Jump to content

Cynhelir Un Gynhadledd Tai Fawr 2024

Gorffennaf 4, 2024 @ 10:30yb
Cynadleddau 2 days Metropole Hotel & Spa, Llandrindod Wells

Yn dilyn y cyhoeddiad y cynhelir Etholiad Cyffredinol y DU ar 4 Gorffennaf, gofynnir i chi nodi y cafodd amser dechrau’r gynhadledd ei ohirio hyd at 10.30am er mwyn galluogi’r rhai hynny sydd eisiau mynd i fwth pleidleisio i wneud hynny cyn teithio i’r Metropole. Mae gwybodaeth ar sut i bleidleisio drwy’r post neu drwy bleidlais ddirprwy ar gael yma.

Diwrnod 1 - 4 Gorffennaf

09.15am Cofrestru, rhwydweithio a gweld yr arddangosfa

10:30am Cyflwyniad i Ddiwrnod Un – Cadeirydd y Gynhadledd- Sian Lloyd, yn newyddiadurwraig a darlledwraig brofiadol, mae Sian yn wyneb cyfarwydd i wylwyr ar draws Prydain gan iddi gyflwyno rhaglenni cenedlaethol, yn cynnwys BBC Breakfast, BBC Crimewatch Roadshow a Panorama. Mae hefyd wedi gohebu ar rai o ddigwyddiadau allweddol hanes diweddar fel uwch ohebydd newyddion ar gyfer rhwydwaith y BBC.

10:40am Siaradwr allweddol - Victoria Winckler, Cyfarwyddwr, Bevan Foundation

Yn gosod y llwyfan ar gyfer y gynhadledd, bydd y sesiwn yn ymchwilio sut y gallwn feddwl am anghydraddoldeb yn yr hinsawdd economaidd a gwleidyddol
cyfredol, ac os y gallai’r Etholiad Cyffredinol cyfredol sbarduno gweithredu go iawn ar anghydraddoldeb sy’n ymdreiddio lawr i Gymru. Bydd Victoria hefyd yn
rhannu ei sylwadau ar gyflwr presennol Cymru ac effaith polisïau wedi eu datganoli a heb eu datganoli ar gymunedau Cymru, gan sôn am yr wybodaeth helaeth a’r dystiolaeth a sicrhawyd gan Sefydliad Bevan dros y blynyddoedd.

Gan osod y llwyfan ar gyfer y gynhadledd, bydd ein siaradwr allweddol yn ymchwilio sut y gallwn feddwl am anghydraddoldeb yn yr hinsawdd economaidd a gwleidyddol cyfredol, ac os y gallai’r Etholiad Cyffredinol nesaf ysgogi gweithredu go iawn ar anghydraddoldeb sy’n diferu lawr i Gymru.

11.10am Sgwrs Allweddol -David Mckinney, Swyddfa comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Mae tai da yn sylfaenol i’n hansawdd bywyd wrth i ni heneiddio. Sut fedrwn ni sicrhau fod y cartrefi yr ydym yn byw ynddynt ein cefnogi i heneiddio’n dda, fel rhan o gymunedau cyfeillgar i oedran?

Gan ddefnyddio profiadau pobl hŷn ac asesu’r tirlun polisi cyfredol, bydd David yn rhoi sylw i gyfleoedd ar gyfer newid a sut y gallwn gydweithio i sicrhau fod y cartrefi rydym eu hangen gennym yn ein cymdeithas heneiddiol.

11.25am Sesiwn Panel: Cynnwys anghenion amrywiol wrth ddylunio a chyflenwi cartrefi newydd

Mae dylunio tai da yn creu lleoedd y gall pawb eu galw yn gartref.

Fel rhan o hyn, mae’n rhaid ystyried hyrwyddo teimladau o ddiogelwch a chynhwysiant o ddechrau cyntaf datblygiad, yn cynnwys pawb o benseiri a chynllunwyr, hyd at y datblygwyr a’r cymunedau eu hunain.

