Un Cyhadledd Tai Fawr CCC 2025: Ein lle
Wrth i Gymru symud tuag at etholiad hollbwysig, ni fu rôl tai cymdeithasol erioed yn fwy hanfodol. Cymru yw ein lle. Dyma’r cymunedau y gweithiwn gyda nhw, y cartrefi y gofalwn amdanynt a’r bobl a gefnogwn i fyw’n dda yn eu cartrefi.
Mae’r gynhadledd yn dod ynghyd â gweithwyr proffesiynol o bob rhan o’r sector tai – gweithwyr proffesiynol datblygu sy’n llunio’r dyfodol, rheolwyr asedau sy’n sicrhau fod cartrefi’n parhau yn ddiogel a chynaliadwy a’r timau cymorth tenantiaid sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ym mywydau pobl.
Mae gan y sector tai rôl hanfodol wrth adeiladu Cymru decach a mwy ffyniannus, ac fel gweithwyr proffesiynol yn y sector rydym yn gyrru newid parhaus ar gyfer y bobl sy’n dibynnu arnom.
Gyda’n gilydd, byddwn yn dathlu rôl hanfodol y sector yng Nghymru heddiw ac yn y dyfodol gan gydnabod ei effaith gadarnhaol, y cyfleoedd i ddod a’r heriau yr ydym yn eu goresgyn gyda’n gilydd. Drwy adeiladu ar arloesedd ac arferion gorau, byddwn yn parhau i sicrhau cynnydd ystyrlon mewn tirwedd gwleidyddol sy’n esblygu.
Cadwch eich llygaid ar agor am yr agenda llawn a chofiwch gadw’r dyddiad – mae cynhadledd i’ch ysbrydoli o’ch blaenau!