Cynhadledd Cyllid 2024
Dyfodol Cyllid
Am y tro cyntaf ers 2019, mae ein Cynhadledd Cyllid yn dychwelyd i Westy a Sba y Metropole yn Llandrindod.
Gyda phwysau ar gadwyni cyflenwi, pryderon am chwyddiant a phroblemau go iawn am dlodi, mae cymdeithasau tai yn wynebu pwysau cynyddol ar eu sefyllfa ariannol.
Mae cwestiynau allweddol yn parhau. Sut fyddwn ni’n ariannu datgarboneiddio ein cartrefi presennol? Sut mae mynd i’r afael â’r gwaith parhaus sydd ei angen i sicrhau diogelwch adeiladau? A beth yw goblygiadau’r heriau hyn ar gyfer swyddogion cyllid y dyfodol?
Mae’r gynhadledd hon yn cynnig cyfle i gyfarwyddwyr, rheolwyr a swyddogion i ymchwilio’r themâu hyn a mwy, yn cynnwys sut y gallwch chi a’ch busnes feithrin cydnerthedd. Bydd cydweithwyr o bob rhan o’r sector, llywodraeth a’r diwydiant cyllid yn canfod digon o gyfleoedd i ddysgu, rhannu profiadau a chlywed gan raglen o arbenigwyr amlwg ar amrywiaeth o bynciau.
Edrychwn ymlaen at eich croesawu i’n cynhadledd, sy’n argoeli bod yn ddigwyddiad cyffrous a defnyddiol. Bydd siaradwyr a gweithdai yn rhoi gwybodaeth ar lawer o bynciau, yn cynnwys yr amgylchedd gwleidyddol ac economaidd, trysorlys a rheoli asedau, ariannu datgarboneiddio, a risg, rheoleiddio a llywodraethiant.
Archebwch heddiw i fod yn siŵr o’ch lle.
Rydym wrthi’n cwblhau’r agenda a chaiff ei rannu yma yn y dyfodol agos.
Dydd Iau 3 Hydref
3rd October | Agenda ddrafft, yn amodol ar newid |
12.30pm | Cofrestru, rhwydweithio a gweld yr arddangosfa |
1.00pm | Cinio, rhwydweithio a gweld yr arddangosfa |
2.00pm | Croeso i ddyfodol cyllid - Sophie Wint, Cyfarwyddwr Cyllid a Chaffael, Newport City Homes |
2.15pm | Gweithdai |
Archwilio marchnad yswiriant tai cymdeithasol Mae marchnad yswiriant tai cymdeithasol ar hyn o bryd mewn sefyllfa fregus, gydag arwyddion y gall y farchnad galed ar gyfer stoc eiddo fod yn llacio. Yn hanesyddol casgliad cyfyngedig o yswirwyr sydd wedi darparu yswiriant i landlordiaid cymdeithasol. Ond, yn ystod y 24 mis diwethaf, mae nifer o ddarparwyr sydd wedi hen sefydlu wedi tynnu allan o’r farchnad. Mae’r cyfyngiad hwn wedi arwain nifer o sefydliadau tai cymdeithasol i chwilio am yswirwyr newydd yn ystod cyfnod pan mae’r farchnad yn llai. Byddwn yn archwilio’r datblygiadau diweddaraf mewn yswiriant tai cymdeithasol, gan ganolbwyntio ar reoli risg, dewisiadau o ran yswiriant a strategaethau i sicrhau bod diogeliad cynhwysfawr i sefydliadau tai. | |
Gweithdy - TBA | |
Rheoli Asedau Strategol Cewch ddealltwriaeth o reoli asedau yn strategol yn y sector tai, gan ganolbwyntio ar optimeiddio, cynaliadwyedd a chynllunio tymor hir i gynyddu gwerth a gwella perfformiad portffolios tai | |
3.20pm | Gweithdai |
Archwilio marchnad yswiriant tai cymdeithasol Fel uchod | |
Gweithdy - TBA | |
Rheoli Asedau Strategol Fel uchod | |