Bydd y sesiwn yn ymchwilio sut y gellir dylunio a chyflenwi tai cymdeithasol mewn ffordd sy’n darparu ar gyfer y gwahanol ffyrdd y mae pobl yn profi’r amgylchedd adeiledig.

Aelodau o’r panel a gadarnhawyd:

  • David McKinney - Swddfa Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

  • Gemma Clissett - Cyfarwyddwr Partneriaethau Rhanbarthol, Partneriaethau Lovell

  • Alicja Zalesinska, Prif Weithredwr, Tai Pawb

  • Nick Cox,Cyfarwyddwr Masnachol, RLH Architects

  • Jonathan Hughes, Ymgynghorydd Datblygu Tai Cymunedol, Cwmpas

11.45am Egwyl Coffi

12.10pm Gweithdai (Cadarnhawyd): Dewis o 5 gweithdy yn cynnwys:

1. Gwaith ar gartrefu ffoaduriaid a cheiswyr lloches – Joy Kent, Cyfarwyddwr Sefydlu Joy Unltd. (Caiff y gweithdai ei ailadrodd yn ystod sesiwn y prynhawn)
Mae nifer cynyddol o gymdeithasau tai yn ymwneud â diwallu anghenion tai a chymorth pobl sy’n ceisio nodded yng Nghymru a chyfrannu’n gadarnhaol at nod Llywodraeth Cymru o ddod y Genedl Nodded gyntaf.
Yn gyffredinol cafodd gweithgaredd ei ddatblygu o fewn dinasoedd gwasgariad gwreiddiol Caerdydd, Casnewydd, Abertawe a Wrecsam ond gydag ailsefydlu’n cael ei ymestyn y llynedd i gynnwys pob awdurdod lleol, a gyda galw cynyddol, mae bellach angen Cymru-gyfan i
ddatblygu gwasanaethau priodol ar gyfer y grŵp cleientiaid yma.

Hwylusir y gweithdy gan Joy Kent, ymgynghorydd annibynnol sy’n gweithio ar hyn o bryd gyda Housing Justice Cymru, Tai Pawb a Chyngor Ffoaduriaid Cymru i gefnogi sefydliadau tai, awdurdodau lleol a chyrff trydydd sector i atal digartrefedd ar gyfer pobl sy’n ceisio nodded yng
Nghymru. Ffocws y sesiwn fydd:

● cyflwyno’r mater,
● rhoi manylion rhai o’r ymatebion sy’n cael ei datblygu gan gymdeithasau tai yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig; ac
● amlinellu’r math o gymorth y gall Joy, Housing Justice Cymru a phartneriaid ei roi i gymdeithasau tai sy’n ystyried sut y gallent gyfrannu at yr agenda.

2. Sut y gallwn adeiladu yn well? Y cyfleoedd ar gyfer dulliau modern o adeiladu yng Nghymru - Trina Chakravarti, 'Building Better'

3. Dull gyda ffocws tenant at wasanaethau cyflwr gwael – Serena Jones, Grŵp Tai Coastal (Caiff y gweithdy hwn ei ailadrodd yn ystod sesiwn y prynhawn)

Cyfle i glywed sut y mae dull ‘meddwl systemau’ at y broses atgyweirio wedi effeithio ar gwynion am atgyweirio a hawliadau am dai mewn cyflwr gwael.

4. Gwella llesiant meddwl drwy fentrau hunan-gyflogaeth ar gyfer tenantiaid – Karen Davies – Sefydlydd a Phrif Weithredwr, Purple Shoots

Dewch draw i glywed sut y gall y sector gefnogi ystod amrywiol o denantiaid drwy gefnogi teithiau drwy fenter. Byddwn yn edrych drwy’r gwahanol weithgareddau y cymorth y bu Purple Shoots yn eu cynnig i denantiaid: meithrin gallu, hyder a hunan-gred i greu effaith gymdeithasol a hefyd fentrau hunangyflogaeth.

