Moneyline yn taflu rhaff i bobl ar incwm isel a'r rhai y mae Diwygio Lles yn effeithio arnynt
Mae gwasanaeth sy'n helpu pobl ar incwm isel i osgoi dod yn ysglyfaeth i siarcod benthyca a chynorthwyo’r rhai sy'n wynebu problemau arian wedi dod i Abertawe.
Caiff Moneyline Abertawe ei agor yn swyddogol ar 7 Hydref gan y Gwir Barchedig John Davies, Esgob Abertawe ac Aberhonddu.
Mae Moneyline Cymru yn fenter gymdeithasol dim-er-elw flaengar sy'n gweithio mewn partneriaeth gyda Cartrefi Cymunedol Cymru a bydd yn darparu benthyciadau fforddiadwy a chyngor arian i bobl sydd fel arfer yn cael eu hanwybyddu gan fenthycwyr prif ffrwd.
Mae Moneyline Abertawe yn rhan o Moneyline Cymru a dyma'r seithfed safle i agor yng Nghymru, yn ogystal â Moneyline Merthyr Tudful, Caerdydd, Pontypridd, Cwmbran, Pen-y-bont ar Ogwr a Chasnewydd.
Mae canghennau Moneyline Cymru wedi trefnu dros 13,000 benthyciad yn werth mwy na £6m. Caiff cwsmeriaid eu hannog i agor cyfrif cynilo, gyda bron draean (cwsmeriaid y mae pobl yn dweud na allent ac na fyddent yn cynilo) yn dewis gwneud hynny - gan arbed cyfanswm o £900,000 rhyngddynt.
Agorodd safle newydd Moneyline Abertawe i'r cyhoedd ar 1 Medi, a hyd yma mae wedi trefnu 25 benthyciad, wedi benthyca £4,800 i bobl leol, gyda 100% o'r cwsmeriaid hefyd yn agor cyfrif cynilo.
Dywedodd Nick Bennett, Prif Weithredydd Grŵp Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC), corff aelodaeth cymdeithasau tai yng Nghymru: "Mae Moneyline yn taflu rhaff i'r rhai sydd ei angen. Gyda newidiadau diwygio lles Llywodraeth y Deyrnas Unedig, mae cynnydd yn y galw am fenthycwyr llog uchel a siarcod benthyca yn bryder gwirioneddol. Bydd y gwasanaeth a gynigir gan Moneyline Abertawe yn werthfawr tu hwnt ac aiff ymhell i helpu pobl i ymdopi gyda'r newidiadau."
Caiff cangen Abertawe ei rheoli gan Ceri Hart, a fu'n gweithio i'r grŵp am dair blynedd. Dywedodd: "Rydym yn sylweddol rhatach na'r benthycwyr llog uchel sydd ar gael ar hyn o bryd ac mae ein staff yn sicrhau mai dim ond yr hyn y gallant ei fforddio y mae cwsmeriaid yn ei fenthyca. Fel yn ein safleoedd eraill, rydym yn gweld llwyddiant enfawr gyda'n cyfrifon cynilo, gyda llawer o bobl yn cynilo am y tro cyntaf erioed."
Mae'r 'Dreth Ystafelloedd Gwely' a gyflwynwyd yn gynharach eleni wedi effeithio ar tua 40,000 o bobl yng Nghymru, a byddant yn colli rhan o'u budd-dal tai oherwydd y bernir fod ganddynt 'ystafell dros ben'. Mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif y bydd tua 42,500 o bobl yng Nghymru yn colli hyd at £83 yr wythnos ar gyfartaledd yn dilyn newidiadau i'r Lwfans Byw i'r Anabl (DLA).
Mae sefydliadau megis Moneyline, undebau credyd a phartneriaid allweddol eraill yn gweithio'n galed i drin materion yn dilyn diwygio lles a rhoi dewisiadau i bobl.
Ychwanegodd Nick Bennett: "Bydd cwsmeriaid Moneyline yn cael cynnig cyngor annibynnol ar arian - p'un ai a gawsant fenthyciad ai peidio. Mae cynghorwyr arian 'Mae Budd-daliadau yn Newid', prosiect gan CHC a ariannwyd gan y Loteri Fawr a Dŵr Cymru, eisoes wedi rhoi cyngor i dros 4,000 o gwsmeriaid a dynodi miloedd o fudd-daliadau nad oedd yn cael eu hawlio. Maent hefyd wedi helpu cwsmeriaid i ostwng eu dyledion dŵr gan fwy na £700,000 drwy gronfa cymorth cwsmeriaid Dŵr Cymru.
Dywedodd Ms Hart: "Bu'r cymdeithasau tai lleol a Chyngor Abertaew yn gefnogol iawn gydag ehangu Moneyline Cymru i Abertawe. Hoffwn fanteisio ar y cyfle yma i ddiolch iddynt am eu holl gymorth hyd yma - rwy'n hyderus y byddwn yn adeiladu perthynas waith gref gyda'r holl bartneriaid sy'n ein cefnogi a sicrhau fod dewisiadau gwirioneddol yn lle benthycwyr carreg drws a benthycwyr arian anghyfreithlon."