Jump to content

Cynhadledd Llywodraethiant a Risg 2025

Mawrth 26, 2025 @ 9:00yb
Cynadleddau 2 days Sbarc, Caerdydd

Llywio Cymhlethdod: Cydbwyso Cyfle a Risg

Ymunwch â ni ar gyfer digwyddiad hanfodol a gynlluniwyd ar gyfer aelodau bwrdd a gweithwyr proffesiynol llywodraethiant a risg yn y sector tai. Bydd cynhadledd eleni yn ymchwilio’r cydbwysedd mirain rhwng manteisio ar gyfleoedd i wasanaethu tenantiaid a chymunedau yn well tra’n rheoli risgiau mewn amgylchedd gweithredu cynyddol gymhleth.

Byddwn yn trafod heriau allweddol y sector, o ysgogi arloesedd digidol a meithrin diwylliant cadarnhaol i gydbwyso pwysau ariannol – sicrhau buddsoddiad mewn tai safon uchel tra’n cynnal fforddiadwyedd ar gyfer tenantiaid.

Gan ystyried gwersi o Grenfell a digwyddiadau hollbwysig eraill, byddwn yn rhannu eu heffaith ar lywodraethiant heddiw a’r hyn a olygant ar gyfer aelodau bwrdd a gweithwyr proffesiynol llywodraethiant.

Bydd y gynhadledd yn ein herio i ystyried rôl llywodraethiant cryf wrth hybu cynnydd tra’n lliniaru risg. Sut y gallwn groesawu arloesedd heb leihau cyfrifoldeb?

Byddwn hefyd yn ymchwilio’r newid yn y tirlun deddfwriaethol ac yn edrych tu hwnt i’r sector am enghreifftiau o lwyddiant sy’n herio ein syniadau ac ysbrydoli diwylliant llywodraethiant effeithlon o fewn sector tai cymdeithasol Cymru..

Gyda phrif areithiau arbenigol, trafodaethau diddorol a chyfleoedd i ymchwilio, trafod ac arloesi, daw’r digwyddiad ag aelodau bwrdd, prif weithredwyr, ymarferwyr llywodraethiant, uwch arweinwyr cymdeithasau tai a chynrychiolwyr Llywodraeth Cymru ynghyd.

Dylid nodi gall yr amseriadau newid.

Gwybodaeth ymarferol

Dydd Mercher 26 Mawrth

8.45yb | Cofrestru, Rhwydweithio a Gweld yr Arddangosfa

09.30yb | Cyflwyniad i Ddiwrnod Un
Sian Lloyd, Cadeirydd Cynhadledd

Yn newyddiadurwraig a darlledydd profiadol, mae Sian yn wyneb cyfarwydd i wylwyr ledled Prydain o gyflwyno rhaglenni yn cynnwys BBC Breakfast, BBC Crimewatch Roadshow a Panorama. Mae hefyd wedi gohebu ar rai o’r digwyddiadau allweddol mewn hanes diweddar fel uwch ohebydd newyddion ar gyfer rhwydwaith y BBC.

09.40yb |
Croeso a Gosod y Llwyfan
Gerraint Oakley, Cadeirydd, Catrefi Cymunedol Cymru

10.00yb | Sesiwn Panel - Diwylliant Ystafell Fwrdd: Gwersi o Grenfell

Roedd trychineb Grenfell yn ein atgoffa’n glir am ganlyniadau methiannau llywodraethiant a pheidio gwrando ar lais tenantiaid, gan ysgogi newid sylweddol mewn diwylliant ystafell fwrdd.

Bydd y panel yn ymchwilio’r camau a gymerwyd mewn ymateb i hynny - yn y gorffennol a hefyd yn parhau – i sicrhau nad oes trychineb o’r fath byth yn digwydd eto. O’r cynnydd mewn llais tenantiaid i ffocws cryfach ar EDI (Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant), byddwn yn trafod sut gall swyddogion llywodraethiant gynnal ac adeiladu ar y cynnydd hwn.

Mewn tirlun sy’n esblygu, lle mae pwysau allanol a chynnydd athroniaethau de-pell yn achosi heriau newydd, sut y gall byrddau barhau i feithrin atebolrwydd, cynhwysiant ac ymddiriedaeth? Ymunwch â ni mewn trafodaeth sy’n codi cwr y llen ar ddyfodol diwylliant ystafell fwrdd.