Sesiwn hwyliog, ryngweithiol yn ymchwilio dulliau arloesol ar gyfer ystod eang o denantiaid a deilliannau.

5. Profiadau tai pobl o gymunedau lleiafrif ethnig yng Nghymru - Ross Thomas, Pennaeth Polisi Tai Pawb

1:00pm Cinio

2:00pm Gweithdai (Cadarnhawyd: dewis o 5 sesiwn yn cynnwys:

1. Gwaith ar letya ffoaduriaid a cheiswyr lloches – Joy Kent, cyfarwyddwr sefydlu Joy Unltd (fel uchod)

Cyfle arall i glywed gan Joy Kent, ymgynghorydd annibynnol sydd yn gweithio ar hyn o bryd gyda Housing Justice Cymru, Tai Pawb a Chyngor Ffoaduriaid Cymru
i gefnogi sefydliadau tai, awdurdodau lleol a chyrff trydydd sector i atal digartrefedd ar gyfer pobl sy’n ceisio nodded yng Nghymru.

2. Dull gyda ffocws tenantiaid at wasanaethau cyflwr gwael – Serena Jones, Cymdeithas Tai Coastal

Wnaethoch chi golli hwn y bore yma? Cyfle arall i glywed sut y mae dilyn dull ‘meddwl systemau’ at y broses atgyweirio wedi effeithio ar gwynion am atgyweirio a hawliadau cyflwr gwael yn gyffredinol.

3. Natur a ni – cyflawni ar gyfer ein hamgylchedd naturiol nawr ac yn y dyfodol - Russell De’ath, Uwch Gynghorydd, Cyfoeth Naturiol Cymru
Mae cynhesu’r blaned a llygredd cynyddol yn gyrru natur yng Nghymru tuag at y dibyn, mae cynnydd mewn tywydd eithafol ac mae mwy o alw am yr adnoddau naturiol sy’n cefnogi pob agwedd o’n bywydau nag y gall ein planed eu hadnewyddu. Yn awr yn fwy nag erioed rydym angen help pawb i leihau ein heffeithiau ar yr amgylchedd a chreu lleoedd i natur.
Yn ystod 2022, fel rhan o sgwrs genedlaethol, rhannodd miloedd o bobl eu sylwadau am y dyfodol y dymunent ei weld ar gyfer amgylchedd naturiol Cymru. Yn dilyn cyfnod ymgyfraniad hir clywsom gan filoedd o bobl, daeth Cynulliad Dinasyddion ynghyd yng ngwanwyn 2023 i gynhyrchu Gweledigaeth Natur a Ni ar gyfer Cymru 2050.

Mae’r Weledigaeth yn rhoi cyfle i bob sefydliad sy’n gweithio yng Nghymru i ystyried sut ydym yn cydweithio tuag at ddyfodol lle mae cymdeithas a natur yn ffynnu gyda’i gilydd.

Bydd y gweithdy rhyngweithiol hwn yn rhannu rhai o’r straeon a’r adnoddau a ddatblygwyd fel rhan o’r weledigaeth, ac yn rhoi cyfle i’r sawl sy’n cymryd rhan i feddwl am berthnasedd eu gweithredoedd eu hunain.

4. Academi Adra - Ceri Ellis-Jackson, Arweinydd Rhaglen Academi Adra ac Elin Williams, Pennaeth Gwasanaethau Cymunedol
Sefydlwyd Academi Adra yn 2021 gan gymdeithas tai Adra fel ffordd o greu cyfleoedd hyfforddii a chyflogaeth ar gyfer eu tenantiaid a phobl leol. Drwy weithio partneriaeth, mae Academi Adra yn cynnig llwybr amgen i gyflogaeth, sy’n anelu i ostwng y rhwystrau sy’n wynebu’r rhai sydd bellaf o’r farchnad lafur.

