Hyb Tai
Ymwelwch â’n hadnodd newydd ar gyfer aelodau yn unig i gael yr wybodaeth hanfodol ddiweddaraf ac adnoddau defnyddiol.
Materion Tai
Rydym yn awr yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu’r Grant Cymorth Tai (HSG) yn ei chyllideb ar gyfer 2024/25.
Costau byw: Sut mae cymdeithasau tai yn mynd i’r afael â’r argyfwng
Wrth i ni ymgyrchu yn genedlaethol, darllenwch sut mae cymdeithasau tai yn cynnig cymorth hanfodol i’w tenantiaid yng Nghymru.
2501 - Cyflwyniad i Gymdeithasau Tai
Gall staff neu aelodau bwrdd a ymunodd â chymdeithas tai yn ddiweddar ganfod yr ystod eang o bolisïau, rheoliadau a geirfa yn ddryslyd iawn. Bydd y cwrs hwn yn helpu i symleiddio rôl a gweithgareddau cymdeithasau tai, yn ogystal ac egluro peth o'r eirfa.
Mae'r cwrs hwn yn cynnwys 2 sesiwn hanner diwrnod. Cynhelir Rhan 1 ar dydd Iau 16 Mai (1yp - 4.30yp). Rhan 2 ar dydd Gwener 17 Mai (1yp-4.30yp).
£150
£200
Ar hyn o bryd nid oes gennym unrhyw cynadleddau Gael
Cynhelir Un Gynhadledd Tai Fawr 2024
‘Cyflawni ar gyfer cymunedau amrywiol mewn cyfnod heriol’
Gwyddom i gyd mai tai da yw sylfaen cymunedau ffyniannus a bod hynny yn cefnogi canlyniadau da ar gyfer unigolion, gwasanaethau cyhoeddus a’n hamgylchedd naturiol gwerthfawr.
Cynhelir Un Gynhadledd Tai Fawr 2024 ar 4 a 5 Gorffennaf a bydd yn gyfle i arweinwyr a rheolwyr o fewn y sector i adlewyrchu sut mae’r gwasanaethau a ddarparant a’r cartrefi newydd y maent yn eu darparu yn adlewyrchu cyfansoddiad ac anghenion amrywiol eu cymunedau yn y ffordd orau.
Rydym yn gweithio ar yr agenda drafft ar hyn o bryd a chaiff ei gyhoeddi yn y dyfodol agos.
Bydd y gynhadledd yn ymchwilio dulliau gweithredu arloesol i:
· Ymgysylltu’n sensitif ac yn effeithiol gyda thenantiaid ar draws ystod o feysydd, o atgyweirio i ôl osod;
· Ystyried anghenion amrywiol cymunedau mewn gwasanaethau a ddarperir i denantiaid, o ymgysylltu cymdogaeth i reoli asedau;
· Cynnwys anghenion y gymuned wrth ddylunio, datblygu a chyflenwi cartrefi newydd; a
· Hyrwyddo bioamrywiaeth ac integreiddiad i’r amgylchedd naturiol.
Archebwch eich lle nawr!
£345
£449