Mewn sgwrs gyda:

  • David Wilton, TPAS Cymru
  • Olu Olanrewaju, Altair
  • Jason Lewis, SWFRS
  • Alicja Zalesinska, Tai Pawb

11.00yb | Egwyl Coffi, Rhwydweithio a Gweld yr Arddangosfa

11.30yb | Prif Araith - Gwrando, gweithredu, gwella: defnyddio dealltwriaeth strategol o gwynion
Michelle Morris, Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Mae gan yr ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus safbwynt unigryw a gwerthfawr ar berfformiad cymdeithasau tai a gwasanaethau cyhoeddus. Gan ddefnyddio profiad helaeth a chyfoeth o astudiaethau achos, bydd yn rhannu ei dealltwriaeth o ddarpariaeth gwasanaeth cymdeithasau tai, ynghyd ag ystyried yr amodau diwylliannol i greu sefydliadau ffyniannus sy’n cyflawni dros ein cymunedau.

Bydd yn ystyried yr ymagwedd ragweithiol ac ymatebol i drafod cwynion gan gymdeithasau tai mewn modd sydd yn cynyddu bodlonrwydd tenantiaid, adeiladu perthynas gryfach gyda’u cymunedau a hefyd yn arddangos eu hymroddiad i atebolrwydd a llywodraethiant da.

12.10yp | Gweithdai

Gweithdy 1 - Cryfnau ein hymagwedd at ddeddfwriaeth

Ymunwch â Stuart Ropke, Prif Weithredwr CHC i ystyried y gwersi a ddysgwyd o ddatblygiadau a gweithredu deddfwriaeth ddiweddar, a sut y gallwn barhau i gryfhau ein hymateb ar y cyd.

Gweithdy 2 - Llywio caffael: Llywodraethiant, effaith a chyfle
Carl Thomas, Llywodraeth Cymru


Gyda deddfwriaeth caffael yn esblygu, mae’n rhaid i sefydliadau addasu i barhau i gydymffurfio a hefyd i ddefnyddio’r cyfleoedd a ddaw’r newidiadau hyn. Bydd y gweithdy hwn yn ymchwilio effeithiau ehangach y ddeddfwriaeth caffael newydd, gyda ffocws ar rôl aelodau bwrdd a gweithwyr proffesiynol llywodraethiant wrth sicrhau gweithredu effeithlon. Gyda sylwadau gan Carl Thomas o Lywodraeth Cymru, byddwn yn trafod sut olwg sydd ar lywodraethiant da ar waith – yn cynnwys ymatebion strategol, rheoli risg a sut y gall sefydliadau ymwreiddio arferion gorau i hybu gwerth ac effaith gymdeithasol.

Gweithdy 3 - Llywio’r farchnad yswiriant tai cymdeithasol: heriau a strategaethau
Jill Jones, Gallagher

Mae’r farchnad yswiriant tai cymdeithasol wedi wynebu heriau sylweddol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf gyda dewis cyfyngedig, darparwyr allweddol yn gadael y farchnad gan greu cyfyngiadau galluedd a gorfodi llawer o sefydliadau tai i geisio datrysiadau eraill. Mae bellach arwyddion fod y farchnad yswiriant tai cymdeithasol yn dechrau gwella. Bydd y sesiwn yma yn edrych ar yr esblygiad yn nhirwedd yswiriant tai cymdeithasol, gyda ffocws ar lywodraethiant, rheoli risg a dulliau strategol i sicrhau sicrwydd digonol. Byddwn yn trafod goblygiadau newidiadau yn y farchnad ar gyfer byrddau a gweithwyr proffesiynol risg, ymchwilio arferion gorau ar gyfer lliniaru cysylltiad ac ystyried sut y gall sefydliadau lywio amgylchedd yswiriant cynyddol gymhleth.

