Jump to content

Cynhadleddau - Digwyddiadau'r Gorffennol

Yn gryno

Mae ein cynadleddau yn denu cannoedd o staff o blith cymdeithasau tai Cymru a thu hwnt. Cânt eu datblygu mewn cysylltiad â’r sector i sicrhau eu bod yn berthnasol ac amserol.

  • Cynhadledd Llywodraethiant a Risg 2025
    Cynadleddau 2 days Sbarc, Caerdydd
    Mawrth 26, 2025 @ 9:00yb

    Cynhadledd Llywodraethiant a Risg 2025

    Llywio Cymhlethdod: Cydbwyso Cyfle a Risg

  • Cynadleddau Amgueddfa Wyddoniaeth Techniquest
    Tachwedd 19, 2024 @ 9:00yb

    Cynhadledd Flynyddol CCC 2024

    Ffocws ein Cynhadledd Flynyddol 2024 fydd y gydberthynas a’r rhannu dealltwriaeth rydym eu hangen i wireddu yr uchelgais sydd gennym i gyd am Gymru lle mae tai da yn hawl sylfaenol i bawb.

    Drwy gydberthynas adeiladol a deall ein gilydd, gallwn greu’r amodau i gymdeithasau tai wneud hyd yn oed fwy i baratoi eu tenantiaid a chymunedau am lwyddiant.

  • Cynhadledd Cyllid 2024
    Cynadleddau 1,5 diwrnod Metropole Hotel & Spa, Llandrindod Wells
    Hydref 3, 2024 @ 12:30yh

    Cynhadledd Cyllid 2024

    Mae cwestiynau allweddol yn parhau. Sut fyddwn ni’n ariannu datgarboneiddio ein cartrefi presennol? Sut mae mynd i’r afael â’r gwaith parhaus sydd ei angen i sicrhau diogelwch adeiladau? A beth yw goblygiadau’r heriau hyn ar gyfer swyddogion cyllid y dyfodol?

    Mae’r gynhadledd hon yn cynnig cyfle i gyfarwyddwyr, rheolwyr a swyddogion i ymchwilio’r themâu hyn a mwy, yn cynnwys sut y gallwch chi a’ch busnes feithrin cydnerthedd. Bydd cydweithwyr o bob rhan o’r sector, llywodraeth a’r diwydiant cyllid yn canfod digon o gyfleoedd i ddysgu, rhannu profiadau a chlywed gan raglen o arbenigwyr amlwg ar amrywiaeth o bynciau.

  • Cynadleddau 2 days Metropole Hotel & Spa, Llandrindod Wells
    Gorffennaf 4, 2024 @ 10:30yb

    Cynhelir Un Gynhadledd Tai Fawr 2024

    ‘Cyflawni ar gyfer cymunedau amrywiol mewn cyfnod heriol’

    Gwyddom i gyd mai tai da yw sylfaen cymunedau ffyniannus a bod hynny yn cefnogi canlyniadau da ar gyfer unigolion, gwasanaethau cyhoeddus a’n hamgylchedd naturiol gwerthfawr.

    Cynhelir Un Gynhadledd Tai Fawr 2024 ar 4 a 5 Gorffennaf a bydd yn gyfle i arweinwyr a rheolwyr o fewn y sector i adlewyrchu sut mae’r gwasanaethau a ddarparant a’r cartrefi newydd y maent yn eu darparu yn adlewyrchu cyfansoddiad ac anghenion amrywiol eu cymunedau yn y ffordd orau.

    Rydym yn gweithio ar yr agenda drafft ar hyn o bryd a chaiff ei gyhoeddi yn y dyfodol agos.

    Bydd y gynhadledd yn ymchwilio dulliau gweithredu arloesol i:

    · Ymgysylltu’n sensitif ac yn effeithiol gyda thenantiaid ar draws ystod o feysydd, o atgyweirio i ôl osod;

    · Ystyried anghenion amrywiol cymunedau mewn gwasanaethau a ddarperir i denantiaid, o ymgysylltu cymdogaeth i reoli asedau;

    · Cynnwys anghenion y gymuned wrth ddylunio, datblygu a chyflenwi cartrefi newydd; a

    · Hyrwyddo bioamrywiaeth ac integreiddiad i’r amgylchedd naturiol.

    Archebwch eich lle nawr!