4.20pm | Egwyl lluniaeth a rhwydweithio |
4.45pm | Prif Siaradwr - TBA |
6.00pm - 9.00pm | Derbyniad diodydd, a noddir yn garedig gan Savills Financial Consultants, ac yna swper |
dydd Gwener 4 Hydref
Day 2 | |
8:30am | Cofrestru, rhwydweithio a gweld yr arddangosfa |
9:15am | Croeso i ddiwrnod 2 - Sophie Wint, Cyfarwyddwr Cyllid a Chaffael, Newport City Homes |
9:25am | Prif Siaradwr - Cefndir Economaidd a Gwleidyddol: canfod eich ffordd trwy gyfnod cythryblus gyda Daisy McAndrew Bydd Daisy McAndrew, gohebydd amlwg a sylwebydd gwleidyddol, yn rhoi dadansoddiad treiddgar o’r dirwedd economaidd a gwleidyddol ar hyn o bryd. Yn yr araith hon bydd yn archwilio’r heriau a’r cyfleoedd o weithio mewn amgylchedd cythryblus, gan gynnig safbwyntiau am sut y gall sefydliadau ganfod eu ffordd trwy ansicrwydd a pharatoi at y dyfodol. |
10:00am | Sesiwn Panel - Y manteision o ddod allan o’ch lôn Bydd y panel hwn yn trafod pwysigrwydd gweithio ar draws y sefydliad a thu hwnt i swyddogaethau cyllid confensiynol. Trwy ddeall y darlun ehangach, rydym yn gweld cyfleoedd i liniaru risg yn gysylltiedig â chyfrifon byd-eang a dirywiad economaidd. Bydd y drafodaeth yn canolbwyntio ar ddulliau blaengar sydd wedi bod yn llwyddiannus, gan dynnu ar brofiadau arweinwyr amlwg mewn diwydiant. Bydd y rhai fydd yn bresennol yn cael golwg ar y ffordd y gall hyblygrwydd a’r gallu i addasu yrru llwyddiant mewn amgylcheddau heriol. |
Panelwyr- Stuart Ropke, Prif Weithredwr, Cartrefi Cymunedol Cymru a Paul Stevens, Cyfarwyddwr gweithredol, , Centrus Advisors | |
10:35am | Sesiwn Panel - Beth yw gwerth am arian? Sut y mae ffactorau Ariannol, Cymdeithasol ac Amgylcheddol yn effeithio ar ein ffordd o feddwl? Bydd y sesiwn panel hon yn archwilio integreiddio ffactorau Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu (ESG) yn y sector tai, gan ganolbwyntio ar sut y gall sefydliadau gyflawni gwerth am arian gan gael cydbwysedd rhwng amcanion ariannol, cymdeithasol ac amgylcheddol. Dan gadeiryddiaeth Sophie, bydd y sesiwn yn cynnwys gwybodaeth gan randdeiliaid allweddol, gan gynnwys arbenigwyr tai a sefydliadau ariannol, am arfer gorau a strategaethau blaengar ar gyfer gweithredu ESG. |
11.05am | Egwyl lluniaeth a rhwydweithio |
11.30am | Gweithdai |
Gweithdy: TBA | |
A yw eich trysorlys yn addas i’r diben? Aharon Donaghy, Clara Hurst, John Tattersall, Paul Stevens – Centrus Advisors Bydd y sesiwn hon yn rhoi adolygiad cynhwysfawr o swyddogaethau trysorlys, gan ganolbwyntio ar sut i werthuso eu heffeithiolrwydd, deall ffactorau allanol sy’n effeithio ar drysorlys a chanfod ffordd trwy’r heriau a’r cyfleoedd presennol. Bydd y cyfranogwyr yn gadael gyda dealltwriaeth y gellir gweithredu arni am ymarfer gorau i sicrhau bod eu gweithgareddau trysorlys yn gadarn ac yn gallu gwrthsefyll y dyfodol. | |