Gweithdy 4 - Diogelu rhag Bygythiadau Seiber sy’n Esblygu’n Barhaus
Andy Dodge,Hyb Arloesedd Seiber


Yn y sesiwn yma, bydd yr Hyb Arloesedd Seiber yn rhoi gwybodaeth ar sut y gall sefydliadau eu diogelu eu hunain yn effeithlon rhag risgiau seiber. Mae bellach yn achos o pryd, nid os, y bydd eich sefydliad yn dioddef ymosodiad seiber. Bydd hyn yn cynnwys ystyried sut i reoli digwyddiadau, rhai egwyddorion pwysig ar gyfer cyfathrebu a rhai camau ymarferol i wella sefyllfa seiberddiogelwch eich sefydliad. Mae hon yn sesiwn hanfodol ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno gwella cydnerthedd eu sefydliad ac aros ar flaen bygythiadau seiberddiogelwch.

13.10yp | Cinio, Rhwydweithio a Gweld yr Arddangosfa

14.00yp | Prif Araith: David Jones
Cadeirydd Anweithredol y DVLA a Chyfarwyddwr Anweithredol yn Ofwat

Mewn byd o ddatblygiadau technolegol cyflym, mae sefydliadau’n wynebu her allweddol: croesawu arloesedd tra’n diogelu rhag risg. Ar hyn o bryd mae gan David swyddi fel Cadeirydd Anweithredol y DVLA a Chyfarwyddwr Anweithredol yn Ofwat.

Yn arweinydd profiadol mewn technoleg, rheoleiddio a llywodraethiant, mae gan David Jones wybodaeth werthfawr tu hwnt ar sut i daro’r fantol firain.

Gyda gyrfa yn cwmpasu entrepreneuriaeth technoleg, buddsoddi ac arweinyddiaeth anweithredol ar draws sectorau yn cynnwys gofal iechyd, telathrebu a rheoleiddio ariannol, mae gan David safbwynt unigryw ar ryngdoriad arloesedd a rheoli risg. Ar ôl cynghori sefydliadau fel Ofcom, Ofwat ac Awdurdod Refeniw Cymru, mae’n deall cymhlethdodau llywio newid tra’n cadw cydnerthedd.

Yn y brif araith yma, bydd David yn ymchwilio sut y gall sefydliadau ddefnyddio cyfleoedd newydd heb agor eu hunain i fygythiadau diangen. Gyda phrofiad go iawn a strategaethau ymarferol, bydd yn amlinellu cynllun ar gyfer arweinwyr sy’n dymuno hybu cynnydd tra’n sicrhau llywodraethiant a diogelwch.

Ymunwch â ni am sesiwn ddefnyddiol fydd yn herio syniadau confensiynol a rhoi’r dulliau rydych eu hangen i arloesi yn hyderus.

14.45yp | Gweithdai

Gweithdy 1 - Edrych i’r gorwel cyfreithiol
Harriet Morgan, Hugh James

Ymunwch â Hugh James am drosolwg wybodus o newidiadau deddfwriaethol allweddol sy’n effeithio ar y sector tai. Bydd Harriet Morgan, Partner yn Hugh James ac arbenigydd blaenllaw ar lywodraethiant ac eiddo ar gyfer elusennau a chyrff dim-er-elw, yn tynnu sylw at ddatblygiadau allweddol a’u heffaith ar gymdeithasau tai.

Wedi ei nodi gan Chambers and Partners, mae Harriet yn arbenigo mewn strwythurau llywodraethiant, datblygiadau tai cymdeithasol a chydymffurfiaeth rheoleiddiol. Caiff ei hadnabod fel “negodydd cadarn ac egwyddorol iawn”, mae’n rhoi cyngor strategol clir i helpu sefydliadau i drin cymhlethdodau cyfreithiol.

Bydd y sesiwn yn ymchwilio deddfwriaeth arfaethedig a phwysigrwydd llywodraethiant cryf wrth sicrhau cydymffurfiaeth a chydnerthedd.

Gweithdy 2 - Rheoli risg deallus: Cydbwyso diogeliad a chyfle
Nigel Ireland, Barcud Shared Services


Yn aml caiff rheoli risg ei weld fel rhwystr i arloesedd, ond gyda’r ymagwedd gywir, gall fod yn ysgogydd grymus ar gyfer llwyddiant. Yn y gweithdy rhyngweithiol yma, bydd Barcud Shared Services yn ymchwilio sut y gall sefydliadau drin risg yn effeithlon heb fygu cyfleoedd ar gyfer twf ac arloesedd.

