Pobl yn canfod eu HAPI-srwydd mewnol drwy brosiect cymunedau cymdeithas tai
Cafodd llesiant tenantiaid cymdeithasau tai yn ne ddwyrain Cymru hwb sylweddol drwy raglen o weithgareddau rhad ac am ddim.
Mae prosiect HAPI (hapus, anelu’n uchel, llewyrchus a chynhwysol yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd a llesiant cymunedau sy’n byw yn ac o amgylch Rhondda Cynon Taf, Caerdydd a Bro Morgannwg. Caiff ei gyflwyno fel rhan o ymrwymiad Cymdeithas Tai Newydd i greu cymunedau cynaliadwy.
Mae HAPI yn gweithio gyda thenantiaid a phreswylwyr i wella eu llesiant cyffredinol drwy gyflwyno gweithgareddau rhad ac am ddim drwy bedair thema: bwyd a maeth, gweithgaredd corfforol; addysg, hyfforddiant a chyflogaeth a gweithdai ar lesiant emosiynol.
Cyn 2020 cafodd y gweithdai eu cyflwyno wyneb-i-wyneb, gyda mwy na 2,000 o bobl yn cymryd rhan. Ond pan gyflwynwyd cyfyngiadau Covid-19, bu’n rhaid i dîm y prosiect feddwl yn greadigol sut y gallent ddal i gefnogi eu cymunedau. Cafodd y gweithdai eu symud ar-lein ac fe gawsant gynulleidfa newydd enfawr. Cynhaliwyd mwy na 1,500 sesiwn hyd yma ar Facebook gan gyrraedd dros 20,000 o bobl o bob rhan o’r byd pan oedd y pandemig ar ei anterth.
Bu’r gweithdai llesiant emosiynol yn neilltuol o boblogaidd dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae’r sesiynau hyn yn cynnwys cyngor ac arweiniad ar ymwybyddiaeth ofalgar, cael gwared â straen, rheoli iselder a seicoleg. Dywedodd y rhai a gymerodd ran fod gweithgareddau wedi gostwng unigrwydd, wedi datblygu cyswllt cymdeithasol a chynyddu iechyd a llesiant.
Yn y flwyddyn ddiwethaf cafodd y gweithdai hyn hefyd eu haddasu ar gyfer ysgolion, gan ddefnyddio cynllun Rhaglen Ymwybyddiaeth Ofalgar i Ieuenctid a gynhaliwyd ar draws y Deyrnas Unedig. Cymerodd 11 ysgol leol ran yn y sesiynau llesiant hyn, gyda staff, disgyblion a’u teuluoedd yn cael eu gwahodd i gymryd rhan.
Yn ogystal â’r cynlluniau ymwybyddiaeth ofalgar mewn ysgolion, mae HAPI hefyd yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i gyflwyno cyrsiau ar Rheoli Poen Cronig ar gyfer oedolion. Mae’r cyrsiau hyn yn helpu i gefnogi unigolion gyda phoen cronig a gyfeiriwyd gan eu meddygon teulu, a rhoi’r wybodaeth maent ei hangen i helpu rheoli eu hiechyd. Cafodd hyn groeso cynnes gan y sawl a gymerodd ran fel ffordd o ymdopi â’u poen cronig a datblygu ffordd iach o fyw. Hyd yma mae HAPI wedi cyd-gyflwyno pump o gyrsiau rhithiol ac un cwrs wyneb-i-wyneb gyda dros 50 o breswylwyr ar draws Cwm Taf Morgannwg yn mynd i’r gweithdai.