Jump to content

06 Tachwedd 2014

Adroddiad annibynnol yn dangos buddion ehangach sector cymdeithasau tai Cymru gyda £2bn o effaith economaidd

Amcangyfrifir bod Cymdeithasau Tai Cymru wedi cyfrannu £2bn i'r economi yn 2013/14 yn ôl adroddiad annibynnol gan yr Uned Ymchwil i Economi Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd.

Lansir yr adroddiad, a gomisiynwyd gan Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC), y corff aelodaeth ar gyfer cymdeithasau tai, yn eu cynhadledd flynyddol yng Nghaerdydd heddiw. Mae'r adroddiad yn asesu buddion economaidd ehangach y sector yng Nghymru ac yn dangos eu cylch gorchwyl 'tai a mwy'.

Bellach yn ei seithfed flwyddyn, dengys yr adroddiad i'r sector ddarparu 1,850 o gartrefi fforddiadwy newydd yn 2013/14 a'u bod ar y targed i gyrraedd targed diwygiedig Llywodraeth Cymru o 10,000 o gartrefi fforddiadwy ar gyfer tymor hwn y Llywodraeth.

Cyfrannodd Cymdeithasau Tai £1027m i'r economi yn 2013/14; 26% o hyn ar gostau llafur uniongyrchol, 21% ar adeiladu ar 29% ar gynnal a chadw, atgyweirio ac uwchraddio cartref. Cafodd 80% o'r £1027m o wariant uniongyrchol ei gadw yng Nghymru. Ynghyd â thrafodion anuniongyrchol rhwng gwahanol sectorau'r economi, mae'r effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol rhyngddynt yn gyfanswm o bron £2bn. Cafodd £5.66bn ei wario'n uniongyrchol gan gymdeithasau tai yng Nghymru ers dechrau'r gyfres o adroddiadau.

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Grŵp Cartrefi Cymunedol: "Mewn sefyllfa o gynildeb, toriadau i wariant cyhoeddus a heriau oherwydd diwygio lles, mae ein sector wedi parhau i fuddsoddi'n helaeth mewn gwasanaethau ar gyfer tenantiaid a chymunedau ac mae ein heffaith economaidd yn parhau i gynyddu."

Fel cyflogwr sylweddol yn economi Cymru bu cynnydd sylweddol yng nghyflogaeth y sector yng Nghymru, gydag aelodau CHC yn cyflogi 8,400 o swyddi cyfwerth ag amser-llawn yn 2013/14 o gymharu â 3,300 yn 2008. Am bob person a gyflogir yn amser-llawn yn y sector, caiff un a hanner o swyddi eraill eu cefnogi mewn sectorau eraill yn economi Cymru.

Bu adfywio hefyd yn ffocws allweddol i'r sector a gwariwyd miliynau o bunnau, £514m, ar weithgareddau gyda ffocws ar adfywio yn 2013/14.

Ychwanegodd Ropke: "Mae ein haelodau yn darparu llawer mwy na thai yn unig. Dyma'r flwyddyn gyntaf i ni gynnwys astudiaethau achos yn yr adroddiad yn dangos gwir led y gweithgareddau y mae ein haelodau yn ymroi iddynt. Nid yw'n rhaid i chi'n uniongyrchol fod yn derbyn y gwasanaethau a chyfleusterau a ddarperir i deimlo'r effaith."

Un o'r astudiaethau achos a gynhwysir yn yr adroddiad yw Prosiect Goleudy, a gaiff ei redeg gan Gymdeithas Tai Taf, sydd â rôl allweddol wrth helpu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i lacio pwysau ar brinder gwelyau mewn ysbytai. Mae un o weithwyr cefnogaeth Prosiect Goleudy yn seiliedig yn barhaol gyda'r Tîm Rhyddhau o'r Ysbyty yn Ysbyty Brenhinol Gwent yn helpu canfod llety ar gyfer rhai sy'n ddigon da i adael yr ysbyty ond na allant fynd yn ôl i'w cartrefi eu hunain. Gall y materion amrywio o fygythiad digartrefedd, diffyg budd-daliadau neu fod eu cartref presennol yn anaddas.

Ychwanegodd John Keegan, Cadeirydd CHC: "Mae hon yn enghraifft wych o sut mae'r sector yn gynyddol yn chwarae rôl gefnogi gyda'r GIG fel y medrir canolbwyntio adnoddau meddygol yn fwy effeithlon, ac mae'n dangos lled y gweithgareddau y mae ein haelodau'n ymwneud â nhw."

Gellir lawrlwytho'r adroddiad llawn yma.