Gydag arbenigedd mewn archwilio manwl, caffael, llywodraethiant a rheoli risg, mae Barcud Shared Services yn helpu sefydliadau i gynyddu cydnerthedd, gwella effeithiolrwydd a chyflawni amcanion strategol. Bydd y sesiwn yn rhoi cipolwg ymarferol, astudiaethau achos go iawn a strategaethau llwyddiannus i’ch helpu i ymwreiddio diwylliant rheoli risg rhyngweithiol sy’n cydbwyso cydymffurfiaeth gyda chynnydd.

Wedi’i gynllunio ar gyfer arweinwyr, gwneuthurwyr penderfyniadau a gweithwyr proffesiynol risg, bydd y gweithdy hwn yn rhoi’r dulliau i chi droi risg er mantais strategol – hybu effeithiolrwydd, gostwng gorbenion a datgloi cyfleoedd newydd.

Ymunwch â ni i ddysgu sut y gall rheoli risg deallus rymuso dyfodol eich sefydliad, ac nid ei gyfyngu.

Gweithdy 3 - Mae’r cyfan am yr ased! Sut y gall Aelodau Bwrdd siapio pa wasanaethau rheoli asedau a ddarperir a sut y gwneir hynny
Kieran Colgan, Ark Consultancy


Bydd ffocws y sesiwn ar ddefnyddio amser aelodau bwrdd yn well i yrru pa a sut y caiff gwasanaethu rheoli asedau eu darparu. Bydd Kieran yn canolbwyntio ar bwysigrwydd allweddol strategaeth a sicrhau bod ffocws craffu a throsolwg yn parhau ar y pethau sy’n wirioneddol bwysig.

Gweithdy 4 - Llywodraethu am effaith – a beth sydd gan ungornau i wneud â’r peth

Ymunwch â Kirsten, Cadeirydd y Bwrdd Caredig a Marcia, y Prif Weithredwr, i glywed sut y bu Caredig yn dysgu cyrsiau o tu hwnt i’r sector i lywio eu dull gweithredu o fewn y Bwrdd ac draws y sefydliad i lywodraethu gydag argraff. Bydd y gweithdy hwn yn cyflwyno’r methodolegau sydd ganddynt.

15.45yp | Egwyl Coffi, Rhwydweithio a Gweld yr Arddangosfa

16.10yp | Prif Araith - Seiberddiogelwch fel Rhwymedigaeth Arweinyddiaeth
Andy Dodge, Hyb Arloesedd Seiber

Yn yr oes ddigidol mae seiberddiogelwch yn agwedd sylfaenol o waith unrhyw sefydliad. Eto, er ei natur hollbwysig, mae llawer o sefydliadau yn dal i’w weld fel cyfrifoldeb yr adran TG yn unig. Mae’r ffordd hon o feddwl yn hen ffasiwn a pheryglus. Mae seiberddiogelwch yn gonsyrn i’r sefydliad cyfan, ac mae’r cyfrifoldeb pennaf gyda’r arweinwyr ar y lefel uchaf. Os oes toriad, nid y pennaeth TG ond y Prif Swyddog Gweithredol fydd yn y sbotolau.

Yn y sesiwn yma bydd Andy o’r Hyb Arloesedd Seiber yn ymuno â ni ac yn rhannu gwybodaeth ar sut y gall sefydliadau eu diogelu eu hunain yn effeithlon yn erbyn y risgiau seiber sy’n esblygu’n barhaus. Mae bellach yn achos o pryd, nid os, y bydd eich sefydliad yn dioddef ymosodiad seiber. Bydd hyn yn cynnwys ystyried sut i reoli digwyddiadau a chewch gamau ymarferol i wella sefyllfa seiberddiogelwch eich sefydliad. Mae hon yn sesiwn hanfodol ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno aros ar y blaen mewn bygythiadau seiberddiogelwch a gwella cydnerthedd eu sefydliad.

