Jump to content

11 Chwefror 2022

Creu darpariaeth tai seiliedig ar seicoleg

Creu darpariaeth tai seiliedig ar seicoleg

Mae cymdeithas tai Caredig wedi ymrwymo i wella ei chefnogaeth ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth, tenantiaid a staff drwy ddefnyddio fframwaith Amgylcheddau Seiliedig ar Seicoleg (PIE) a dod yn sefydliad a gaiff ei lywio gan wybodaeth o Drawma a Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (TrACE). Mae Jason Smith, Pennaeth Gofal a Chymorth Caredig yn esbonio mwy.

Pan fydd pobl yn wynebu problemau tai, maent yn aml yn dod law yn llaw gyda heriau eraill: gall trawma, camddefnyddio sylweddau a salwch meddwl fod wrth wraidd helyntion pobl sydd mewn risg o gael eu troi o’u cartrefi neu a ddaeth yn ddigartref.

Gyda phrif swyddfa yn Abertawe a chartrefi a gwasanaethau gofal a chymorth ar draws De Cymru, mae Caredig yn ymroddedig i roi pobl a chymunedau wrth galon ein gwaith. Mae deall a mynd i’r afael â’r problemau sylfaenol a all greu problemau tai yn rhan allweddol o’n gwaith.

Mae hynny’n golygu darparu mwy na dim ond llety: rydym yn rhedeg gwasanaeth ailgartrefu cyflym sylweddol sy’n darparu llety hirdymor a thymor byr ar gyfer pobl sydd angen cymorth parhaus gyda’u hiechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau. Rydym hefyd yn darparu gwasanaethau gofal yn y cartref a gwasanaethau cymorth cymunedol i gefnogi pobl i gadw eu cartrefi.

Gweithiwn i ddarparu’r gefnogaeth, dulliau ac amgylcheddau i alluogi unigolion i ffynnu yn eu cartrefi, bod yn gymdogion da, teimlo’n rhan o’r gymuned leol a symud ymlaen mewn modd cadarnhaol gyda’u bywydau.

Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, aethom ati ar daith i weithio mewn ffordd a gaiff ei lywio gan TrACE, gan sicrhau y caiff ein gwasanaethau eu cynllunio a’u cyflenwi mewn ffordd sy’n adlewyrchu effaith trawma ar y bobl sy’n defnyddio gwasanaethau ac yn gweithio ynddynt.

Mae defnyddio fframwaith PIE fel strwythur i feddwl am sut y darparwn ein gwasanaethau wedi ein helpu i greu iaith a dull gweithredu cyson i hybu ein harfer da presennol.

Y canlyniad oedd ein model 360o seicolegol, sy’n canolbwyntio ar gefnogi pobl fel y gallant ffynnu a byw bywydau bodlon.

Mae 360o yn cynnwys pedwar parth:

  • Ymchwilio – dod i wybod beth sy’n wirioneddol bwysig i bobl a sut olwg sydd ar fywyd llewyrchus;
  • Ymrwymo – adeiladu cymhelliant a datblygu cynlluniau ar gyfer llwyddiant;
  • Gweithredu – canolbwyntio ar feysydd penodol o fywyd;
  • Grymuso – datblygu cryfderau a chysylltu gyda’r gymuned;
  • Mae ein gwerthoedd yn sylfaen i’n model ac yn rhedeg drwy ein holl waith.

Er enghraifft, fe wnaethom weithio gyda thenant yr oedd ei defnydd o alcohol yn achosi problemau gyda’i chymdogion a’r gymuned leol i drafod beth oedd yn bwysig yn ei bywyd (Ymchwilio). Fe wnaethom hefyd ddefnyddio dulliau fel cyfweliadau cymhelliant i drin effaith ei defnydd o alcohol (Ymgysylltu). Fe wnaeth hyn ei helpu i ddeall ei effaith ac ymrwymo i newid. Mae’n awr yn gweithio ar greu gwelliannau yn ei bywyd (Gweithredu) ac mae wedi cymryd rheolaeth o’r gefnogaeth a gaiff fel ei fod yn gweithio iddi hi (Grymuso).

Mae hon yn daith gyffrous iawn sy’n dal i esblygu a newid ac un o fanteision gwneud hyn yw gweld sut y caiff ymddiriedaeth ei adeiladu ar draws y sefydliad oherwydd ein bod i gyd yn mynd yn yr un cyfeiriad. Ni fyddwn bob amser yn ei chael yn iawn y tro cyntaf ond rydym yn parhau â’n hymroddiad i wneud gwelliannau parhaus, sy’n newid bywydau.

Mae 7-13 Chwefror yn Wythnos Iechyd Meddwl Plant.