Dewch i ymuno ag Elin a Ceri yn y gweithdy hwn i drafod sut mae cynlluniau fel Academi Adra yn cynorthwyo unigolion i oresgyn anghydraddoldeb cymdeithasol
ac allgau economaidd a chlywed profiadau go iawn y rhai a gymerodd ran yn y cynllun.

5. Mynd i’r afael â blaenwyntoedd cyflenwad tai – sut y gall y sector a Llywodraeth Cymru gydweithio i gynyddu darpariaeth - Stuart Fitzgerald,
Llywodraeth Cymru

3:00pm Egwyl Coffi

3.30pm Sesiwn Panel

4:00pm Siaradwr Allweddol a Gadarnhawyd – Gwir Anrh Stuart Lawrence, Ymgyrchydd, Sylwebydd Cyfryngau a chyn ymddiriedolydd Sefydliad Stephen Lawrence

Bydd Stuart yn rhannu ei stori ei hun a phrofiad ei deulu o hiliaeth a thueddiad sefydliadol. Bydd yn siarad am sut i fynd i’r afael â realaeth galar a trawma, yr hyn a ddysgodd ar sut i aros yn wydn pan fo pethau yn anodd a sut i ddefnyddio’r da ynddoch eich hun ac eraill i greu’r newid yr ydych eisiau ei weld.

Mae ei lyfr “Silence is Not An Option: You Can Impact The World For Change”, yn ymdrechu i sicrhau fod pobl ifanc heddiw yn deall canlyniadau eu gweithredoedd a phwysigrwydd cynhwysiant drwy bregethu goddefgarwch a dathlu gwahaniaeth.

4:45pm Sylwadau cloi y Cadeirydd, Sian Lloyd

6.00pm Derbyniad diodydd, gyda swper i ddilyn


Diwrnod 2 - 5 Gorffennaf

9.00am Cofrestru, rhwydweithio a gweld yr arddangosfa

9.30am Cyflwyniad i ddiwrnod dau – Croeso gan y Cadeirydd: Sian Lloyd

9.45am Cadarnhau Prif Siaradwr – Amanda Newton, Prif Weithredwr, Rochdale Boroughside Housing "Parchu anghenion y cwmser, ailddychmygu profiad y cwsmer ar gyfer sefydliad sydd mewn adferiad”

Bydd Amanda yn siarad am arwain sefydliad o argyfwng hyd at ei adferiad. Bydd pwysigrwydd chwilfrydedd proffesiynol a diwylliannol wrth ddarparu gwasanaethau i gwsmeriaid yn cael sylw cyson ynghyd â phwysigrwydd hanfodol deall pwy sy’n byw tu cefn i’n drysau blaen. Ymunwch â ni i glywed sut mae hybu trawsnewid graddfa fawr wedi ei seilio ar ffocws diflino ar yr hyn mae’r cwsmer ei angen yn gwneud gwahaniaeth yn Rochdale. Byddwn yn rhannu sylwadau onest am sut mae RBH yn ailfeddwl am ei rôl fel darparydd tai, gan ddefnyddio llais y cwsmer, i lunio ei wasanaethau a sicrhau fod ei gartrefi yn bennaf oll yn ddiogel ac yn gynnes.

10.30am Gweithdai (Cadarnhawyd)dewis o 5 gweithdy yn cynnwys:

1. Mapio anghydraddoldeb mewn unigrwydd - Josh Coles-Riley, Cydymaith ymchwil, Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru

Cyfle i glywed am ymchwil flaengar gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ar anghydraddoldeb unigrwydd, yn cynnwys:

  • Sut a pham fod unigrwydd yn effeithio’n anghymesur yn effeithio ar grwpiau ar y cyrion

  • Beth mae’r canfyddiadau’n ei olygu ar gyfer tai a chymorth ac ymchwilio pa newidiadau sydd eu hangen i fynd i’r afael yn well ag anghydraddoldeb unigrwydd.

