Jump to content

Cynhadledd Flynyddol CHC

Tachwedd 19, 2024 @ 9:00yb
Cynadleddau Amgueddfa Wyddoniaeth Techniquest
Pris Aelod
From

£345

Pris heb fod yn Aelod
From

£449

Ffocws ein Cynhadledd Flynyddol 2024 fydd y gydberthynas a’r rhannu dealltwriaeth rydym eu hangen i wireddu yr uchelgais sydd gennym i gyd am Gymru lle mae tai da yn hawl sylfaenol i bawb.

Nid yw’r heriau sy’n wynebu cymdeithasau tai, eu staff a thenantiaid, yn unigryw. Nid oes neb wedi bod yn rhydd o effaith gronnus y blynyddoedd diwethaf, a nodweddir gan lu o argyfyngau gwleidyddol, economaidd ac iechyd. Ond cafodd yr effeithiau eu teimlo waethaf, ac am gyfnod hirach, gan bobl ar yr incwm isaf. Ar gyfer gormod o’n tenantiaid, a’r staff sy’n eu cefnogi, nid yw’r argyfyngau hyn drosodd.

Eto daeth 2024 â wynebau newydd, ac felly gyfleoedd newydd i wneud mwy i adeiladu ein cydnerthedd torfol. Mae gan newidiadau gwleidyddol ar lefel y Deyrnas Unedig a lefel Cymru y potensial i ddod â syniadau newydd i heriau cyfarwydd: p’un ai y lefelau ystyfnig o uchel o ddigartrefedd yng Nghymru, neu’r angen brys i adeiladu mwy a datgarboneiddio cartrefi presennol. Drwy gydberthynas adeiladol a deall ein gilydd, gallwn greu’r amodau i gymdeithasau tai wneud hyd yn oed fwy i baratoi eu tenantiaid a chymunedau am lwyddiant.