fod ‘ymroddiad y gweithlu gofal cymdeithasol wedi ysbrydoli cenedl’ drwy gydol y pandemig.
  • Ymrwymodd Plaid Cymru i warantu isafswm cyflog o £10 yr awr ar gyfer gweithwyr gofal. Fe wnaethant hefyd ymrwymo i ostwng bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru drwy gynyddu cyflog gweithwyr gofal cymdeithasol, dyfarnu cynnydd cyflog gwir dermau i weithwyr GIG, dod â chontractau dim oriau i ben, a chynnwys darpariaeth cydbwysedd rhwng y rhywiau mewn contractau caffael cyhoeddus.
  • Ymrwymodd Ceidwadwyr Cymru i gyflwyno setliad diwygiedig ar gyfer cyflogau a chadw ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol, yn cynnwys polisi recriwtio, cadw ac ailhyfforddi, ac isafswm cyflog o £10 yr awr ar gyfer staff gofal.

Ble gallaf gael mwy o wybodaeth?

Gallwch weld y maniffesto yma a dilyn #TalwchGyflogTeg i weld straeon y sector.

Sut y gallaf gymryd rhan?

Daeth yr ymgyrch a gynhaliwyd cyn yr etholiad i ben ond gallwch ddal i gymryd rhan yn y ffyrdd dilynol i sicrhau y caiff ymrwymiadau eu rhoi ar waith:

Cymdeithasau tai:

  • cofrestru fel sefydliad cefnogol
  • cysylltu’n gadarnhaol gyda’ch aelodau newydd yn Senedd Cymru
  • rhannu straeon sy’n dangos effaith go iawn materion tebyg i recriwtio a chadw gweithwyr gofal, modelau cyllid anghynaladwy a gwobrwyo a chydnaid y gweithlu gofal cymdeithasol

Partneriaid:

  • cofrestru fel sefydliad cefnogol
  • siarad gyda ni am rôl tâl teg ar gyfer gweithwyr gofal mewn materion tebyg i integreiddio tai, iechyd a gofal cymdeithasol, y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, yr economi sylfaenol, a llesiant Cymru.