2. Cyrraedd cwsmeriaid mewn amgylchiadau bregus, Johann Van Dyke – Rheolwr materion cyhoeddus, Smart Energy GB

Cyfle i glywed sut mae Smart Energy GB yn ymgysylltu gyda’u cwsmeriaid gydag ystod o amgylchiadau personol unigol yn ogystal â dirnadaeth ar agweddau ynni cyffredinol mewn ta i cymdeithasol yng Nghymru a pha wersi y gellir eu dysgu o’r sector rhent preifat.

3. Adeiladu cartrefi fforddiadwy drwy dai dan arweiniad y gymunedCasey Edwards, Rheolwr Rhaglen, Cwmpas

Bydd Cwmpas yn rhoi cyflwyniad i dai dan arweiniad y gymuned yn cynnwys ymgysylltu ystyrlon gyda chymunedau, y buddion i’r ardal leol a sut y gall cymdeithasau tai gymryd rhan. Bydd cynrychiolwyr hefyd yn clywed enghreifftiau o sut mae rhai cymdeithasau tai eisoes yn gweithio i gyflawni hyn.

4. Diogelwch Adeiladau – Barn arbenigol ar yr hyn mae’r ddeddfwriaeth newydd yn ei olygu i gymdeithasau tai - Hugh James Solicitors

Cafodd y tirlun diogelwch ym Mhrydain ei ddiwygio’n sylweddol yn dilyn digwyddiadau trychinebus Grenfell. Yn y sesiwn yma, bydd Hugh James yn amlinellu’r newidiadau allweddol ac effaith diwygiadau yn Lloegr ac agweddau Deddf Diogelwch Adeiladu 2022 yn cael eu gweithredu yng Nghymru. Byddwn hefyd yn ymchwilio yr hyn y gallwn ddisgwyl ei weld ym Mil Diogelwch Adeiladau (Cymru) a’r hyn y gallai ei olygu i gymdeithasau tai yng Nghymru.

11.30am Egwyl Coffi

12:00pm Prif Siaradwr – Amrywiaeth a Thai? - Dr Gifford Rhamnie, Sefydlydd a Chyfarwyddwr Gweithredol Rockstone Consultancy.

Amrywiaeth a Thai? Meddyliwch am Sirioldeb. Bydd sgwrs Gifford yn ymchwilio sut i symud tu hwnt i ddim ond goddef amrywiaeth mewn tai ond yn hytrach feithrin ‘sirioldeb’ – y grefft o fyw’n dda gyda’n gilydd. Bydd yn trafod yr heriau a all godi mewn cymdogaethau amrywiol, ond yn bwysicach, gynnig datrysiadau ymarferol.

Dychmygwch rannu gofodau sy’n sbarduno sgwrs, dathliadau diwylliannol sy’n dod â chymdogion yn nes a sianeli cyfathrebu clir i drin unrhyw wrthdaro. Drwy feithrin sirioldeb, dadl Gifford yw y gallwn drawsnewid ein cymdogaethau yn gymunedau egnïol lle mae ymdeimlad o berthyn yn ffynnu.

12:45pm Cinio

1.45pm Prif Siaradwr – Mynd i’r afael â’r broblem dim mynediad i’r sector tai cymdeithasolMatt Sharp, Prif Swyddog Gweithredol, ASCP

Bydd Matt yn rhannu gyda ni y gwaith gwych a gyflawnodd ASCP wrth drin heriau dim mynediad ar gyfer gwiriadau diogelwch mewn tai cymdeithasol, sy’n parhau i fod yn broblem i’n sector. Bydd sesiwn cwestiwn ac ateb yn dilyn.

2.15pm Sesiwn Panel – Mynd i’r afael â phroblem dim mynediad – trafodaeth panel

Yn y sesiwn yma bydd panelwyr yn ystyried y Papur Gwyn a gynhyrchwyd gan ASCP ac yn sôn am eu profiadau personol eu hunain o drin dim mynediad a dal i
gydymffurfio gyda rheoliadau Cymru.

2.45pm Casgliadau’r Cadeirydd a chau