Tirwedd Pensiynau Archwiliwch y dirwedd pensiynau sy’n esblygu, gyda phwyslais ar y tueddiadau, heriau a newidiadau rheoleiddiol diweddaraf. Bydd y sesiwn hon, yn rhoi cyngor ymarferol ar reoli cynlluniau pensiwn, gan sicrhau eich bod yn cydymffurfio a sicrhau’r canlyniadau gorau i sefydliadau a’u gweithwyr. | |
Sgiliau Llunio Partneriaeth Busnes Yn amgylchedd busnes deinamig heddiw, mae ar weithwyr cyllid proffesiynol angen sgiliau llunio partneriaeth busnes cadarn i yrru penderfyniadau strategol. Bydd y sesiwn hon, yn trafod y sgiliau allweddol sy’n ofynnol i lunio partneriaeth fusnes yn effeithiol, gan gynnwys cyfathrebu, dylanwad a chydweithio, gan sicrhau bod gweithwyr cyllid proffesiynol yn gallu ychwanegu gwerth ar draws eu sefydliad | |
12.30pm | Cinio, rhwydweithio a gweld yr arddangosfa |
1.30pm | Gweithdai |
Sicrwydd Bwrdd: adeiladu sylfaen gref i’ch bwrdd Mae sicrwydd effeithiol i’r bwrdd yn allweddol ar gyfer llywodraethu a rheoli risg mewn sefydliadau tai. Bydd y sesiwn hon, yn arwain y rhai fydd yn cymryd rhan trwy’r arfer gorau o ran sicrwydd bwrdd, gan eu helpu i ddeall sut i roi goruchwyliaeth gadarn a sicrhau atebolrwydd sefydliadol. | |
Beth mae cyfuno yn ei olygu i ni? Bydd y sesiwn hon yn archwilio’r tueddiadau diweddar wrth gyfuno yn y sector tai cymdeithasol, gan archwilio’r hyn sy’n gyrru’r cyfuno, yr heriau a wynebir a’r cyfleoedd y maent yn eu cynnig. Bydd Paul Stevens o Centrus, ynghyd ag arbenigwr arall o’r diwydiant yn rhoi dealltwriaeth o’r ystyriaethau strategol a’r oblygiadau o ran cyfuno cwmnïau. | |
Treasury training - how to make sure finance professionals understand funding - Arun Poobalisingam, Cyfarwyddwr, The Housing Finance Corporation Bydd THFC yn rhedeg sesiwn yn canolbwyntio ar eu harbenigedd mewn cyllid tai. Fe ddaw’r union fanylion, ond disgwylir i’r sesiwn drafod datrysiadau cyllido blaengar, tueddiadau’r farchnad a strategaethau ar gyfer sicrhau cyllid yn y sector tai cymdeithasol | |
Gweithdy: TBA | |
2.30pm | Ariannu Cartrefi Gwyrdd: Datrysiadau datgarboneiddio - Sarah Cole, Carrie Satherly and Elin Lang, Welsh Government Bydd y sesiwn hon yn trafod yr atebion ariannol sydd ar gael i gefnogi nodau uchelgeisiol datgarboneiddio cartrefi a darparu 20,000 o gartrefi newydd yng Nghymru. Bydd arbenigwyr o Lywodraeth Cymru, yn rhoi’r newyddion diweddaraf am beirianwaith cyllido, cyfleoedd buddsoddi a strategaethau i gyrraedd y targedau allweddol hyn. |
3pm | Prif Siaradwr - TBA |
Accomodation
Llety
Os hoffech archebu llety ar gyfer noswaith 3 Hydref yng Ngwesty a Sba y Metropole, rydym wedi sicrhau nifer o ystafelloedd am bris rhatach ar gyfer y rhai sy’n mynychu’r gynhadledd. I archebu eich ystafelloedd, ffoniwch dderbynfa’r gwesty ar 01597 823700 a dweud eich bod yn archebu fel rhan o “Cartrefi Cymunedol Cymru – Cyllid”.