16.40yp| Diwedd Diwrnod 1 – Sylwadau’r Cadeirydd

17.00yp | Rhwydweithio gydag arddangoswyr

17.30yp -18.30yp | Derbyniad diodydd a canapes CCC

Yn ôl i'r brig

Dydd Iau 27 Mawrth

8.45yb | Cofrestru, rhwydweithio a gweld yr arddangosfa

9.30yb | Cyflwyniad i Ddiwrnod Dau
Sian Lloyd, Cadeirydd Cynhadledd

9.40
yb | Prif Araith: Newid yn y tirwedd: Rheolau, rheoliadau a disgwyliadau

10.15yb | Sesiwn panel: Byrddau cymdeithasau tai – o’r sylfeini i’r dyfodol

Bydd ein panel yn trafod heriau bod yn aelod bwrdd a sicrhau llywodraethiant effeithlon mewn amgylchedd cynyddol gymhleth. Byddwn yn trafod sut mae byrddau wedi esblygu, ymchwilio anghenion y dyfodol a chlywed gwahanol safbwyntiau ar drin llywodraethiant mewn cymdeithasau tai.

10.45yb | Egwyl Coffi, Rhwydweithio a Gweld yr Arddangosfa

11.10yp | Gweithdai

Gweithdy 1 - Diweddariad Rheoleiddio

Gweithdy 2 - Egluro Cyllid: Gweithdai ar gyfer Byrddau
Sarah Prescott, Rhedyn Consulting

Mae deall y rhifau yn allweddol i wneud pendefyniadau gwybodus – ond gall adroddiadau ariannol weithiau deimlo fel iaith arall. Mae’r gweithdy ymarferol hwn yn esbonio’r eirfa, gan roi’r dulliau hanfodol i aelodau Bwrdd (a thimau gweithredol) i ddehongli gwybodaeth ariannol yn hyderus, gofyn y cwestiynau cywir a gyrru penderfyniadau strategol. Perffaith ar gyfer y rhai sy’n dymuno cryfhau eu trosolwg ariannol heb fynd ar goll yn y manylion.

Gweithdy 3 - Safonau Iaith – beth allai hyn olygu i’r sector tai?

Bydd Osian Llywelyn, y Dirprwy Gomisiynydd Iaith, yn ymuno â ni i drafod goblygiadau’r Safonau Iaith a’r hyn y gallai’r pontio i’r safonau hyn ei olygu’ yn ymarferol i’r sector. Bydd yn amlinellu sut y bydd swyddfa’r Comisiynydd yn cydweithio gyda chymdeithasau tai ac yn ateb cwestiynau i gefnogi cymdeithasu tai i baratoi ar gyfer y newid yma.

Gweithdy 4 - Mapio diwylliant eich sefydliad
Pip Gwynn, Insight HRC


Bydd y sesiwn yma yn rhoi diffiniad clir o beth yw “diwylliant” a’r effaith y gall ei gael ar berfformiad sefydliad. Cewch cyfle i ddefnyddio Map Diwylliant Insight i adnabod y cryfderau a’r risgiau posibl yn eich diwylliant presennol. Bydd y Map yn eich helpu i ganfod “enillion cyflym” i gefnogi’r diwylliant rydych eisiau ei gryfhau a lle i ddechrau newid mwy sylweddol. Yn olaf, bydd y gweithdy yn edrych sut mae diwylliant sefydliadol wedi newid fel canlyniad i weithio hybrid a’r hyn y mae’n ei olygu ar gyfer gweithgareddau newid diwylliant.

12.10yp | Cinio

13.10yp | Prif Araith: Creu diwylliant gyda chysylltiad: Deall y profiad dynol

Bydd John Sills, awdur blaenllaw a phartner yn The Foundation yn trafod arwyddocâd y profiad dynol. Bydd yn defnyddio ei ymchwil helaeth ac enghreifftiau go iawn i ddangos pam fod profiadau emosiynol yr un mor bwysig â rhai swyddogaethol, a sut y gall sefydliadau ac arweinwyr ddefnyddio hyn.

13.50yp | Gweithdai

Gweithdy 1 - Effaith Rheoliadau Defnyddwyr yn Lloegr
Ceri Victory-Rowe, Campbell Tickell


Dywedwyd fod cyflwyno safonau defnyddwyr newydd ar gyfer tai cymdeithasol yn Lloegr yn ffordd o hybu gwelliant i safonau tai cymdeithasol yn Lloegr. Yn y gweithdy yma bydd Ceri Victory-Rowe yn edrych ar yr effaith a gafodd y safonau hyd yma.

Gweithdy 2 - Llywio’r farchnad yswiriant tai cymdeithasol: heriau a strategaethau
Jill Jones, Gallagher

Mae’r farchnad yswiriant tai cymdeithasol wedi wynebu heriau sylweddol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf gyda dewis cyfyngedig, darparwyr allweddol yn gadael y farchnad gan greu cyfyngiadau galluedd a gorfodi llawer o sefydliadau tai i geisio datrysiadau eraill. Mae bellach arwyddion fod y farchnad yswiriant tai cymdeithasol yn dechrau gwella. Bydd y sesiwn yma yn edrych ar yr esblygiad yn nhirwedd yswiriant tai cymdeithasol, gyda ffocws ar lywodraethiant, rheoli risg a dulliau strategol i sicrhau sicrwydd digonol. Byddwn yn trafod goblygiadau newidiadau yn y farchnad ar gyfer byrddau a gweithwyr proffesiynol risg, ymchwilio arferion gorau ar gyfer lliniaru cysylltiad ac ystyried sut y gall sefydliadau lywio amgylchedd yswiriant cynyddol gymhleth.

Gweithdy 3 - Diogelu rhag Bygythiadau Seiber sy’n Esblygu’n Barhaus
Andy Dodge, Hyb Arloesedd Seiber

Yn y sesiwn yma, bydd yr Hyb Arloesedd Seiber yn rhoi gwybodaeth ar sut y gall sefydliadau eu diogelu eu hunain yn effeithlon rhag risgiau seiber. Mae bellach yn achos o pryd, nid os, y bydd eich sefydliad yn dioddef ymosodiad seiber. Bydd hyn yn cynnwys ystyried sut i reoli digwyddiadau, rhai egwyddorion pwysig ar gyfer cyfathrebu a rhai camau ymarferol i wella sefyllfa seiberddiogelwch eich sefydliad. Mae hon yn sesiwn hanfodol ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno gwella cydnerthedd eu sefydliad ac aros ar flaen bygythiadau seiberddiogelwch.

Gweithdy 4 - I'w gadarnhau

14.50yp | Diwedd y gynhadledd


Yn ôl i'r brig

Llety

Gofynnir i chi nodi na fydd CHC yn archebu llety ar gyfer cynrychiolwyr. Gwyddom fod yn well gan lawer ohonoch ddewis eich gwesty eich hun. Mae llawer o westai i ddewis o’u plith yng nghanol Caerdydd.


Fodd bynnag, rydym wedi sicrhau dyraniad o 20 ystafell yn y Park Plaza ar Heol y Brodyr Llwydion/Greyfriars Road, tua 20 munud o’r lleoliad. Mae ganddynt bris arbennig o £119.00 ar gyfer ystafell gwely defnydd sengl a brecwast ar gyfer archebion ar 26 Mawrth 2025. Cysylltwch â’r Park Plaza yn uniongyrchol ar 029 20 111 125 i archebu os gwelwch yn dda.


Yn ôl i'r brig

Cyrraedd yno

Mae CHC yn annog teithio cynaliadwy i’n digwyddiadau. Dyma’r ffyrdd gorau i gyrraedd y lleoliad.

Ar feic

Mae lleoedd tu allan i barcio beiciau yn ymyl prif fynedfa Sbarc. Gofynnir i chi nodi na all y lleoliad na CHC dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled neu ddifrod i feiciau a gaiff eu gadael yno.

Ar drên

Mae Sbarc o fewn 10 munud ar droed o orsaf reilffordd Cathays. Mae gwasanaethau trên rheolaidd o orsaf Caerdydd Canolog i orsaf Cathays.

Ar fws

Mae nifer o safleoedd bws cyfagos ar Maindy Road, Cathays Terrace ac Albany Road, i gyd o fewn cyrraedd rhwydd i adeilad Sbarc. Gallwch gynllunio eich taith yma.


Mewn car

Mae parcio hygyrch ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas ar gael tu blaen i Sbarc. Gadewch i ni wybod os hoffech le, byddwn yn gwneud yn siŵr fod un ar gael ar eich cyfer.

Mae parcio talu ac arddangos ar y stryd ar hyd Maindy Road a’r ardaloedd cyfagos. Gallwch ddefnyddio ap MiPermit i dalu am barcio neu ffonio’r rhif ar yr arwydd a ddangosir wrth ymyl y lleoedd parcio.


Yn ôl i'r brig